Part of the debate – Senedd Cymru am 6:43 pm ar 22 Ionawr 2020.
Ie, diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. Roedd agoriad Hefin David yn fy atgoffa o'r sylwadau a wnaed am A. J. Cook, yr undebwr llafur—nad oedd yn gwybod beth y byddai'n ei ddweud hyd nes y byddai'n dechrau ei ddweud; ni wyddai beth a ddywedai tra roedd yn ei ddweud, ac ni allai gofio'r hyn a ddywedodd ar ôl iddo orffen ei ddweud. Fe af yn yr ysbryd y mae wedi ei gofyn i mi wneud, ac mae'n bosibl fod hon yn un o'r dadleuon hynny i Aelodau eraill ymyrryd ar y Gweinidog sy'n ymateb, felly rwy'n hapus i dderbyn ymyriadau gan yr ychydig Aelodau sy'n weddill, os ydynt am ymyrryd.
Rwy'n gwerthfawrogi'r ysbryd y mae wedi cynnig y pwnc hwn i'w drafod, oherwydd rwy'n credu ei bod yn hen bryd ei drafod. Ac fel mae'n digwydd, rwyf wedi gwahodd Sefydliad Bevan i fynychu cyfarfod nesaf tasglu'r Cymoedd i drafod yr union bapur hwn. Oherwydd, fel yntau, fe'i darllenais ac roedd yn ddiddorol ac roedd llawer ohono'n fy argyhoeddi'n reddfol, er fy mod yn amheus ynghylch rhannau eraill ohono, ac rwy'n awyddus iawn iddynt ddod i mewn, a mynd drwyddo a'i drafod. Rwyf hefyd, gyda llaw, wedi cyhoeddi gwahoddiad parhaol iddynt fynychu holl gyfarfodydd y tasglu yn y dyfodol, ond yn benodol gyda mandad i herio. Nid wyf am eu rhwymo i'r tasglu ac maent yn gyndyn o wneud hynny, ond mae yna eitem sefydlog ar yr agenda iddynt ddod i mewn a chyfrannu os dymunant wneud hynny, oherwydd yn union fel Alun Davies a arweiniai ar hyn yn flaenorol, a Hefin David yn ysbryd ei sylwadau, nid wyf yn credu bod gennym dempled yma, yn hollol. Rydym yn ceisio dod o hyd i ffordd yn erbyn llanw sy'n gwthio trefi i gyfeiriad penodol, llanw sydd wedi eu hamddifadu o lawer o'u diben economaidd. Ac fel y dywedodd Hefin, er bod pobl yn caru eu trefi, yn anffodus mae pobl yn defnyddio llai a llai arnynt, a dyna baradocs trefi a'r rôl a gawn fel gwleidyddion, rwy'n meddwl, o fod eisiau iddynt ffynnu a gwneud llwyth o bethau i wneud iddynt ffynnu.
Yr unig ran o nodyn briffio'r gwasanaeth sifil a ddefnyddiaf yw sôn yn fyr iawn am bedwar peth rydym yn eu gwneud i helpu trefi. Mae gennym raglen adfywio £100 miliwn wedi'i thargedu. Mae gennym gronfa adeiladu ar gyfer y dyfodol o £54 miliwn ar gyfer caffael ac ailddatblygu adeiladau segur. Mae gennym gynllun benthyca gwerth £31.5 miliwn ar gyfer canol trefi, ac rydym yn gwario £23.5 miliwn ar ryddhad ardrethi busnes. Felly, rydym yn gwneud llawer. Tybiaf mai'r her o bosibl yw gweld a oes digon o ffocws i hynny, ac a ydym yn glir ynglŷn â beth yw'r weledigaeth. Mae hyn yn aml yn wir am awdurdodau lleol. Yn sicr, mae fy un i yn Sir Gaerfyrddin wedi bod yn dda iawn am adnewyddu hen adeiladau, ond nid yw'n glir i mi beth yw'r strategaeth a'r cynllun ar gyfer canol y dref, ac mae hwnnw'n bwynt y mae'r Ffederasiwn Busnesau Bach wedi'i wneud yn eu gwaith.
Felly, nid wyf yn credu bod gennym ni i gyd ateb clir ar gyfer hyn eto, ond mae'r her yn un gywir, ac rwyf am barhau i drafod sut i siapio dull y Llywodraeth o fynd ati er mwyn ceisio gwneud hynny mor gywir ag y gallwn.
Os nad oes ots ganddo i mi ddweud hynny, credaf ei fod yn gor-ddweud y gwahaniaethau rhyngof ac Alun Davies i raddau ar rôl yr hybiau strategol, a pha un a yw'r cysyniad blaenorol yn wahanol i'r un presennol a sut y mae hynny'n cyd-fynd â chysyniad Sefydliad Bevan. Credaf fod rhywfaint o wirionedd yn hynny, yn yr ystyr mai cyfrwng ariannu oedd yr hybiau strategol yn y fersiwn wreiddiol ac nad ydynt yn gyfrwng ariannu bellach, ond maent yn dal i fod yn rhan bwysig iawn o waith y tasglu a gwaith y Llywodraeth am eu bod yn rhoi ffocws gofodol i'n gwaith.