– Senedd Cymru am 6:30 pm ar 22 Ionawr 2020.
Symudwn ymlaen yn awr at y ddadl fer, a galwaf ar Hefin David i siarad am y pwnc a ddewiswyd ganddo. Hefin.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Mae'r ffordd rwy'n mynd ati i wneud y ddadl fer hon yn un rwyf wedi'i thrafod gyda'r Gweinidog. Nid wyf wedi ysgrifennu araith mewn gwirionedd. Mae gennyf nodiadau, ond nid wyf wedi ysgrifennu araith, felly nid wyf yn gwybod beth rwy'n mynd i'w ddweud yn yr araith hon. Ond rwyf hefyd wedi cytuno gyda'r Gweinidog nad yw yntau wedi ysgrifennu fawr o araith chwaith, ac nid yw'n dibynnu ar nodiadau'r gwasanaeth sifil; mae'n mynd i ateb yr hyn rwy'n ei ddweud. Efallai y bydd rhai pobl yn dweud ei fod yn ddull unigryw o gynnal dadl fer; hoffwn ei galw'n 'ddadl fer heb ei pharatoi ymlaen llaw.' Dyna rwy'n mynd i'w galw, er i'r Gweinidog ei galw'n rhywbeth arall, na ellir ei ailadrodd yn y Siambr hon.
Yr hyn yr hoffwn edrych arno yw adroddiad Sefydliad Bevan ar drefi angor, sef eu cyfraniad at rywfaint o'r ddadl, a chredaf ei fod wedi canolbwyntio ar beth o'r ddadl mewn perthynas â thasglu'r Cymoedd, a'r hyn y mae tasglu'r Cymoedd yn ei wneud, er eu bod yn dweud yn glir y gellir cymhwyso'r cysyniadau yn yr adroddiad hwn i Gymru gyfan. A'r hyn yr hoffwn ei wneud yw edrych ar y cysyniad o drefi angor, 'anchor towns' nid 'Irranca towns' fel y dywedodd Huw pan oedd yn eistedd wrth fy ymyl. Pe bai'n ymwneud â hynny, meddai, byddai wedi aros i wrando ar y ddadl, ac addewais y buaswn yn cynnwys y jôc honno.
Mae arnaf eisiau siarad am y cysyniad o drefi a threfi angor, a'r gwahaniaeth rhwng y ddau, a chanolbwyntio wedyn ar rai o'r pethau cadarnhaol a rhai o'r anawsterau gyda'r cysyniad yn fy marn i, a cheisio cael gwybod gan y Gweinidog beth yw ei farn ef. Beth, yn ei farn ef, y dylai Llywodraeth Cymru ei nodi o'r adroddiad hwn, a'i wneud yn sgil hynny? Rwy'n meddwl bod trefi angor yn esblygiad o'r hybiau strategol, a oedd yn nhasglu gwreiddiol y Cymoedd, ac mae'r cyn-Weinidog yma wedi bod mor garedig ag aros i wrando ar y ddadl hon; rwy'n gobeithio y bydd yn aros ar gyfer y ddadl gyfan ac na fydd yn cerdded allan—
Wel, mae hynny'n dibynnu ar ba mor ddiddorol fydd hi. [Chwerthin.]
Dywedodd ei fod am aros cyhyd ag y byddaf yn ei gwneud yn ddiddorol, felly os yw'n mynd, rydym yn gwybod beth fydd yn ei feddwl.
A'r diffiniad yn yr adroddiad—maent yn disgrifio trefi angor fel canolfannau is-ranbarthol ar gyfer cyflogaeth, addysg a gwasanaethau allweddol, gyda chysylltiadau trafnidiaeth cryf, ac maent yn cefnogi busnesau newydd a rhai sy'n tyfu ac sy'n darparu sylfaen gwsmeriaid sy'n ddigon mawr i fusnesau lleol fel siopau bwyd, bwytai a chaffis a gwasanaethau lleol, fel swyddfeydd post a banciau, allu ffynnu ochr yn ochr â chynnig diwylliannol a chymunedol cryf. Nawr, bydd y rhai ohonom yn y Siambr hon sy'n cynrychioli cymunedau â threfi sydd mewn trafferthion yn gwybod mai dyna'r greal sanctaidd bron iawn; mae'n eithaf anodd inni gyflawni hynny, mae honno'n her go fawr inni ei chyflawni. Ac mae'n cysylltu'r economi sylfaenol o fewn yr adroddiad yn ogystal, Ddirprwy Weinidog. Mae hwnnw'n ddatganiad cadarnhaol iawn ar yr economi sylfaenol y credaf ei fod wedi dechrau a datblygu ar feinciau cefn Llafur ac wedi lledaenu ar draws y Siambr a'i chynnwys o fewn y Llywodraeth yn effeithiol iawn gan y Dirprwy Weinidog. Y rheswm pam y cafodd yr economi sylfaenol ei hyrwyddo yn y Llywodraeth yw oherwydd y Dirprwy Weinidog yn y fan honno; nid wyf yn ei ganmol yn aml iawn, felly, os gwelwch yn dda, Weinidog, gwnewch y gorau o hynny.
Ceir nifer gyfyngedig o drefi y gellir eu categoreiddio'n drefi angor, ac nid yw pob un ohonynt yn arddangos y nodweddion hynny. Yn anochel felly, oherwydd maent mor benodol ac anodd eu cyflawni. Ac eto, yn ôl Sefydliad Bevan, mae trefi bach yn gartref i 40 y cant o boblogaeth Cymru, ac mae llawer yn byw'n agosach at dref nag at ddinas fawr. Ac rwy'n cofio tyfu i fyny yn Mhenpedairheol, sy'n bentref; byddem yn sôn am fynd allan am y diwrnod gyda fy nhad-cu i Fargoed—dyna lle byddech yn mynd am y diwrnod, nid i Gaerdydd, nid i'r Coed-duon, ond i Fargoed. Rwy'n amheus iawn a yw'r bobl ym Mhenpedairheol yn sôn y dyddiau hyn am fynd am y diwrnod i Fargoed. Dyna ran o'r drasiedi. Mae pobl yn hoff iawn o'u trefi—mae pobl yn caru eu trefi—ac maent yn anobeithio pan fydd y trefi dan orthrwm a heb fod mor effeithiol ag yr arferent fod. Rwy'n meddwl hefyd, Alun Davies, am Fryn-mawr, a'r ymgyrch i achub Sinema Neuadd y Farchnad. Dyna enghraifft o gariad tuag at dref, a bu'r ymgyrch honno'n weithredol drwy dref Bryn-mawr i gyd, a theimlai'r bobl yn anhygoel o gryf am y peth, a gwn eich bod chithau hefyd.
Ac yn fy etholaeth i, ymysg eraill, mae gennym Fargoed, Senghennydd, Bedwas, Nelson, Ystrad Mynach, ac wrth gwrs, Caerffili, a byddai pob un ohonynt yn ystyried eu hunain yn drefi i ryw raddau neu'i gilydd. Felly, gadewch inni feddwl am drefi angor. A allant fod yn drefi angor, a beth yw manteision y cysyniad hwn? Gadewch i ni feddwl am hynny.
Wel, yn gyntaf oll, fel y dywedais, rwy'n credu bod yr adroddiad hwn wedi bod yn gyfraniad gwerthfawr i'r ddadl, a chredaf fod yna bethau yma a ddylai lywio strategaeth Llywodraeth Cymru yn y dyfodol. Mae'n cyd-fynd yn dda â'r fersiwn wreiddiol o dasglu'r Cymoedd—fersiwn wreiddiol y Gweinidog o dasglu'r Cymoedd. Rwy'n credu ei fod yn cyd-fynd yn dda â hynny, ac efallai'n cyd-fynd yn well â hynny nag â'r fersiwn ddilynol a ddatblygwyd gan y Gweinidog. Wedi dweud hynny, mae hefyd yn symud y tu hwnt i'r cysyniad diffygiol hwnnw o hybiau strategol. Ac rwy'n credu eu bod yn ddiffygiol, ac fe ymhelaethaf ar hynny yn nes ymlaen. Ac mae'r cysyniad o drefi angor yn sôn mwy am wasanaethau sydd wedi'u hintegreiddio i'r cysyniad o le mewn ffordd nad oedd yr hybiau strategol yn ei wneud yn fy marn i.
Ffactor cadarnhaol arall hefyd, rwy'n credu, yw bod trefi angor i ffwrdd oddi wrth goridor yr M4. Felly, rydym yn sôn am ail-gydbwyso teithio, oddi wrth y gogledd i'r de yn y bore, a dechrau symud o'r de i'r gogledd—mwy am y dwyrain a'r gorllewin mewn munud. Ac rwy'n credu bod hynny'n beth da iawn, ac yn sicr bydd yn gwneud mwy i dynnu ceir allan o Gaerdydd na'r tâl atal tagfeydd gwarthus, sy'n dreth mewn gwirionedd, pan nad oes unrhyw ddewisiadau eraill yn lle defnyddio'u ceir ar gael i bobl ddod i mewn i Gaerdydd. Felly, rwy'n credu bod y cysyniad hwn o drefi angor yn llawer mwy cadarnhaol gan ei fod yn cynnig dewis arall yn lle teithio i mewn i Gaerdydd.
Mae hefyd, fel y dywedais, yn ymgais i ategu polisi'r Llywodraeth ar yr economi sylfaenol. Ac ar dudalen 8, mae'n siarad mewn gwirionedd am y gallu i fyw'n sylfaenol, ac mae'n dweud,
Mae llwyddiant yn ymwneud â pha un a yw lleoedd yn gweithio mewn ffordd y gellir byw ynddynt i lawer o fathau o aelwydydd. Nid a ydynt yn ddiffygiol yn ôl mesur gwerth ychwanegol gros neu a ydynt yn brin o baraffernalia byw ffasiynol y dosbarth canol.
Rwy'n hoff o hynny, a dyna'u barn am fyw sylfaenol, sy'n cyd-fynd yn dda iawn â'r modd y mae'r Gweinidog yn hyrwyddo'r economi sylfaenol. Mae'n ystyried y gwasanaethau sy'n bodoli'n barod hefyd, rhywbeth roeddwn yn ei feirniadu mewn perthynas â'r hybiau strategol.
Ond gadewch i ni fod yn gadarnhaol—ceir rhai pethau yn y cysyniad sy'n dweud y dylai'r pethau hyn gysylltu â threfi angor, a'r pethau hynny yw: ysbytai a byrddau iechyd, sefydliadau addysgol, llywodraeth leol, cyrff cyhoeddus eraill fel swyddfeydd llywodraeth a chymdeithasau tai. Felly, os edrychaf ar fy etholaeth i, gallaf weld, yn Ystrad Mynach, Ysbyty Ystrad Fawr, gallaf weld Coleg y Cymoedd, gallaf weld swyddfeydd y cyngor, Tŷ Penallta, a swyddfeydd busnes Tredomen, gallaf weld cymdeithasau tai—wel, bron iawn, gallaf weld United Welsh, sydd ar Ffordd Beddau, yn nes at Gaerffili, ond gallech wneud hynny i raddau. Ac rwyf wedi ychwanegu fy nghategori bach fy hun—gweithgareddau chwaraeon. Oherwydd lleolwyd Canolfan Ragoriaeth Dreigiau Casnewydd Gwent ar draws y ffordd i Ysbyty Ystrad Fawr. Felly, mae gennych hynny yn ogystal. Ond y pwynt a wnânt—y pwynt a wnânt—yw mai dim ond os yw'r sefydliadau hyn yn cydweithio â'i gilydd y mae'n gweithio. Ac os siaradwch ag unrhyw un yn Ystrad Mynach, ni fyddent yn gweld canolfan ragoriaeth y Dreigiau fel cyfleuster cymunedol; caiff ei weld fel cyfleuster elitaidd, sy'n achosi mwy o broblemau i glwb rygbi Penallta nag y mae'n eu datrys mewn gwirionedd. Felly, gwelir y ganolfan ragoriaeth fel cyfleuster hyfforddi elitaidd, ac mae'n anodd ac yn ddrud iawn i'r gymuned ei defnyddio. Felly mae yna ffyrdd y gall y trefi angor hyn wella mynediad. Yn y ffordd y soniwn am ysgolion cymunedol, wel, pam nad cyrff cyhoeddus sy'n canolbwyntio ar y gymuned a chyrff busnes hefyd? Mae angen iddynt ganolbwyntio ar economi deg a chynhwysol.
Felly beth am yr anawsterau? Mae yna bethau cadarnhaol, a dyma rai o'r pethau sy'n anodd am y cysyniad o drefi angor yn fy marn i. Rwy'n credu ei fod yn seiliedig ar un o gysyniadau blaenorol tasglu'r Cymoedd yr ydym yn symud oddi wrtho. Felly beth y mae hynny'n ei olygu ar gyfer meddwl yn strategol? A yw'n golygu y bydd y Gweinidog, felly, yn gwrthod trefi angor? A yw hynny'n golygu, Ddirprwy Weinidog, eich bod yn teimlo bod trefi angor yn gysyniad nad yw'n werth ei ystyried gan Lywodraeth Cymru, neu a oes pethau yno y byddech yn hoffi eu defnyddio? Ond mae'n sicr yn cyd-fynd yn well â barn eich rhagflaenydd ynglŷn â'r hyn y dylai tasglu'r Cymoedd fod—rwy'n credu—na'r hyn rydych chi'n ei weld ydyw ar hyn o bryd.
Yn ôl y diffiniad mwyaf llym hefyd—dyma feirniadaeth blwyfol—yr unig dref angor go iawn yn fy etholaeth i yw Ystrad Mynach. Ni fyddai Bargoed, Senghennydd, Nelson, na Chaerffili hyd yn oed—Caerffili ar binsh—yn cael eu categoreiddio fel trefi angor. Mae hynny'n creu rhywfaint o anhawster os ydych yn pryderu am yr effaith luosydd y gallai trefi angor ei chreu. Mae 'A oes effaith luosydd?', yn gwestiwn da iawn i'w ofyn, oherwydd gallai fod yn fantais atgyfnerthol. Mae'r holl wasanaethau hyn gan Ystrad Mynach eisoes; nid yw hynny'n wir am Fargoed, na Senghennydd. Beth a wnawn dros y cymunedau hynny? Mae hi'r un broblem ag a oedd gennyf gyda hybiau strategol. Datblygwyd hybiau strategol mewn cymunedau fel Ystrad Mynach a Chaerffili, lle mae pobl am adeiladu tai, lle mae pobl am dyfu busnesau. Ond beth am y cymunedau nad ydynt yn drefi angor? Sut y gallant gysylltu â'r cymunedau hynny? Sut y gall lluosydd weithio tu hwnt i'r eirlin? Sut y gallwch wneud i hynny ddigwydd? Ac mae hwn yn gwestiwn rwy'n ei ofyn i chi, Weinidog.
Mae fy etholaeth yn eithaf llinol—mae'n symud o'r gogledd i'r de. A yw ond yn gweithio—ai dim ond mewn mannau consentrig y gall trefi angor weithio? Mae Ystrad Mynach yn gonsentrig; dyna'r unig dref gonsentrig yn fy nghymuned—mae pob un o'r lleill yn llinol. A yw hynny'n rhan o'r rheswm dros eu llwyddiant?
Nawr, nid ydym yn sôn chwaith am greu trefi newydd—rydym yn gweithio gyda'r hyn sydd gennym eisoes. A phe baem yn adeiladu trefi newydd, byddem yn eu hadeiladu fel trefi angor, ond nid ydym yn gwneud hynny; rydym yn gweithio gyda'r hyn sydd gennym, ac efallai nad yw'r hyn sydd gennym yn ei gwneud hi'n hawdd creu hynny. Mae'n galw am seilwaith trafnidiaeth a chysylltedd er mwyn llwyddo. Mae gan Ystrad Mynach hynny, ond rydym ymhell o fod â system trafnidiaeth gyhoeddus effeithiol eto. Y bore yma, roeddwn ar y gwasanaeth trên i Gaerffili. Ynghyd â'r holl deithwyr eraill, roedd yn rhaid i ni ddod oddi ar y trên yng Nghaerffili a mynd ar fws Stagecoach poeth a chwyslyd, ac o ganlyniad, fe gollais bwyllgor—ni chyrhaeddais tan 10:38. Pe bawn yn weithiwr a gyflogid fesul awr neu pe na bai gennyf gyflogwr caredig, buaswn mewn anhawster mawr. Nid ydym wedi sicrhau cysylltedd trafnidiaeth eto. Yn ffodus, cefais faddeuant gan y prif chwip heddiw.
A'r peth arall, wrth gwrs, yw bod angen cymhorthdal cyhoeddus mawr ar gyfer hyn—y mathau hyn o weithgarwch trafnidiaeth. Ar hyn o bryd, mae cyngor Caerffili yn talu £81,000 y flwyddyn i'r gwasanaeth bysiau i redeg bws sy'n cysylltu'r Coed-duon â gorsaf Ystrad Mynach, dwyrain a gorllewin. Mae hynny o dan fygythiad oherwydd toriadau llywodraeth leol. A'r peth arall yw ein bod yn tueddu i beidio ag edrych i'r dwyrain a'r gorllewin yn y Cymoedd. Nodir yn yr adroddiad fod Merthyr Tudful yn dref angor bosibl. Gadewch i mi ddweud wrthych, nid wyf ond wedi bod ynghanol tref Merthyr Tudful dair gwaith yn fy mywyd, ac un o'r adegau hynny oedd i ymweld â Dawn Bowden. Nid wyf wedi bod yno. Bûm ym Mharc Cyfarthfa—[Torri ar draws.] Wel, mi wnaf bwynt o fynd yno, gan fy mod yn cael argymhellion o'r llawr. Bûm ym Mharc Cyfarthfa ac rwyf wedi bod yn y parc manwerthu, ond canol tref Merthyr Tudful—ni fûm yno. Nid yw'n rhywbeth rydym yn meddwl amdano yn fy nghymuned i. Nid ydym yn edrych i'r dwyrain a'r gorllewin. Rwyf wedi bod yn Aberdâr ychydig yn fwy aml yn ddiweddar nag yn y gorffennol, ond mater o raid oedd hynny.
Felly, beth sy'n cyd-fynd â'r adroddiad hwn? Rwy'n credu bod yn rhaid i ni weithio gyda sut y mae pobl yn byw mewn gwirionedd, nid gyda'r ffordd y mae gweision sifil Llywodraeth Cymru yn meddwl ein bod ni'n byw, ac felly, mae angen iddo gael ei ddatblygu gan y bobl eu hunain. Mae angen ei wneud ar y cyd â phrifddinas-ranbarth Caerdydd, gan weithio tuag at gynllun datblygu strategol, a gafodd ei danseilio, gyda llaw, gan yr argymhelliad ynglŷn â thâl atal tagfeydd ar gyfer Caerdydd. Mae angen inni weithio gyda'n gilydd ac yn gydweithredol arno, ac nid yw hynny'n digwydd.
Mae'n dangos rôl werthfawr y byrddau gwasanaethau cyhoeddus. Rwy'n hoffi hynny, ond a wyddoch chi beth? Ar ddiwedd Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau yr wythnos diwethaf, gofynnais i Aelodau o bob plaid o amgylch y bwrdd faint o ran roeddent wedi'i gael gyda'r byrddau gwasanaethau cyhoeddus, a dywedasom, 'Beth yw bwrdd gwasanaethau cyhoeddus?' Nid ydym wedi ymwneud â hwy; nid ydym wedi ymgysylltu â nhw. Nid ydynt wedi cysylltu â ni. Russell George, Bethan Sayed—mae hynny'n wir, onid yw? Nid ydym wedi gwneud hynny. Cawsom y drafodaeth honno, ac felly, os yw byrddau gwasanaethau cyhoeddus yn mynd i chwarae rhan, mae'n rhaid iddynt fod yno'n gwneud hynny, yn ein cynnwys ni ac yn cydweithio. Ar hyn o bryd, nid wyf yn ei weld.
A'r cwestiwn arall yw bod Sefydliad Bevan yn cyfeirio at y Bil partneriaeth gymdeithasol, gan gysylltu'r sector cyhoeddus, y sector preifat a'r sector gwirfoddol gyda'i gilydd er y lles cyffredin. Gwych—peth ardderchog—ond beth fydd manylion hynny, Ddirprwy Weinidog? Sut y bydd y Bil partneriaeth gymdeithasol yn galluogi pethau fel trefi angor i ffynnu? Nid wyf yn gwybod; hoffwn gael mwy o fanylion.
Dadl yw hon, ac rwyf wedi nodi ambell gwestiwn. Er nad wyf wedi fy argyhoeddi'n llwyr gan y cysyniad o drefi angor, mae egwyddorion sylfaenol cydweithredu cymunedol, cydgynhyrchu ac egwyddorion o'r bôn i'r brig yn rhywbeth rwy'n ei gefnogi ac rwy'n eu cefnogi'n fawr iawn. Ond Ddirprwy Weinidog, y Llywodraeth sydd i ateb y cwestiwn ynglŷn â sut y caiff yr egwyddorion hynny eu gweithredu yn ymarferol. Y cwestiwn mawr rwy'n ei ofyn o ganlyniad i'r ddadl hon, ac o ganlyniad i'r cysyniad o drefi angor yw: ble mae tasglu gweinidogol y Cymoedd yn dymuno mynd gyda hyn? Ac efallai y gallech ateb y cwestiwn yn eich anerchiad.
Diolch. A gaf fi alw yn awr ar Ddirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth i ymateb i'r ddadl? Lee Waters.
Ie, diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. Roedd agoriad Hefin David yn fy atgoffa o'r sylwadau a wnaed am A. J. Cook, yr undebwr llafur—nad oedd yn gwybod beth y byddai'n ei ddweud hyd nes y byddai'n dechrau ei ddweud; ni wyddai beth a ddywedai tra roedd yn ei ddweud, ac ni allai gofio'r hyn a ddywedodd ar ôl iddo orffen ei ddweud. Fe af yn yr ysbryd y mae wedi ei gofyn i mi wneud, ac mae'n bosibl fod hon yn un o'r dadleuon hynny i Aelodau eraill ymyrryd ar y Gweinidog sy'n ymateb, felly rwy'n hapus i dderbyn ymyriadau gan yr ychydig Aelodau sy'n weddill, os ydynt am ymyrryd.
Rwy'n gwerthfawrogi'r ysbryd y mae wedi cynnig y pwnc hwn i'w drafod, oherwydd rwy'n credu ei bod yn hen bryd ei drafod. Ac fel mae'n digwydd, rwyf wedi gwahodd Sefydliad Bevan i fynychu cyfarfod nesaf tasglu'r Cymoedd i drafod yr union bapur hwn. Oherwydd, fel yntau, fe'i darllenais ac roedd yn ddiddorol ac roedd llawer ohono'n fy argyhoeddi'n reddfol, er fy mod yn amheus ynghylch rhannau eraill ohono, ac rwy'n awyddus iawn iddynt ddod i mewn, a mynd drwyddo a'i drafod. Rwyf hefyd, gyda llaw, wedi cyhoeddi gwahoddiad parhaol iddynt fynychu holl gyfarfodydd y tasglu yn y dyfodol, ond yn benodol gyda mandad i herio. Nid wyf am eu rhwymo i'r tasglu ac maent yn gyndyn o wneud hynny, ond mae yna eitem sefydlog ar yr agenda iddynt ddod i mewn a chyfrannu os dymunant wneud hynny, oherwydd yn union fel Alun Davies a arweiniai ar hyn yn flaenorol, a Hefin David yn ysbryd ei sylwadau, nid wyf yn credu bod gennym dempled yma, yn hollol. Rydym yn ceisio dod o hyd i ffordd yn erbyn llanw sy'n gwthio trefi i gyfeiriad penodol, llanw sydd wedi eu hamddifadu o lawer o'u diben economaidd. Ac fel y dywedodd Hefin, er bod pobl yn caru eu trefi, yn anffodus mae pobl yn defnyddio llai a llai arnynt, a dyna baradocs trefi a'r rôl a gawn fel gwleidyddion, rwy'n meddwl, o fod eisiau iddynt ffynnu a gwneud llwyth o bethau i wneud iddynt ffynnu.
Yr unig ran o nodyn briffio'r gwasanaeth sifil a ddefnyddiaf yw sôn yn fyr iawn am bedwar peth rydym yn eu gwneud i helpu trefi. Mae gennym raglen adfywio £100 miliwn wedi'i thargedu. Mae gennym gronfa adeiladu ar gyfer y dyfodol o £54 miliwn ar gyfer caffael ac ailddatblygu adeiladau segur. Mae gennym gynllun benthyca gwerth £31.5 miliwn ar gyfer canol trefi, ac rydym yn gwario £23.5 miliwn ar ryddhad ardrethi busnes. Felly, rydym yn gwneud llawer. Tybiaf mai'r her o bosibl yw gweld a oes digon o ffocws i hynny, ac a ydym yn glir ynglŷn â beth yw'r weledigaeth. Mae hyn yn aml yn wir am awdurdodau lleol. Yn sicr, mae fy un i yn Sir Gaerfyrddin wedi bod yn dda iawn am adnewyddu hen adeiladau, ond nid yw'n glir i mi beth yw'r strategaeth a'r cynllun ar gyfer canol y dref, ac mae hwnnw'n bwynt y mae'r Ffederasiwn Busnesau Bach wedi'i wneud yn eu gwaith.
Felly, nid wyf yn credu bod gennym ni i gyd ateb clir ar gyfer hyn eto, ond mae'r her yn un gywir, ac rwyf am barhau i drafod sut i siapio dull y Llywodraeth o fynd ati er mwyn ceisio gwneud hynny mor gywir ag y gallwn.
Os nad oes ots ganddo i mi ddweud hynny, credaf ei fod yn gor-ddweud y gwahaniaethau rhyngof ac Alun Davies i raddau ar rôl yr hybiau strategol, a pha un a yw'r cysyniad blaenorol yn wahanol i'r un presennol a sut y mae hynny'n cyd-fynd â chysyniad Sefydliad Bevan. Credaf fod rhywfaint o wirionedd yn hynny, yn yr ystyr mai cyfrwng ariannu oedd yr hybiau strategol yn y fersiwn wreiddiol ac nad ydynt yn gyfrwng ariannu bellach, ond maent yn dal i fod yn rhan bwysig iawn o waith y tasglu a gwaith y Llywodraeth am eu bod yn rhoi ffocws gofodol i'n gwaith.
A wnaiff y Gweinidog dderbyn ymyriad?
Rwy'n hapus i dderbyn ymyriad.
Gan mai fi oedd y Gweinidog a ddyfeisiodd y pethau hyn a'u bod wedi cael eu trafod nifer o weithiau, efallai y byddai'n ddefnyddiol i mi ddweud beth oedd y tu ôl iddo ar y pryd. Nid oedd yr hybiau strategol erioed yn ffordd o wneud dim heblaw canolbwyntio buddsoddiad mewn mannau penodol, oherwydd y feirniadaeth a glywsom a'r feirniadaeth a wnaed—yn deg, rwy'n credu, yn y gorffennol—oedd mai adnoddau cyfyngedig oedd gan Lywodraeth Cymru a'i bod wedi'u rhannu mor denau fel nad oedd iddynt effaith wirioneddol. A'r ystyriaeth oedd os ydym am gael effaith ddifrifol a chyflawni'r targedau a osodwyd ar ein cyfer dros dymor o bedair neu bum mlynedd, roedd hynny'n galw ac yn gofyn am fuddsoddi mewn lleoedd penodol.
Ond defnyddiasom y term 'hybiau' yn rhannol oherwydd bod pawb arall yn defnyddio'r term ac yn ail, am ein bod wedi ceisio osgoi'r ddadl ar drefi angor. Er enghraifft, yn fy etholaeth i, byddai hynny'n golygu dweud wrth Lynebwy, 'Rydych yn cael yr holl fuddsoddiad hwn', a dweud wrth Dredegar yn yr un modd, wrth Fryn-mawr, wrth Nant-y-glo, wrth Flaenau, wrth Abertyleri, 'Nid ydych yn cael y buddsoddiad hwnnw.' Ac roedd yn bwysig felly i ni ddweud ein bod am ganolbwyntio buddsoddiad o gwmpas mannau penodol sy'n hybiau trafnidiaeth y dyfodol, a phopeth, ond a fyddai wedyn yn arwain at fuddsoddiad pellach. Ni chaent eu gweld fel holl hanfod a diben y polisi.
Rwy'n cytuno â hynny ac wrth gwrs, roedd yna fethodoleg yn sail i'r dewis.
Oedd, yn wir.
Felly, nid ymarferiad cefn pecyn sigarennau oedd hwn; gwnaed llawer o waith ar eu dewis. Rwy'n credu bod Alun Davies wedi taro'r hoelen ar ei phen o ran hanfod y broblem gyda'r hybiau strategol fel rwyf wedi eu gweld, ac mae hefyd yn berthnasol i'r trefi angor. Nid y cysyniad sy'n anghywir; plwyfoldeb cymunedol yw'r her, oherwydd faint o bobl ydych chi'n penderfynu eu cynnwys? Pan drosglwyddwyd y briff hwn i mi, dywedais wrth y gweision sifil, 'Pam fod gennym saith hyb strategol? Mae hynny i'w weld yn llawer', ac atebodd y gwas sifil, 'Roeddem yn eithaf balch ein bod wedi'i gadw i gyn lleied â saith.' A dyna'r her a osodais i Sefydliad Bevan wrth noddi'r syniad hwn oherwydd nid wyf yn gwrthwynebu'r egwyddor, ond sut ydych chi'n mynd i atal—? Pe baech yn gallu penderfynu ar dri byddai grym i'r ddadl, ond nid ydym byth yn mynd i benderfynu ar dri, felly a yw'n werth y drafferth mewn gwirionedd?
Teimlaf fod Alun Davies am ymyrryd unwaith eto.
Buaswn yn dweud nad oedd y fersiwn gyntaf yn cynnwys unrhyw hybiau strategol yn y Cymoedd chwaith, felly roedd yn broses hwy nag y byddai pobl yn ei feddwl o bosibl.
Yn hollol. Ac fel y dywedais, rydym yn cadw hybiau strategol fel offeryn cynllunio gofodol. Gyda Chaerffili er enghraifft, gwnaed llawer o waith, a buddsoddwyd llawer, ym mhrif gynllun Caerffili na fyddai wedi bodoli pe na bai cysyniad yr hybiau strategol wedi bod yno. [Torri ar draws.] Rwy'n hapus i ildio.
Cefais gyfarfod gyda phrif weithredwr cyngor Caerffili, ac rydych chi'n hollol gywir, y rheswm pam yr aethant am brif gynllun Caerffili oedd oherwydd yr hybiau strategol. Y broblem yw bod Senghennydd wedi'i hepgor ynddo. Felly cafodd hynny yr union effaith honno.
Do, a dyma ni'n dod at y broblem eto.
Felly, beth a wnawn ynglŷn â hyn? Soniaf yn fras am hyn fel prif bwynt olaf: y byrddau gwasanaethau cyhoeddus a'r rôl sydd ganddynt, a sut y mae cysyniad yr economi sylfaenol yn cyd-fynd â hynny. Dylwn gydnabod yn briodol fod yr economi sylfaenol yn fudiad cefnogwyr roedd Hefin David, Vikki Howells, Jeremy Miles a Jenny Rathbone ar ein meinciau ni yn rhan ohono, ac roedd Adam Price a David Melding ar y meinciau eraill yn rhan ohono hefyd. Roedd yn fudiad trawsbleidiol, ac mae'n bwysig ei fod yn parhau felly.
Fel y gwyddoch, rydym wedi treblu maint cronfa her yr economi sylfaenol, ond y wir wobr yw lledaenu a thyfu arferion da, a dyna lle mae gan y byrddau gwasanaethau cyhoeddus botensial i gyflawni eu diben. Buaswn yn cytuno â'i sylwadau nad oes llawer yn eu deall hyd yn hyn, a thu hwnt i gynhyrchu strategaethau, nid ydynt eu hunain wedi cael effaith mewn gwirionedd. Felly, mae fy her i'r byrddau gwasanaethau cyhoeddus yn dechrau nawr, gan ein bod ar fin penodi partner i weithio gyda phedwar clwstwr ohonynt i ledaenu ac i rannu model caffael Preston ac yna, fel y dengys y cronfeydd arbrofol—ac roeddwn yn swyddfeydd United Welsh yn etholaeth Hefin David ddydd Llun i gyfarfod â phrosiectau'r Cymoedd y gronfa arbrofol—rydym yn awyddus i ledaenu a thyfu'r rheini'n gyflym ar draws y byrddau gwasanaethau cyhoeddus.
Ac os cawn hynny'n iawn, yn enwedig o ran caffael, bydd budd y gwariant cyhoeddus, sy'n £6 biliwn y flwyddyn yng Nghymru, yn llifo i'r cymunedau yn ei etholaeth sydd ar hyn o bryd yn teimlo eu bod yn cael eu hesgeuluso. Ac yna, rwy'n meddwl, bydd pa un a ydym yn eu galw'n 'drefi angor' a'r nifer sydd gennym yn faterion bron yn ymylol. Y pwynt yw: sut y gallwn feithrin ac annog gwead ein cymunedau sydd wedi teimlo eu bod wedi'u hesgeuluso, ac am reswm da? A dyna yw holl ddiben ein dull o weithredu ar yr economi bob dydd a rôl byrddau gwasanaethau cyhoeddus wrth wneud hynny. Pa un a allwn ei wneud ac a allwn ei wneud yn ddigon cyflym i ddangos effaith, wel cawn weld am hynny, ond rwy'n sicr yn canolbwyntio fy egni ar geisio gwneud hynny. Ond mae yna gryn rwystredigaethau, rhwystrau ac oedi ar y daith.
Hoffwn orffen ar y pwynt a wnaeth Hefin David ynglŷn â'r tâl atal tagfeydd. Rwy'n credu bod y pwynt a wnaeth am gysylltedd trafnidiaeth yn un allweddol ar gyfer y modd y mae pobl yn teimlo eu bod wedi'u cysylltu â'u trefi, a'r cyfyng-gyngor y nododd fod ei awdurdod lleol ei hun yn ei wynebu wrth ymdrechu i gynnal y cymorthdaliadau i wasanaethau cymdeithasol sy'n angenrheidiol ond nad ydynt yn fasnachol hyfyw. Mae ein model bysiau preifat wedi torri, ac rydym yn ceisio ei ddal at ei gilydd ac mae'n mynd yn anos bob blwyddyn. Er clod i arweinyddiaeth cyngor Caerdydd, maent wedi edrych ar dagfeydd cynyddol yn eu dinas, sgil-effaith y model crynodref a ganmolwyd gennym yn y lle hwn ers amser maith, sef yn y bôn fod pobl yn gweithio yng Nghaerdydd ond yn byw mewn mannau eraill ac rydym yn datblygu'r ddinas. Y broblem gyda hynny, wrth gwrs, yw bod pobl yn teithio pellteroedd i mewn i'r ddinas i gyrraedd y gwaith, ac mae hynny wedi arwain at brifddinas brysur gyda lefelau peryglus a marwol o lygredd aer. A rhaid gwneud rhywbeth am hynny. Nid yw edrych ar yr ochr gyflenwi o gynhyrchu mwy byth o gapasiti'n gweithio. [Torri ar draws.] Rwyf am orffen y pwynt a'ch gadael i mewn wedyn. I fod yn deg â hwy, maent yn dechrau'r sgwrs i fynd i'r afael ag ochr y galw.
Ond rwy'n meddwl mai'r broblem gyda'u cynnig ar hyn o bryd yw nad oes ffordd arall i bobl fynd i mewn i'r ddinas. Mae'r trenau'n llawn, mae'r bysiau'n rhedeg yn llawer rhy hwyr ar gyfer y gwaith. Cefais broblemau enfawr y bore yma. Bydd y bobl yn dal i deithio yn yr un niferoedd yn union, byddant yn talu'r tâl, dyna i gyd. Mae'n dreth, fel y mae'r cynigion wedi'u gosod ar hyn o bryd, hyd nes y gallwch sicrhau bod trafnidiaeth gyhoeddus yn gwella'n sylweddol a bod gan bobl hyder ynddi.
Nid wyf yn cymryd y cynigion y mae Caerdydd wedi'u cyflwyno fel y gair olaf ar y mater. Rwy'n credu mai dechrau sgwrs ydynt.
A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Nid wyf wedi gorffen y pwynt, ond os oes gennyf amser, rwy'n hapus i wneud hynny.
Maent wedi dweud—. Mae'n ddrwg gennyf, Ddirprwy Lywydd, a ydych yn ceisio rhoi arweiniad imi?
Mae gennych amser. Mae gennych hyd at 15 munud.
Gwych.
Ond ar ôl 15 munud, bydd y meic yn diffodd.
A bydd pawb yn mynd adref. Gwych. Gadewch i mi ymateb yn fyr i bwynt Hefin cyn gofyn i Alun ddod i mewn.
Rydym ar ddechrau sgwrs. Ni chânt eu cyflwyno am bedair blynedd. Mae rhesymau ymarferol dros wneud hyn yn y ffordd y maent wedi ei wneud, gan fod y pwyntiau mynediad i'r ddinas yn llai niferus, a gallwch osod y seilwaith i nodi rhifau ceir, ond pe baech yn ei gymhwyso i holl drigolion Caerdydd, byddai angen camerâu ym mhob rhan o'r ddinas a bydd hynny'n anodd ac yn ddrud i'w wneud. Felly gallaf ddeall yn ymarferol pam eu bod wedi ei wneud yn y ffordd hon. Ond ymhen pedair blynedd, erbyn i hyn gael ei gyflwyno, os caiff y Bil llywodraeth leol y mae Julie James yn ei gyflwyno ei gymeradwyo gan y Senedd hon, bydd trafnidiaeth yn cael ei rheoli ar sail ranbarthol. Nid yw'n wir y gall y dinas-ranbarth gyflwyno cynllun trafnidiaeth sy'n ymwneud â Chaerdydd yn unig. Bydd arweinwyr yr awdurdodau lleol o amgylch y bwrdd hwnnw'n mynnu dull gweithredu ar draws y rhanbarth cyfan.
Felly, rwy'n credu mai dechrau sgwrs yw hyn. Bydd yr holl awdurdodau lleol dros y pedair blynedd nesaf yn gallu siapio hynny, fel y gall pobl Caerdydd, yn wir, drwy etholiadau llywodraeth leol, ac rwy'n tybio y bydd y cynigion a fydd gennym yn y diwedd yn wahanol i'r cynigion a oedd gennym ar y dechrau. Ond rwy'n credu y dylem roi sicrwydd a hyder a chefnogaeth i arweinyddiaeth Caerdydd am fod yn barod i fynd i'r afael â mater anodd rheoli galw, oherwydd nid yw mynd i'r afael â chyflenwad yn unig yn mynd i weithio. Rwy'n hapus i ildio i Alun Davies.
Rwy'n ddiolchgar i chi, Weinidog. Rwy'n dod i mewn i gefnogi'r sylwadau a wnaethpwyd gan fy nghyfaill o Gaerffili, oherwydd mae'n creu amgylchedd 'ni a nhw' rhwng y gefnwlad a dinas Caerdydd, a'r un peth y mae hanes wedi ei ddysgu inni yw, os llwydda Caerdydd, bydd y Cymoedd yn llwyddo, ac os llwydda'r Cymoedd, mae Caerdydd yn llwyddo. Ni fydd gwahanu a rhannu yn galluogi'r naill na'r llall ohonom i lwyddo.
Rwy'n croesawu'r Papur Gwyn gan y cyngor yng Nghaerdydd. Hoffwn pe bai gan awdurdodau lleol eraill yr un gallu i ddatblygu cynigion tebyg. Ond mae'r pwynt a wnaed am dreth ar y Cymoedd yn un da, ac ni fydd yn dderbyniol i'r Aelodau sy'n cynrychioli etholaethau'r Cymoedd canol a dwyreiniol.
Ond buaswn yn dweud wrthych, Weinidog, fy mod yn cymeradwyo byrdwn eich dadl, ond byddai'r pwynt a wnewch am fysiau yn un gwell pe na bai Llywodraeth Cymru yn bwriadu torri'r cymhorthdal presennol i fysiau yn y gyllideb bresennol. Yr hyn sydd angen inni ei wneud yn sicr yw cael y ddeddfwriaeth rydych wedi'i thrafod a dadlau yn ei chylch, ac rwy'n hapus iawn i gefnogi hynny, ond yn y cyfamser, mae angen inni gynnal a chefnogi'r gwasanaethau bysiau sydd gennym ar hyn o bryd.
Ar y pwynt am raniadau â'r Cymoedd, credaf fod Ken Skates, Gweinidog yr economi, wedi gwneud y pwynt yn ei lythyr at gyngor Caerdydd, sydd wedi'i ryddhau, fod yn rhaid gwneud hyn ar sail ranbarthol. Fel rwyf newydd ei ddweud, rwy'n meddwl mai dyna fydd yn digwydd am nifer o resymau.
Ar y pwynt am wasanaethau bysiau, rwy'n cefnogi trafnidiaeth gynaliadwy yn frwd. Mae gennym gyfres o broblemau ymarferol, yn enwedig setliad cyllideb anodd iawn a fu'n boenus i'w gytuno, sydd wedi golygu rhewi'r grant cymorth—nid ei dorri. Rwy'n derbyn bod yr effaith mewn termau real yr un fath fwy neu lai, ond mae hwnnw wedi bod yn setliad anodd iawn ac mae gennym broblem ymarferol gan fod y cyllid refeniw sydd ar gael i ni—a chyllid refeniw yw'r hyn sy'n rhedeg gwasanaethau bysiau—ym maes trafnidiaeth yn gyfyngedig iawn, a'r broblem sydd gennym oll os ydym yn ddiffuant ynglŷn â mynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd yw bod angen inni fynd i'r afael â newid ymddygiad. Mae newid ymddygiad yn ymwneud â phobl, mae'n ymwneud â gwasanaethau, mae'n ymwneud â chyllid refeniw. Mae problem strwythurol gennym yng nghyllideb Llywodraeth Cymru na all yr un Gweinidog ei datrys yn hawdd, oherwydd er mwyn sicrhau newid moddol mae angen mwy o arian refeniw arnom, ac nid oes gennym hynny. Mae'n haws dod o hyd i gyllid ar gyfer cyfalaf. Felly, mae hynny'n rhywbeth y bydd yn rhaid i bawb ohonom ei wynebu wrth i strategaeth drafnidiaeth Cymru gael ei chyhoeddi eleni, ac wrth i ni fwrw ymlaen â'n hymrwymiad i newid moddol, ac mae'n rhaid gwireddu hynny er mwyn cyflawni'r weledigaeth a nodwyd gan Hefin David ar gyfer adnewyddu ac ailfywiogi ein trefi. Rwy'n addo parhau i drafod hyn gyda'r holl Aelodau.
Da iawn. Diolch yn fawr iawn. Daw hynny â thrafodion heddiw i ben.