Part of the debate – Senedd Cymru am 6:35 pm ar 22 Ionawr 2020.
Mae hefyd, fel y dywedais, yn ymgais i ategu polisi'r Llywodraeth ar yr economi sylfaenol. Ac ar dudalen 8, mae'n siarad mewn gwirionedd am y gallu i fyw'n sylfaenol, ac mae'n dweud,
Mae llwyddiant yn ymwneud â pha un a yw lleoedd yn gweithio mewn ffordd y gellir byw ynddynt i lawer o fathau o aelwydydd. Nid a ydynt yn ddiffygiol yn ôl mesur gwerth ychwanegol gros neu a ydynt yn brin o baraffernalia byw ffasiynol y dosbarth canol.
Rwy'n hoff o hynny, a dyna'u barn am fyw sylfaenol, sy'n cyd-fynd yn dda iawn â'r modd y mae'r Gweinidog yn hyrwyddo'r economi sylfaenol. Mae'n ystyried y gwasanaethau sy'n bodoli'n barod hefyd, rhywbeth roeddwn yn ei feirniadu mewn perthynas â'r hybiau strategol.
Ond gadewch i ni fod yn gadarnhaol—ceir rhai pethau yn y cysyniad sy'n dweud y dylai'r pethau hyn gysylltu â threfi angor, a'r pethau hynny yw: ysbytai a byrddau iechyd, sefydliadau addysgol, llywodraeth leol, cyrff cyhoeddus eraill fel swyddfeydd llywodraeth a chymdeithasau tai. Felly, os edrychaf ar fy etholaeth i, gallaf weld, yn Ystrad Mynach, Ysbyty Ystrad Fawr, gallaf weld Coleg y Cymoedd, gallaf weld swyddfeydd y cyngor, Tŷ Penallta, a swyddfeydd busnes Tredomen, gallaf weld cymdeithasau tai—wel, bron iawn, gallaf weld United Welsh, sydd ar Ffordd Beddau, yn nes at Gaerffili, ond gallech wneud hynny i raddau. Ac rwyf wedi ychwanegu fy nghategori bach fy hun—gweithgareddau chwaraeon. Oherwydd lleolwyd Canolfan Ragoriaeth Dreigiau Casnewydd Gwent ar draws y ffordd i Ysbyty Ystrad Fawr. Felly, mae gennych hynny yn ogystal. Ond y pwynt a wnânt—y pwynt a wnânt—yw mai dim ond os yw'r sefydliadau hyn yn cydweithio â'i gilydd y mae'n gweithio. Ac os siaradwch ag unrhyw un yn Ystrad Mynach, ni fyddent yn gweld canolfan ragoriaeth y Dreigiau fel cyfleuster cymunedol; caiff ei weld fel cyfleuster elitaidd, sy'n achosi mwy o broblemau i glwb rygbi Penallta nag y mae'n eu datrys mewn gwirionedd. Felly, gwelir y ganolfan ragoriaeth fel cyfleuster hyfforddi elitaidd, ac mae'n anodd ac yn ddrud iawn i'r gymuned ei defnyddio. Felly mae yna ffyrdd y gall y trefi angor hyn wella mynediad. Yn y ffordd y soniwn am ysgolion cymunedol, wel, pam nad cyrff cyhoeddus sy'n canolbwyntio ar y gymuned a chyrff busnes hefyd? Mae angen iddynt ganolbwyntio ar economi deg a chynhwysol.
Felly beth am yr anawsterau? Mae yna bethau cadarnhaol, a dyma rai o'r pethau sy'n anodd am y cysyniad o drefi angor yn fy marn i. Rwy'n credu ei fod yn seiliedig ar un o gysyniadau blaenorol tasglu'r Cymoedd yr ydym yn symud oddi wrtho. Felly beth y mae hynny'n ei olygu ar gyfer meddwl yn strategol? A yw'n golygu y bydd y Gweinidog, felly, yn gwrthod trefi angor? A yw hynny'n golygu, Ddirprwy Weinidog, eich bod yn teimlo bod trefi angor yn gysyniad nad yw'n werth ei ystyried gan Lywodraeth Cymru, neu a oes pethau yno y byddech yn hoffi eu defnyddio? Ond mae'n sicr yn cyd-fynd yn well â barn eich rhagflaenydd ynglŷn â'r hyn y dylai tasglu'r Cymoedd fod—rwy'n credu—na'r hyn rydych chi'n ei weld ydyw ar hyn o bryd.
Yn ôl y diffiniad mwyaf llym hefyd—dyma feirniadaeth blwyfol—yr unig dref angor go iawn yn fy etholaeth i yw Ystrad Mynach. Ni fyddai Bargoed, Senghennydd, Nelson, na Chaerffili hyd yn oed—Caerffili ar binsh—yn cael eu categoreiddio fel trefi angor. Mae hynny'n creu rhywfaint o anhawster os ydych yn pryderu am yr effaith luosydd y gallai trefi angor ei chreu. Mae 'A oes effaith luosydd?', yn gwestiwn da iawn i'w ofyn, oherwydd gallai fod yn fantais atgyfnerthol. Mae'r holl wasanaethau hyn gan Ystrad Mynach eisoes; nid yw hynny'n wir am Fargoed, na Senghennydd. Beth a wnawn dros y cymunedau hynny? Mae hi'r un broblem ag a oedd gennyf gyda hybiau strategol. Datblygwyd hybiau strategol mewn cymunedau fel Ystrad Mynach a Chaerffili, lle mae pobl am adeiladu tai, lle mae pobl am dyfu busnesau. Ond beth am y cymunedau nad ydynt yn drefi angor? Sut y gallant gysylltu â'r cymunedau hynny? Sut y gall lluosydd weithio tu hwnt i'r eirlin? Sut y gallwch wneud i hynny ddigwydd? Ac mae hwn yn gwestiwn rwy'n ei ofyn i chi, Weinidog.
Mae fy etholaeth yn eithaf llinol—mae'n symud o'r gogledd i'r de. A yw ond yn gweithio—ai dim ond mewn mannau consentrig y gall trefi angor weithio? Mae Ystrad Mynach yn gonsentrig; dyna'r unig dref gonsentrig yn fy nghymuned—mae pob un o'r lleill yn llinol. A yw hynny'n rhan o'r rheswm dros eu llwyddiant?
Nawr, nid ydym yn sôn chwaith am greu trefi newydd—rydym yn gweithio gyda'r hyn sydd gennym eisoes. A phe baem yn adeiladu trefi newydd, byddem yn eu hadeiladu fel trefi angor, ond nid ydym yn gwneud hynny; rydym yn gweithio gyda'r hyn sydd gennym, ac efallai nad yw'r hyn sydd gennym yn ei gwneud hi'n hawdd creu hynny. Mae'n galw am seilwaith trafnidiaeth a chysylltedd er mwyn llwyddo. Mae gan Ystrad Mynach hynny, ond rydym ymhell o fod â system trafnidiaeth gyhoeddus effeithiol eto. Y bore yma, roeddwn ar y gwasanaeth trên i Gaerffili. Ynghyd â'r holl deithwyr eraill, roedd yn rhaid i ni ddod oddi ar y trên yng Nghaerffili a mynd ar fws Stagecoach poeth a chwyslyd, ac o ganlyniad, fe gollais bwyllgor—ni chyrhaeddais tan 10:38. Pe bawn yn weithiwr a gyflogid fesul awr neu pe na bai gennyf gyflogwr caredig, buaswn mewn anhawster mawr. Nid ydym wedi sicrhau cysylltedd trafnidiaeth eto. Yn ffodus, cefais faddeuant gan y prif chwip heddiw.
A'r peth arall, wrth gwrs, yw bod angen cymhorthdal cyhoeddus mawr ar gyfer hyn—y mathau hyn o weithgarwch trafnidiaeth. Ar hyn o bryd, mae cyngor Caerffili yn talu £81,000 y flwyddyn i'r gwasanaeth bysiau i redeg bws sy'n cysylltu'r Coed-duon â gorsaf Ystrad Mynach, dwyrain a gorllewin. Mae hynny o dan fygythiad oherwydd toriadau llywodraeth leol. A'r peth arall yw ein bod yn tueddu i beidio ag edrych i'r dwyrain a'r gorllewin yn y Cymoedd. Nodir yn yr adroddiad fod Merthyr Tudful yn dref angor bosibl. Gadewch i mi ddweud wrthych, nid wyf ond wedi bod ynghanol tref Merthyr Tudful dair gwaith yn fy mywyd, ac un o'r adegau hynny oedd i ymweld â Dawn Bowden. Nid wyf wedi bod yno. Bûm ym Mharc Cyfarthfa—[Torri ar draws.] Wel, mi wnaf bwynt o fynd yno, gan fy mod yn cael argymhellion o'r llawr. Bûm ym Mharc Cyfarthfa ac rwyf wedi bod yn y parc manwerthu, ond canol tref Merthyr Tudful—ni fûm yno. Nid yw'n rhywbeth rydym yn meddwl amdano yn fy nghymuned i. Nid ydym yn edrych i'r dwyrain a'r gorllewin. Rwyf wedi bod yn Aberdâr ychydig yn fwy aml yn ddiweddar nag yn y gorffennol, ond mater o raid oedd hynny.
Felly, beth sy'n cyd-fynd â'r adroddiad hwn? Rwy'n credu bod yn rhaid i ni weithio gyda sut y mae pobl yn byw mewn gwirionedd, nid gyda'r ffordd y mae gweision sifil Llywodraeth Cymru yn meddwl ein bod ni'n byw, ac felly, mae angen iddo gael ei ddatblygu gan y bobl eu hunain. Mae angen ei wneud ar y cyd â phrifddinas-ranbarth Caerdydd, gan weithio tuag at gynllun datblygu strategol, a gafodd ei danseilio, gyda llaw, gan yr argymhelliad ynglŷn â thâl atal tagfeydd ar gyfer Caerdydd. Mae angen inni weithio gyda'n gilydd ac yn gydweithredol arno, ac nid yw hynny'n digwydd.
Mae'n dangos rôl werthfawr y byrddau gwasanaethau cyhoeddus. Rwy'n hoffi hynny, ond a wyddoch chi beth? Ar ddiwedd Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau yr wythnos diwethaf, gofynnais i Aelodau o bob plaid o amgylch y bwrdd faint o ran roeddent wedi'i gael gyda'r byrddau gwasanaethau cyhoeddus, a dywedasom, 'Beth yw bwrdd gwasanaethau cyhoeddus?' Nid ydym wedi ymwneud â hwy; nid ydym wedi ymgysylltu â nhw. Nid ydynt wedi cysylltu â ni. Russell George, Bethan Sayed—mae hynny'n wir, onid yw? Nid ydym wedi gwneud hynny. Cawsom y drafodaeth honno, ac felly, os yw byrddau gwasanaethau cyhoeddus yn mynd i chwarae rhan, mae'n rhaid iddynt fod yno'n gwneud hynny, yn ein cynnwys ni ac yn cydweithio. Ar hyn o bryd, nid wyf yn ei weld.
A'r cwestiwn arall yw bod Sefydliad Bevan yn cyfeirio at y Bil partneriaeth gymdeithasol, gan gysylltu'r sector cyhoeddus, y sector preifat a'r sector gwirfoddol gyda'i gilydd er y lles cyffredin. Gwych—peth ardderchog—ond beth fydd manylion hynny, Ddirprwy Weinidog? Sut y bydd y Bil partneriaeth gymdeithasol yn galluogi pethau fel trefi angor i ffynnu? Nid wyf yn gwybod; hoffwn gael mwy o fanylion.
Dadl yw hon, ac rwyf wedi nodi ambell gwestiwn. Er nad wyf wedi fy argyhoeddi'n llwyr gan y cysyniad o drefi angor, mae egwyddorion sylfaenol cydweithredu cymunedol, cydgynhyrchu ac egwyddorion o'r bôn i'r brig yn rhywbeth rwy'n ei gefnogi ac rwy'n eu cefnogi'n fawr iawn. Ond Ddirprwy Weinidog, y Llywodraeth sydd i ateb y cwestiwn ynglŷn â sut y caiff yr egwyddorion hynny eu gweithredu yn ymarferol. Y cwestiwn mawr rwy'n ei ofyn o ganlyniad i'r ddadl hon, ac o ganlyniad i'r cysyniad o drefi angor yw: ble mae tasglu gweinidogol y Cymoedd yn dymuno mynd gyda hyn? Ac efallai y gallech ateb y cwestiwn yn eich anerchiad.