Part of 2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Brexit (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel Gweinidog Brexit) – Senedd Cymru am 2:40 pm ar 22 Ionawr 2020.
Byddwn yn parhau â'r gwaith rydym wedi bod yn ei wneud. Rydym wedi bod yn ariannu gwahanol wasanaethau cynghori yn ogystal ag ymgyrch gyfathrebu. Rydym wedi bod yn pwyso ar Lywodraeth y DU hefyd mewn perthynas ag argaeledd canolfannau sganio digidol yng Nghymru. Efallai fod yr Aelod yn ymwybodol mai dim ond un oedd yna ar y dechrau. Rydym yn edrych ar oddeutu saith, rwy'n credu, ar hyn o bryd, ac yn pwyso hefyd am ehangu darpariaeth y ganolfan cymorth technoleg ddigidol, sy'n galluogi dinasyddion yr UE sydd angen cymorth ychwanegol i wneud y cais. Credaf fod 26 o'r rheini yng Nghymru bellach, ac rydym wedi bod yn pwyso'n galed iawn dros y cyfnod i sicrhau bod y niferoedd hynny'n cynyddu, a chyda pheth llwyddiant.
I'r rhan fwyaf o bobl, ni fydd angen cael y cymorth ychwanegol hwnnw, ond bydd carfan sylweddol a fydd angen yr help ychwanegol er mwyn gallu cofrestru. Ond mae rhai diffygion dylunio yn y cynllun ei hun, ac rydym hefyd yn pwyso ar Lywodraeth y DU mewn perthynas â hynny. Un mater y bydd yr Aelodau'n ymwybodol ohono, rwy'n credu, yw diffyg ardystiad neu ddogfen ffisegol sy'n arddangos y statws preswylydd sefydlog. Er y byddai'r rhan fwyaf ohonom yn fodlon cael cydnabyddiaeth ar-lein o hynny, mae'n debyg, rhywbeth y gallwn ei rannu â sefydliadau, cyrff ac asiantaethau os dymunwn, unwaith eto, bydd llawer o bobl yn teimlo'n llawer mwy diogel o gael darn o bapur neu fathodyn ffisegol, ac felly, rydym wedi bod yn pwyso i'r perwyl hwnnw hefyd.