Part of 2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Brexit (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel Gweinidog Brexit) – Senedd Cymru am 2:42 pm ar 22 Ionawr 2020.
Diolch, Lywydd. Er bod Ysgrifennydd Gwladol newydd Cymru, Simon Hart, wedi dweud yr wythnos diwethaf na fyddai cronfa ffyniant gyffredin y DU y clywsom gryn dipyn amdani eisoes, ac rwy'n dyfynnu, yn gyrru ceffyl a throl drwy'r setliad datganoli, yn anffodus, nid yw wedi rhoi sicrwydd pendant mai Llywodraeth Cymru fyddai'n rheoli'r gronfa newydd hon. Byddai unrhyw golli rheolaeth ar gyllid Ewropeaidd, wrth gwrs, yn gipio pŵer. Yr wythnos hon, mae arweinwyr llywodraeth leol yng Nghymru hefyd wedi mynegi pryder ynglŷn â'r ansicrwydd ynghylch lefel y cyllid yn y gronfa, o ystyried ei bwysigrwydd mewn perthynas â chynlluniau adfywio mewn sawl rhan o Gymru. Felly, a gaf fi ofyn: a ydych wedi siarad ag Ysgrifennydd Gwladol Cymru ers yr wythnos diwethaf? Beth yw eich dealltwriaeth ddiweddaraf o gynnig Llywodraeth y DU, ac a wnewch chi roi ymrwymiad i sicrhau bod llais arweinwyr llywodraeth leol yng Nghymru yn cael ei glywed?