Part of 2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Brexit (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel Gweinidog Brexit) – Senedd Cymru am 2:44 pm ar 22 Ionawr 2020.
A gaf fi ddiolch i'r Gweinidog am fy nghroesawu i fy rôl newydd? Yn amlwg, ni fyddaf mor wefreiddiol â fy nghyd-Aelod, Delyth Jewell, yn y swydd, ond rwy'n gobeithio straffaglu drwyddi beth bynnag yn fy ffordd dawel fy hun. [Chwerthin.]
Yn eich datganiad ysgrifenedig ddoe, fe nodoch eich bod yn cynnal cyfarfod negodiadau nesaf Cydbwyllgor y Gweinidogion (Negodiadau'r UE) yng Nghaerdydd yn ddiweddarach y mis hwn, a'ch bod yn gobeithio y byddai'r cyfarfod hwnnw'n canolbwyntio ar gwblhau cynigion terfynol, gan gynnwys cadarnhau rôl y Llywodraethau datganoledig yn negodiadau'r UE yn y dyfodol. Felly, a ydych wedi cael unrhyw arwyddion gan Lywodraeth y DU eu bod yn barod i wrando neu dderbyn unrhyw rai o'ch awgrymiadau er mwyn sicrhau bod gan Lywodraeth Cymru ryw fath o sedd wrth y bwrdd, os nad y bwrdd cyfan ei hun, neu unrhyw fath arall o ddodrefnyn?