Part of 2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Brexit (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel Gweinidog Brexit) – Senedd Cymru am 2:49 pm ar 22 Ionawr 2020.
Wel, bydd yr Aelod gyferbyn yn ymwybodol ein bod, yn gynharach yr wythnos hon, wedi cyhoeddi ein barn ar y math o berthynas y dylai Cymru a'r DU ei chael gyda'r Undeb Ewropeaidd, gan gydnabod bod Prif Weinidog y DU wedi ennill mandad yn yr etholiad cyffredinol diweddar ac y bydd yn cychwyn y negodiadau hynny o safbwynt cytundeb masnach rydd. Ein barn ni yw bod cytundeb masnach rydd, fel y'i hystyriwyd yn y datganiad gwleidyddol, yn niweidiol i Gymru, ac rydym yn gobeithio llywio'r cyfeiriad teithio oddi wrth hynny i fan lle ceir mwy o gyfleoedd i Gymru barhau i elwa ar y math hwnnw o berthynas â'r Undeb Ewropeaidd.
Rwy'n meddwl weithiau ein bod yn cael ein gwahodd i feddwl bod y mathau o ryddid sy'n bodoli, fel petai, i negodi cytundebau â gwledydd eraill, o ganlyniad i'r math o ddisgrifiad o'r berthynas y mae Prif Weinidog y DU wedi'i nodi yn y datganiad gwleidyddol, yn wobr enfawr i ni. Er y byddwn bob amser yn manteisio ar y cyfle, ar ran busnesau ac allforwyr Cymru, i ddatblygu marchnadoedd newydd, y gwir amdani yw bod manteision y cytundebau hynny i economi Cymru yn ymylol o'u cymharu â'r farchnad a gollir, pe bai hynny'n digwydd, i'r Undeb Ewropeaidd.