Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Brexit (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel Gweinidog Brexit) – Senedd Cymru am 2:56 pm ar 22 Ionawr 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Jeremy Miles Jeremy Miles Labour 2:56, 22 Ionawr 2020

(Cyfieithwyd)

Wel, nid wyf yn siŵr a glywodd yr Aelod yr atebion i'r cwestiynau blaenorol am yr heriau y mae dinasyddion yr UE sydd eisoes yn byw yng Nghymru yn eu hwynebu o ganlyniad i bolisïau ymfudo Llywodraeth y DU. Rwy'n awgrymu ei fod yn darllen y cofnod o'r drafodaeth a gawsom ynglŷn â hynny. Byddai gennyf ddiddordeb mawr mewn clywed ei farn ar system fewnfudo lle mae lefelau'r cyflogau'n gwbl anghydnaws ag anghenion economi Cymru, lle nad yw'r proffil sgiliau'n cyfateb mewn unrhyw ffordd i anghenion ein heconomi a lle mae wedi'i gynllunio yn gyfan gwbl o safbwynt de-ddwyrain Lloegr. [Torri ar draws.] Credaf fod cyfle yma mewn gwirionedd. Credaf yma, i Lywodraeth y DU, wrth ailgynllunio—. Byddem eisiau gweld system ymfudo wahanol iawn. Byddem eisiau gweld system—[Torri ar draws.]—sy'n rhoi trefniadau ffafriol i'r Undeb Ewropeaidd—[Torri ar draws.]—ac yn clymu hynny'n agosach wrth gyflogaeth. Ond os yw Prif Weinidog y DU yn cyflwyno newidiadau i'r system honno, mae cyfle yma iddo adlewyrchu anghenion yr economi yng Nghymru mewn ffordd nad yw'n cael ei wneud o gwbl yn y cynigion presennol.