Cyllid Buddsoddi Rhanbarthol

Part of 2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Brexit (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel Gweinidog Brexit) – Senedd Cymru am 2:34 pm ar 22 Ionawr 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Jeremy Miles Jeremy Miles Labour 2:34, 22 Ionawr 2020

(Cyfieithwyd)

Rwy'n rhannu rhwystredigaeth yr Aelod. Rydym yn croesawu'r ymrwymiadau bras, rhaid cyfaddef, ond cadarnhaol gan Lywodraeth y DU i gydweithio â ni mewn modd cydsyniol mewn perthynas â hyn. Ond mae angen inni symud ymlaen i weithredu'n ymarferol, ac mae'n gwbl hanfodol fod Llywodraeth y DU yn awr yn rhannu manylion yr hyn y mae'n ei gynnig gyda ni. Rydym wedi bod yn gweithio—ac rwyf wedi bod yn agored ynglŷn â hyn gyda Llywodraeth y DU—rydym wedi bod yn gweithio'n fanwl ar gynigion y credwn eu bod wedi'u cynllunio'n dda ar gyfer ymgynghori, fel petai, ond mae'n bwysig yn awr fod Llywodraeth y DU yn cyflwyno ymrwymiad syml, rwy'n credu, y gellir defnyddio'r arian sydd ar gael i Gymru ar hyn o bryd drwy'r cronfeydd hynny yng Nghymru, a bod pob un ohonynt yn ddarostyngedig i'r pwerau presennol sydd gan Lywodraeth Cymru ar ran pobl Cymru, a'u bod, i bob pwrpas, yn ffurfio addasiad i'r grant bloc, fel y gellir eu defnyddio'n effeithiol ar ran pobl Cymru. Ond rwy'n rhannu rhwystredigaeth yr Aelod: nid ydym wedi cael y manylion a'r wybodaeth y dylem fod wedi'u cael ar y pwynt hwn, ac rwy'n gobeithio y caiff hynny ei unioni yn hwyr yn hytrach na'n hwyrach.