2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Brexit (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel Gweinidog Brexit) – Senedd Cymru ar 22 Ionawr 2020.
1. Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU ynghylch cyllid buddsoddi rhanbarthol yng Nghymru ar ôl Brexit? OAQ54960
4. Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU ynghylch y gronfa ffyniant gyffredin? OAQ54935
5. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y trafodaethau mae'n eu cael gyda Llywodraeth y DU am y gronfa ffyniant gyffredin? OAQ54940
Lywydd, rwy'n deall eich bod wedi rhoi caniatâd i gwestiynau 1, 4 a 5 gael eu grwpio. Cefais gyfarfod ag Ysgrifennydd Gwladol Cymru ar 9 Ionawr ac ailadroddais safbwynt Llywodraeth Cymru, fel gwneuthum wrth Weinidogion eraill Llywodraeth y DU, sef 'Heb golli'r un geiniog, heb golli'r un grym' mewn perthynas â'r arian a ddaw yn lle arian yr UE yng Nghymru.
Diolch am yr ateb hwnnw, Weinidog, ond credaf mai'r ddau gwestiwn mawr ynglŷn â chronfa ffyniant gyffredin y DU yw: a fydd yn darparu yr un faint o arian ag y mae Cymru'n ei gael gan Ewrop ar hyn o bryd, ac fel yr addawyd gan gefnogwyr Brexit?' ac 'a fydd wedi'i ddatganoli?' A yw Llywodraeth y DU wedi gweld yn dda i rannu ei chynlluniau â Chymru eto, neu, o ran hynny, yr Alban neu Ogledd Iwerddon?
Wel, diolch i'r Aelod am y cwestiwn pellach hwnnw. Mae Llywodraeth y DU wedi ymrwymo i roi'r un faint o arian ag a gollir i Gymru drwy gronfeydd strwythurol Ewropeaidd. Rydym wedi gofyn faint ydyw ac iddo ddod drwy addasiad i'r grant bloc fel bod gwariant yr arian hwnnw, cant y cant o'r arian hwnnw, yn unol â'r setliad datganoli ac yn galluogi Llywodraeth Cymru, fel y mae'n ei wneud heddiw, i ddefnyddio'r cyllid hwnnw yng Nghymru er budd gorau pobl Cymru ac i wneud hynny mewn ffordd lle gall integreiddio â'r ffynonellau eraill o gyllid rhanbarthol ledled Cymru.
Weinidog, gofynnais gwestiwn i'ch cyd-Aelod, y Prif Weinidog, rai wythnosau'n ôl ynglŷn â'r gronfa ffyniant gyffredin, a rhoddodd y Prif Weinidog ateb eithaf cadarnhaol i mi. Ond wrth lunio cynllun newydd, a allwch roi rhywfaint o wybodaeth i ni ynglŷn â sut y bydd y cynllun newydd hwnnw'n mynd i'r afael â meysydd nad ydynt wedi llwyddo, yn y gorffennol, i sicrhau cyllid drwy gronfeydd strwythurol yr UE?
Wel, bydd yr Aelod yn gwybod bod cronfeydd strwythurol yr UE wedi'u cynllunio i ymdrin ag anghydraddoldebau incwm ac yn y blaen mewn rhannau penodol o Gymru sy'n gymwys ar gyfer gwario'r arian hwnnw. Wrth gynllunio cronfeydd yn lle'r rheini, mater i Lywodraeth Cymru yw bwrw'r rhwyd yn ehangach yn ddaearyddol yng Nghymru. Rydym wedi ystyried y cyfle hwnnw ac wedi gweithio, fel rhan o'r gwaith y bu grŵp llywio Huw Irranca-Davies yn gweithio arno, wel, mae hyn wedi bod yn un o'r materion sy'n codi. Rydym yn awyddus i sicrhau bod cyfle i bob cymuned mewn gwahanol rannau o Gymru fanteisio ar y cronfeydd hynny, ac mae'r blaenoriaethau rydym wedi'u pennu ar gyfer ariannu rhanbarthol yn ymwneud â chymunedau iach a thecach, anghydraddoldebau incwm, busnesau cynhyrchiol a Chymru ddi-garbon, sy'n faterion y byddai pob rhan o Gymru, rwy'n credu, yn eu hystyried yn flaenoriaethau, ac yn wir, yn gyfleoedd i elwa o gyllid dilynol. Gobeithio y bydd Llywodraeth y DU yn cymryd y camau rydym yn galw arnynt i'w gwneud, er mwyn sicrhau y gellir rhoi'r gwaith y buom yn ei wneud gyda rhanddeiliaid ledled Cymru—a diolch i'r rhanddeiliaid hynny am eu gwaith—ar y gweill mewn ffordd a all fod o fudd i bob rhan o Gymru.
Mae yna sawl elfen i'r hyn rydym ni angen sicrwydd ynglŷn â fo o ran dyfodol yr arian a ddaw i gymryd lle arian cymorth strwythurol Ewropeaidd. Mae'r swm arian a ddaw yn y blynyddoedd nesaf yn un mater, ac mewn ffordd, hwnna ydy'r peth hawdd i Lywodraeth Prydain ei wneud: wrth gwrs byddan nhw eisiau trio cael eu gweld yn rhoi yr un fath o arian ag sydd wedi bod yn ddiweddar ar gyfer y cyfnod sydd i ddod rŵan. Ond, wrth gwrs, mae'r cwestiwn yma o sut mae'r arian yn cael ei reoli. Dydw i ddim yn cytuno efo popeth sydd wedi cael ei wneud efo gwariant arian Ewropeaidd yng Nghymru; mae yna benderfyniadau gwariant dwi ddim yn cyd-fynd â nhw. Ond lle mae'r arian wedi cael impact go iawn, mae hynny wedi cael ei arwain mewn difrif gan y ffaith bod penderfyniadau yn cael eu gwneud yma yng Nghymru gan bobl sydd yn deall y cyd-destun Cymreig. Ydych chi fel Gweinidog yn cytuno efo fi mai dyna ydy'r peryg mawr rŵan, nad oes gan Lywodraeth Prydain y capasiti na'r ddealltwriaeth i benderfynu sut i wario arian yn synhwyrol yng Nghymru, ac mai cadw rheolaeth ar le i fuddsoddi arian er mwyn sicrhau tegwch i'r economi Gymreig sydd yn bwysig rŵan, llawn cyn bwysiced bron iawn â'r swm ei hun?
Wel, mae'r cwestiwn hwnnw o gapasiti a dealltwriaeth yn bwysig, ac mae'r cwestiwn hefyd o bwerau cyfansoddiadol yn dod i'r cwestiwn hwnnw hefyd. Mae hynny yn anorfod yn digwydd yn sgil y ffaith bod y penderfyniadau hynny wedi cael eu gwneud yma yng Nghymru gan Lywodraeth Cymru am ddau ddegawd, ac ychydig yn fwy na hynny. Ac, felly, rwy'n cytuno â phwynt yr Aelod, hynny yw, bod yn rhaid cael eglurder a chytundeb i'r egwyddor sylfaenol honno o safbwynt cyfansoddiadol, ond hefyd—ac rwy'n credu bod hyn ynghlwm yng nghwestiwn yr Aelod—o safbwynt ymarferol, hynny yw, y gallu i wario'r arian hwnnw mewn ffordd sydd yn cael impact ac yn gallu gweithio ar y cyd â ffynonellau eraill sydd ar gael i Lywodraeth Cymru a chyrff eraill yng Nghymru. Ac rwy'n credu hefyd fod yr elfen yn bwysig bod cyfle i ni yma i wneud penderfyniadau ar lefel rhanbarthol y tu fewn i Gymru hefyd, ynghyd â gwneud hynny ar draws Cymru fel cenedl.
David Melding.
Na, mae'n ddrwg gennyf.
David Rees.
Diolch, Lywydd. Weinidog, fel y dywedwyd yn glir, nid oes gennym syniad beth fydd y gronfa ffyniant gyffredin yn ei wneud eto, ond rydym eisiau gallu sicrhau y byddai'r arian a ddaw o'r gronfa ffyniant gyffredin i Gymru yn cymryd lle'r arian y byddem wedi'i gael o gyllid Ewropeaidd, ac y bydd yn caniatáu i Lywodraeth Cymru benderfynu ar yr hyn sydd orau i Gymru. Rydych wedi cael trafodaethau gydag Ysgrifennydd Gwladol Cymru. Dywedodd yr Ysgrifennydd Gwladol blaenorol ei fod yn bwriadu cynnal proses ymgynghori. A ydym yn gwybod a yw'r broses ymgynghori honno'n mynd i ddigwydd? Beth y maent yn ei wneud? Pryd y cawn ddatganiad pendant gan Lywodraeth y DU ynglŷn â beth fydd y gronfa ffyniant gyffredin; sut y gallwn gael mynediad ati? A fydd unrhyw fesurau rheoli'n cael eu gosod i edrych ar beth y maent eisiau ei wario, neu a fydd gennym ryddid? Mae'n bwysig ein bod yn parhau i gael y manylion hyn, oherwydd heb y manylion, rydym yn dal i siarad am ddim byd; nid oes gennym syniad beth sy'n digwydd.
Rwy'n rhannu rhwystredigaeth yr Aelod. Rydym yn croesawu'r ymrwymiadau bras, rhaid cyfaddef, ond cadarnhaol gan Lywodraeth y DU i gydweithio â ni mewn modd cydsyniol mewn perthynas â hyn. Ond mae angen inni symud ymlaen i weithredu'n ymarferol, ac mae'n gwbl hanfodol fod Llywodraeth y DU yn awr yn rhannu manylion yr hyn y mae'n ei gynnig gyda ni. Rydym wedi bod yn gweithio—ac rwyf wedi bod yn agored ynglŷn â hyn gyda Llywodraeth y DU—rydym wedi bod yn gweithio'n fanwl ar gynigion y credwn eu bod wedi'u cynllunio'n dda ar gyfer ymgynghori, fel petai, ond mae'n bwysig yn awr fod Llywodraeth y DU yn cyflwyno ymrwymiad syml, rwy'n credu, y gellir defnyddio'r arian sydd ar gael i Gymru ar hyn o bryd drwy'r cronfeydd hynny yng Nghymru, a bod pob un ohonynt yn ddarostyngedig i'r pwerau presennol sydd gan Lywodraeth Cymru ar ran pobl Cymru, a'u bod, i bob pwrpas, yn ffurfio addasiad i'r grant bloc, fel y gellir eu defnyddio'n effeithiol ar ran pobl Cymru. Ond rwy'n rhannu rhwystredigaeth yr Aelod: nid ydym wedi cael y manylion a'r wybodaeth y dylem fod wedi'u cael ar y pwynt hwn, ac rwy'n gobeithio y caiff hynny ei unioni yn hwyr yn hytrach na'n hwyrach.