Part of 2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Brexit (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel Gweinidog Brexit) – Senedd Cymru am 3:05 pm ar 22 Ionawr 2020.
Diolch am eich ateb, Weinidog. Gwn fod penderfyniad Llywodraeth Dorïaidd y DU i roi'r gorau i gynigion i amddiffyn plant sy'n ffoaduriaid rhag y Bil ymadael â'r UE wedi'i drafod yn ystod y cwestiynau i'r Prif Weinidog yr wythnos diwethaf, ac rwy'n siŵr, fel finnau, eich bod wedi bod yn gwylio'r datblygiadau mewn perthynas â gwelliant Dubs hefyd. Mae llawer o ffoaduriaid yn blant, felly mae hon yn weithred arbennig o greulon, yn enwedig o gofio mai 5 y cant yn unig o geisiadau am loches i blant yn Ewrop a wneir yn y DU mewn gwirionedd; mae hynny'n llai na 5,000 o blant agored i niwed, o'r ffigurau ar gyfer hanner cyntaf 2019. Cawsom ymosodiad chwyrn gan y Prif Weinidog ar y polisi, ond a gaf fi ofyn: a wnewch chi, fel Gweinidog Brexit, ymrwymo i godi'r penderfyniad hwn ym mhob trafodaeth briodol gyda Gweinidogion y DU, a sicrhau nad yw plant yn dioddef yn anghymesur yn sgil Brexit?