Part of 2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Brexit (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel Gweinidog Brexit) – Senedd Cymru am 3:06 pm ar 22 Ionawr 2020.
Mae'r mater y mae'r Aelod wedi'i godi heddiw yn y Siambr yn un pwysig iawn. Yn amlwg, rwy'n adleisio'r pwynt a wnaeth y Prif Weinidog yr wythnos diwethaf mewn perthynas â’r mater pwysig hwn. Yr hyn sy'n hynod i mi yw bod y ddeddfwriaeth flaenorol yn cynnwys dyletswydd ar ran Llywodraeth y DU mewn gwirionedd i negodi parhad trefniadau Dulyn III—y trefniadau ar gyfer aduniadau teuluol ffoaduriaid—ac felly mae gwanhau hynny, yn fy marn i, yn weithred eithriadol. Fe fydd yn ymwybodol fod y Dirprwy Weinidog a’r Prif Chwip, ac yn wir, y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, wedi ysgrifennu at yr Ysgrifennydd Cartref i egluro safbwynt Llywodraeth Cymru mewn perthynas â'r mater hwn. Credaf fod hynny'n mynd at wraidd y math o wlad y dymunwn i'r DU fod wrth inni adael yr Undeb Ewropeaidd, a chredaf fod gwanhau'r ddeddfwriaeth yn beryglus yn hynny o beth. Rwy'n gobeithio y bydd Llywodraeth y DU yn parhau i ddatblygu ei safbwynt datganedig blaenorol, hyd yn oed os nad yw hynny ar wyneb y ddeddfwriaeth. Gwn y byddai hi a llawer o Aelodau eraill yn y Siambr hon yn teimlo'n gryf iawn y dylent wneud hynny, fel rwyf innau.