Part of the debate – Senedd Cymru am 3:31 pm ar 22 Ionawr 2020.
Mae angen i Lywodraeth Cymru weithredu’r argymhellion yn 'Busnes Pawb' ar frys i ddatblygu strategaeth ôl-ymyrraeth ar gyfer hunanladdiad. Dylai'r strategaeth honno gael ei chydgynhyrchu gyda phobl sydd â phrofiad o brofedigaeth ar ôl hunanladdiad, a sicrhau bod cefnogaeth hyblyg ar gael i bobl pan fydd ei hangen arnynt, boed hynny’n syth ar ôl hunanladdiad, mewn chwe wythnos, neu ddwy, dair neu 10 mlynedd yn ddiweddarach. Mae’n rhaid i hynny hefyd gynnwys mynediad amserol at driniaeth arbenigol ar gyfer anhwylder straen wedi trawma, a ddioddefir yn aml gan rai sydd mewn profedigaeth ar ôl hunanladdiad, yn enwedig y rhai a ddaeth o hyd i'w hanwylyd.
Rydym ar ei hôl hi o gymharu â rhannau eraill o'r DU ar hyn. Mae gan Loegr lwybr ôl-ymyrraeth eisoes a allai helpu i lywio ein llwybr ni, ac mae enghreifftiau gwych o gefnogaeth mewn profedigaeth ar ôl hunanladdiad yn Lloegr, a llawer ohonynt wedi'u cydgynhyrchu gyda theuluoedd sydd wedi cael profedigaeth. Ond mae'n ymwneud â mwy na chefnogi unigolion yn unig; mae'n ymwneud hefyd ag ôl-ymyrraeth mewn sefydliadau lle bu marwolaeth drwy hunanladdiad, boed hynny mewn ysgol, gwasanaeth tân, ysbyty, practis meddyg teulu neu orsaf drenau. Dylem ni yn y Cynulliad hwn fod yn fwy ymwybodol na llawer am bwysigrwydd hanfodol ymateb ôl-ymyrraeth i golli ffrind a chydweithiwr i hunanladdiad. Mae'r angen am ôl-ymyrraeth hunanladdiad ym mhob ysgol yng Nghymru yn arbennig o agos at fy nghalon. Yn Lloegr, cyhoeddwyd canllawiau newydd sy'n nodi y dylid trin un achos o hunanladdiad mewn ysgol fel clwstwr posibl am fod pobl ifanc mor agored fel grŵp risg uchel ar gyfer hunanladdiad.
Rwy’n canmol y canllawiau newydd a gomisiynodd Llywodraeth Cymru gan yr Athro Ann John ar siarad am hunanladdiad gyda phobl ifanc sy'n hunanladdol ac yn hunan-niweidio, ond nid ydynt yn ddigon. Mae angen inni sicrhau bod iechyd meddwl ac atal hunanladdiad wedi'i ymgorffori yn y cwricwlwm yng Nghymru, er mwyn cyrraedd y bobl ifanc nad oes unrhyw un yn gwybod eu bod yn hunanladdol tan eu bod, yn drasig, yn cyflawni hunanladdiad. Mae’n rhaid inni sicrhau hefyd fod pob ysgol yn ymgymryd ag ôl-ymyrraeth yn dilyn hunanladdiad. Gwn fod rhai ysgolion wedi bod yn barod iawn i ddefnyddio rhaglen ôl-ymyrraeth Cam wrth Gam y Samariaid, ond mae eraill y gwn amdanynt heb wneud unrhyw beth o gwbl, heblaw am ambell sesiwn gwnsela. Rwy'n falch iawn fod gan Papyrus ganolfan yng Nghymru bellach, ac mae’n rhaid i ni sicrhau bod ysgolion yn defnyddio gwasanaethau’r sefydliad hwnnw a'r Samariaid. Ni all fod yn ychwanegiad dewisol; mae'n rhy hwyr pan fydd unigolyn ifanc arall wedi marw.
A bydd, fe fydd angen adnoddau ychwanegol i wneud hyn, ond wrth unrhyw sy'n dweud na allwn fforddio gwneud hyn, rwy'n dweud na allwn fforddio peidio. Amcangyfrifwyd bod pob achos o hunanladdiad yn costio £1.6 miliwn i bwrs y wlad. Faint yn well fyddai gwneud yr hyn y mae'r Llywodraeth yn siarad cymaint amdano a buddsoddi mewn cymorth ac ymyrraeth gynnar i'r rheini sydd mewn profedigaeth? Mae gennym bobl a sefydliadau gwych yn gweithio yn y maes hwn yng Nghymru. Hoffwn dalu teyrnged i'r Athro Ann John, sy'n cadeirio grŵp cynghori cenedlaethol Llywodraeth Cymru ar atal hunanladdiad. Mae Ann yn gweithio'n ddiflino, a diolch iddi am hynny. Ond mae'n rhaid inni sicrhau bod gan bobl fel Ann adnoddau ac ymrwymiad llawn Llywodraeth Cymru i wneud y gwaith y maent yn dymuno’i wneud.
Mae'r cyfryngau cymdeithasol yn aml yn cael sylw gwael, ac rwy'n siŵr y gall pob un ohonom ddeall hyn yma. Fodd bynnag, rwyf wedi gweld bod Twitter yn gyfle gwych i rwydweithio â phobl o'r un anian. Drwy Twitter, rwyf wedi dod i adnabod grŵp o famau sydd wedi colli plant drwy hunanladdiad. Daw rhai ohonynt o Gymru; daw eraill o fannau eraill yn y DU. Maent wedi llysenwi eu hunain yn 'The Warrior Mums', ac maent yn rhyfelwyr go iawn, a hynny bob dydd.
Felly, hoffwn gloi heddiw drwy dalu teyrnged twymgalon i'r holl famau dewr, y tadau dewr, ac i ddewrder pawb sy'n byw bob dydd gyda cholli rhywun i hunanladdiad. Ein dyletswydd ni, Weinidog, yw anrhydeddu eu dewrder, drwy weithio gyda hwy i ddarparu'r cymorth profedigaeth ar ôl hunanladdiad y mae ei ddirfawr angen yng Nghymru, ac achub bywydau wrth wneud hynny.