Part of the debate – Senedd Cymru am 3:25 pm ar 22 Ionawr 2020.
Bydd yr Aelodau'n cofio i’r Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon, o dan gadeiryddiaeth fedrus Dai Lloyd, gynnal ymchwiliad pwysig i atal hunanladdiad yng Nghymru yn 2018, gan gynhyrchu adroddiad o'r enw 'Busnes Pawb'. Fel rhan o'r ymchwiliad hwnnw, fe wnaethom edrych yn ofalus ar y gefnogaeth sydd ar gael i bobl sydd mewn profedigaeth o ganlyniad i hunanladdiad, gan gynnwys cyfarfod â phobl sy'n byw gyda cholli rhywun i hunanladdiad.
Rwyf wedi siarad o’r blaen yn y Siambr hon am ymweliad y pwyllgor â Sefydliad Jacob Abraham yng Nghaerdydd lle cyfarfuom â grŵp o berthnasau, pob un ohonynt wedi colli meibion, gwŷr, tadau, a brodyr i hunanladdiad. Roedd un ddynes wedi colli nid un ond dau fab i hunanladdiad—sy'n atgoffa rhywun, yn gwbl dorcalonnus, o'r risg y mae profedigaeth o ganlyniad i hunanladdiad yn ei chreu. Mae'n arswydus meddwl nad oedd unrhyw un o’r teuluoedd hynny wedi cael unrhyw gymorth arbenigol, heblaw am y gefnogaeth a gynigiai'r sefydliad. Nid oeddent wedi cael 'Cymorth wrth Law Cymru' hyd yn oed, llyfryn rhagorol Llywodraeth Cymru ar brofedigaeth o ganlyniad i hunanladdiad. Nawr, nid yw Sefydliad Jacob Abraham yn cael unrhyw arian statudol ac mae wedi bod yn gweithredu o'r llaw i'r genau ers ei sefydlu gan Nicola Abraham ar ôl iddi golli ei mab Jacob i hunanladdiad yn 2015. Yn ‘Busnes Pawb', dywedodd y pwyllgor yn glir iawn, a dyfynnaf:
'Cawsom ein syfrdanu i glywed am y diffyg cymorth sydd ar gael i’r rhai sydd wedi dioddef profedigaeth o ganlyniad i hunanladdiad.’
Dyna pam fod y pwyllgor wedi gwneud tri argymhelliad ar gymorth profedigaeth. Fe wnaethom alw am ddatblygu llwybr ôl-ymyrraeth ledled Cymru ar gyfer hunanladdiad fel blaenoriaeth ar unwaith. Fe wnaethom alw am hyrwyddo 'Cymorth wrth Law Cymru' yn fwy gweithredol, ac fe wnaethom alw ar Lywodraeth Cymru i roi ystyriaeth weithredol i ddarparu cyllid ar gyfer grwpiau cymorth i'r rheini sydd mewn profedigaeth ar ôl hunanladdiad. Fe wnaethom yr argymhellion hynny yn ôl ym mis Tachwedd 2018, a bellach, fwy na blwyddyn yn ddiweddarach, nid oes digon wedi newid o bell ffordd.
Croesawais y cyllid ychwanegol o £500,000 a ddarparwyd mewn ymateb i adroddiad y pwyllgor iechyd i ariannu swydd arweinydd atal hunanladdiad cenedlaethol newydd yng Nghymru a chydgysylltwyr rhanbarthol. Rwy'n cydnabod y bu oedi wrth benodi'r unigolyn hwnnw, a bod hynny wedi arafu cynnydd, ond gan fod penodiad wedi'i wneud bellach, mae gwir angen i ni symud yn gyflym. Croesawaf hefyd y 1,500 copi o 'Cymorth wrth Law Cymru' a argraffwyd gan Lywodraeth Cymru yn dilyn ein hadroddiad, ond rwy'n dal i gyfarfod pobl sydd wedi cael profedigaeth o ganlyniad i hunanladdiad nad ydynt wedi cael copi o’r adnodd hanfodol hwn, nac wedi cael gwybod amdano. Ac ni wnaed unrhyw fuddsoddiad mewn grwpiau cymorth, ac yn wir, mae’r grŵp olaf ar gyfer goroeswyr profedigaeth ar ôl hunanladdiad yng Nghymru wedi dod i ben.
Bob tro y mynegais fy mhryderon ynghylch profedigaeth ar ôl hunanladdiad dros y flwyddyn ddiwethaf, tynnwyd fy sylw at adolygiad Llywodraeth Cymru o wasanaethau profedigaeth, er fy mod wedi dweud dro ar ôl tro nad wyf yn credu bod angen adolygiad arnom i ddweud wrthym fod gwasanaethau profedigaeth ar ôl hunanladdiad yn druenus o annigonol yng Nghymru. Mae'r adolygiad hwnnw bellach wedi cyflwyno ei adroddiad, ac mae'n rhaid i mi ddweud, rwy'n wirioneddol siomedig ag ef. Nid wyf yn cydnabod y darlun y mae'n ei baentio o'r gefnogaeth y mae'n honni ei bod ar gael ar gyfer profedigaeth ar ôl hunanladdiad. Yn ôl pob tebyg, mae chwe gwasanaeth yn cynnig cymorth profedigaeth ar ôl hunanladdiad yn Nhorfaen. Mae Caerffili, Caerdydd, Sir y Fflint, Sir Benfro, a Rhondda Cynon Taf yn gwneud yn well byth, gydag wyth yr un. Pwy fyddai'n meddwl? Yn sicr, nid y bobl y cyfarfûm â hwy sydd mewn profedigaeth ar ôl hunanladdiad. A bod yn deg â'r adroddiad, mae'n amlwg fod y mwyafrif—81 y cant o ddarparwyr—yn cynnig gwybodaeth a chefnogaeth ac yn cyfeirio at wasanaethau cymorth eraill, ac mae hynny, i mi, yn codi llawer o gwestiynau ynglŷn â sut beth yw'r gefnogaeth hon. A yw'n daflen, e-bost, galwad ffôn? Ac oni ddylai'r adroddiad fod wedi nodi’n glir pa fath o gefnogaeth sy'n cael ei chynnig a chan bwy? Gwyddom o'r adroddiad fod cefnogaeth arbenigol yn brin ar lawr gwlad, ond nid yw'n dweud unrhyw beth wrthym am bwy sy'n darparu'r gefnogaeth honno, pa mor hir y mae'n rhaid i bobl aros amdani nac unrhyw beth am ansawdd y gwasanaethau, nac unrhyw beth arall yn ei gylch.
Gŵyr y Gweinidog yn iawn fod hunanladdiad ymhlith pobl ifanc yn achos sy'n agos iawn at fy nghalon. Mae elusen 2 Wish Upon a Star yn darparu cefnogaeth mewn profedigaeth i deuluoedd sy'n colli plentyn neu oedolyn ifanc mewn ffordd sydyn a thrawmatig, gan gynnwys drwy hunanladdiad. Fe’i sefydlwyd gan Rhian Mannings, yn dilyn marwolaeth ei babi bach, George, a hunanladdiad trasig ei gŵr, Paul, bum niwrnod yn unig yn ddiweddarach. Yn union fel Nicola Abraham, mae Rhian wedi defnyddio'i phrofiad byw o brofedigaeth ar ôl hunanladdiad i geisio atal teuluoedd eraill rhag dioddef yr hyn y mae hi wedi'i ddioddef. Maent yn gwneud gwaith gwych ledled Cymru. Mae'r blychau cofio y maent yn eu darparu ar gyfer teuluoedd sydd wedi colli plentyn yn yr ysbyty yn rhoi ychydig gysur ar yr adeg dywyllaf, heb os, ym mywyd unrhyw riant. Mae eu gallu i gynnig cefnogaeth yn fuan ar ôl y brofedigaeth, neu pan fo angen y gefnogaeth honno, yn achub bywydau, yn llythrennol, i rai teuluoedd. Maent hefyd yn darparu cefnogaeth fawr ei hangen ar gyfer brodyr a chwiorydd sydd mewn profedigaeth. Ac eto, er eu bod yn derbyn atgyfeiriadau gan bob bwrdd iechyd yng Nghymru, ac yn darparu gwasanaeth ym mhob adran ddamweiniau ac achosion brys a'r rhan fwyaf o adrannau gofal critigol, nid yw 2 Wish Upon a Star yn cael ceiniog o arian cyhoeddus gan unrhyw un o'r byrddau iechyd. Mae hynny'n gwbl anghywir.