Part of the debate – Senedd Cymru am 3:23 pm ar 22 Ionawr 2020.
Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n falch iawn o agor y ddadl hon ar brofedigaeth ar ôl hunanladdiad. Hoffwn ddiolch i Dai Lloyd AC a David Melding AC am gyd-gyflwyno'r cynnig gyda mi heddiw, ac i Dai Lloyd am gloi'r ddadl. Hoffwn ddiolch hefyd i'r holl Aelodau sydd wedi cefnogi'r cynnig.
Heddiw, rwyf am ddechrau drwy gydnabod bod colli rhywun i hunanladdiad yn golled unigryw o ddinistriol. Mae'n gadael pobl mewn lle tywyll iawn. Nawr, gwn fod galar yn beth personol iawn, a bod pawb yn ei brofi yn eu ffordd eu hunain ac yn ymdopi'n wahanol. Nid wyf yn bwriadu bychanu effaith profedigaethau eraill mewn unrhyw ffordd, ond er mwyn sicrhau y rhoddir y gefnogaeth gywir i'r rheini sydd wedi cael profedigaeth drwy hunanladdiad, mae'n rhaid i ni gydnabod y ffyrdd y mae'n wahanol i fathau eraill o brofedigaeth a pha mor unigryw o ddinistriol ydyw. Yn wir, mae'n anodd ei roi mewn geiriau, hyd yn oed. Yn ogystal â'r brofedigaeth dorcalonnus o golli rhywun rydych yn eu caru, yn aml ceir stigma ac arwahanrwydd, teimladau dinistriol o euogrwydd, ac oes o ofyn, 'Beth os?', 'O na bai', ac yn anad dim, 'Pam?'—cwestiwn na fydd rhai pobl byth yn gallu dod o hyd i'r ateb iddo.
Gall colli rhywun i hunanladdiad gael effaith fawr hefyd ar bobl ymhell y tu hwnt i deulu a ffrindiau agos yr ymadawedig. Rwyf wedi disgrifio hunanladdiad o'r blaen fel craig fawr yn cwympo i mewn i bwll. Mae'r tonnau'n crychdonni tuag allan ac maent yn eang ac yn bellgyrhaeddol.
Bob blwyddyn yng Nghymru, collir oddeutu 300 i 350 o fywydau drwy hunanladdiad. Arferid dweud bod pob hunanladdiad yn effeithio ar chwech o bobl, ond mae ymchwil fwy diweddar wedi canfod bod 135 o bobl yn cael eu heffeithio mewn gwirionedd. Mae colli rhywun i hunanladdiad yn dinistrio teuluoedd, ffrindiau a chymunedau cyfan. Gwyddom hefyd fod colli rhywun i hunanladdiad yn ffactor risg sylweddol ar gyfer marw drwy hunanladdiad, yn enwedig i bobl ifanc sydd mewn grŵp risg uchel. Felly, cefnogaeth i'r rheini sydd mewn profedigaeth ar ôl hunanladdiad yw un o'r pethau mwyaf effeithiol y gallwn eu gwneud i atal pobl rhag marw drwy hunanladdiad.