Part of the debate – Senedd Cymru am 3:41 pm ar 22 Ionawr 2020.
Hoffwn ddechrau drwy ddiolch i Lynne Neagle ac eraill am gyflwyno'r ddadl hon y prynhawn yma. Fodd bynnag, mae'n hynod drist fod yn rhaid i ni wneud hyn a thrafod y pwnc hwn heddiw, nid yn unig am fod cymorth profedigaeth ar ôl hunanladdiad yn gyfyngedig, a heb fod yn ddigon da a dweud y gwir, ond am fod hunanladdiad yn dal i ddigwydd ar raddfa enfawr ac yn argyfwng iechyd cyhoeddus.
Y llynedd, siaradais yn ystod y ddadl ar atal hunanladdiad a gosodais her i bob un ohonom. Yr her oedd i bob un ohonom wneud yn well a deall a derbyn bod hunanladdiad yn fusnes i bawb. Gofynnais i'r Aelodau ac aelodau o'r cyhoedd wneud mwy i gefnogi ei gilydd ac i wneud mwy i atal hunanladdiad. Nawr, gwneuthum hyn, Ddirprwy Lywydd, am nad wyf eisiau i deulu arall brofi’r hyn y bu’n rhaid i fy nheulu i fynd drwyddo a'r hyn rydym yn parhau i fynd drwyddo. Felly, gadewch inni gofio, Ddirprwy Lywydd, na ddylem byth roi'r gorau i geisio helpu eraill, yn enwedig pan all hynny achub bywydau.
Ar ddechrau’r ddadl, soniodd Lynne Neagle fod pobl sydd mewn profedigaeth ar ôl hunanladdiad mewn perygl o gyflawni hunanladdiad ac mewn mwy o berygl o gyflawni hunanladdiad, ac nid yw hynny’n syndod i mi. Yn dilyn fy mhrofiad, rwy'n dioddef o iselder ac anhwylder straen wedi trawma. Felly, rwyf am i aelodau'r cyhoedd ac Aelodau'r Siambr ddeall sut beth yw bywyd i bobl mewn profedigaeth a pham ei bod mor bwysig ein bod yn gwneud mwy, a bod Llywodraeth Cymru a Llywodraethau ledled y Deyrnas Unedig yn gwneud yn well—yn gwneud yn well i gefnogi'r rheini sydd mewn profedigaeth ar ôl hunanladdiad ac i gefnogi'r rheini sy'n dioddef cyn ei bod yn rhy hwyr.
Felly, beth yw profedigaeth ar ôl hunanladdiad? Mae'n cynnwys nosweithiau di-gwsg; hunllefau pan fyddwch yn cysgu; methu codi o'r gwely i wynebu'r byd; ôl-fflachiadau a phryderon pan fyddwch yn codi; gwybod bod bywyd rhywun wedi dod i ben yn rhy fuan; y teimlad na fyddwch byth yn mynd i weld pêl-droed gyda'ch ffrind gorau eto; ac er y bydd eraill yn gallu symud ymlaen, y sylweddoliad na fydd eich bywyd byth yr un fath eto.
Ddirprwy Lywydd, mae’n rhaid gwella ymwybyddiaeth o sut y gall ymddygiad effeithio ar y rheini sydd wedi colli rhywun. Mae adroddiadau ar hunanladdiad yn enghraifft benodol a dylai'r rhai sy'n ceisio llywio'r mathau hyn o adroddiadau ateb y cwestiwn syml hwn: pa effaith fydd fy ngweithredoedd yn ei chael ar y rheini sydd mewn profedigaeth?
Yn olaf, Ddirprwy Lywydd, hoffwn sôn am wasanaethau iechyd meddwl yn gyffredinol a'r rôl y gallant ei chwarae yn atal hunanladdiad. Nawr, rydym yn llawer mwy agored wrth siarad am y mater erbyn hyn, ond fel y dywedais ar y dechrau, mae hunanladdiad a salwch meddwl yn argyfwng iechyd cyhoeddus. Rydym bob amser yn dweud y dylid trin iechyd meddwl gyda'r un brys a pharch ag iechyd corfforol, wel, mae'n bryd gweld prawf o hynny.
Ac i gloi, os caf ddweud, yn niffyg cefnogaeth ddigonol i'r rheini sydd mewn profedigaeth ar ôl hunanladdiad a'r rheini sy'n dioddef o salwch meddwl, ceir byddin o wirfoddolwyr ac aelodau'r cyhoedd sy'n camu i'r adwy bob dydd i ddarparu cefnogaeth. A hoffwn gloi, Ddirprwy Lywydd, drwy ddiolch iddynt, bob un ohonynt, am newid bywydau, am achub bywydau. Diolch.