Part of the debate – Senedd Cymru am 3:45 pm ar 22 Ionawr 2020.
Fel cadeirydd y grŵp trawsbleidiol ar angladdau a phrofedigaeth, rwy'n croesawu'r ddadl hon. Deallwn fod rhwng 300 a 350 o bobl yn marw drwy hunanladdiad bob blwyddyn yng Nghymru, yn ôl Samariaid Cymru, gyda’r gyfradd hunanladdiad ymysg dynion bron dair gwaith yn uwch na’r gyfradd ar gyfer menywod.
Mae Samariaid Cymru yn nodi’r ffigur y cyfeiriodd Lynne Neagle ato, fod pob achos o hunanladdiad yn effeithio'n ddifrifol ar o leiaf chwech o bobl. Nododd Lynne, mewn gwirionedd, fod y lluosydd yn llawer iawn uwch na hynny, a bod unigolyn sydd mewn profedigaeth ar ôl hunanladdiad yn llawer mwy tebygol o geisio cyflawni hunanladdiad eu hunain. Ac maent yn ychwanegu bod llawer o bobl sydd mewn profedigaeth o'r fath yn ei chael hi'n anodd cael y cymorth sydd ei angen arnynt a bod yn rhaid inni ddarparu gwell gwybodaeth a chefnogaeth i'r rheini sydd mewn profedigaeth neu yr effeithiwyd arnynt gan hunanladdiad, a bod yn rhaid cydnabod bod cymorth i'r grŵp hwn yn elfen allweddol yn y gwaith o atal hunanladdiad.
Cyfeiriwyd at Rhian Mannings, sylfaenydd yr elusen Cymru gyfan 2 Wish Upon a Star, ac mae'r elusen a Rhian yn rhan o’r grŵp trawsbleidiol. Mae'r elusen hon, fel y clywsom, yn darparu cymorth profedigaeth hanfodol i deuluoedd sydd wedi colli plentyn neu oedolyn ifanc o dan 25 oed yn sydyn ac yn drawmatig o ganlyniad i hunanladdiad neu drwy ddamwain neu salwch. Dywedodd wrthyf mai marwolaeth sydyn yw'r farwolaeth sy’n cael ei hanghofio yng Nghymru. Ac er bod yr elusen wedi dod yn wasanaeth statudol i bob pwrpas yng Nghymru, gan weithio, fel y clywsom, gyda phob bwrdd iechyd a phob heddlu, nid ydynt yn cael unrhyw gymorth statudol o gwbl, ac mae’n rhaid iddynt godi pob ceiniog eu hunain, er eu bod yn lleihau'r pwysau ar dimau iechyd meddwl, gan helpu i fynd i'r afael â thrawma annisgwyl marwolaeth a cholled na ellid bod wedi'u rhagweld.
Dywed Rhian Mannings iddi ddechrau ei brwydr ar ôl iddi golli ei gŵr a’i mab yn sydyn—dim paratoi, dim rhybudd ac yna dim byd, meddai—a bod y diffyg cymorth a gawsant wedi arwain yn uniongyrchol at hunanladdiad ei gŵr.
Lansiodd Gofal mewn Galar Cruse eu maniffesto ar gyfer pobl mewn profedigaeth ddeufis yn ôl. Credant y gall mynediad at y gefnogaeth gywir, wedi'i theilwra i anghenion pob unigolyn mewn profedigaeth, eu helpu i oresgyn heriau galar ac adeiladu bywyd ystyrlon, gan gofio a dathlu bywydau'r rheini y maent wedi'u colli. Dywedant y gall hyn, yn ei dro, helpu i wella iechyd meddwl a lleihau'r effaith ar wasanaethau'r GIG.
Ymhlith pethau eraill, mae Cruse yn galw am Weinidog penodol gyda chyfrifoldeb am brofedigaeth a strategaeth drawsadrannol, ac am gyllid lleol ar gyfer cymorth profedigaeth o ansawdd uchel, lle dywedant fod gormod o bobl yn dal i fethu cael cymorth ar ôl profedigaeth, lle nad oes cyllid statudol mewn gormod o ardaloedd ar gyfer yr asiantaethau a'r elusennau sy'n helpu pobl sydd mewn profedigaeth. Ac maent yn galw am gymunedau mwy tosturiol lle mae pawb yn gwybod digon am alar i chwarae eu rhan yn cefnogi pobl pan fo rhywun yn marw.
Dywed Marie Curie fod sicrhau cefnogaeth ddigonol i deuluoedd sydd wedi cael profedigaeth yn rhan bwysig o broses marwolaeth a marw. Ac mae 2 Wish Upon a Star yn nodi'r gydberthynas rhwng y sefydliadau hynny a ariennir gan Lywodraeth Cymru, awdurdodau lleol neu fyrddau iechyd sy'n cyfeirio neu'n atgyfeirio’n bennaf at sefydliadau a'r rheini sy'n darparu gwasanaethau profedigaeth ond nad ydynt yn cael fawr o gyllid, os o gwbl. A dywedant fod angen i wasanaethau fod yn dra hysbys, ac y dylid defnyddio dull amlasiantaethol i sicrhau y gellir darparu cymorth ledled Cymru ac y gellir lleihau canlyniadau hirdymor difrifol.
Mae'r grŵp trawsbleidiol ar ofal lliniarol a hosbisau, a gadeirir gennyf hefyd, yn cynnig pedwar argymhelliad i wella gofal a chefnogaeth i bobl sydd mewn profedigaeth yng Nghymru, er mwyn sicrhau gwell canlyniadau i bobl ar ôl iddynt golli rhywun annwyl. Yn gyntaf, gwella data ar yr angen am gefnogaeth mewn profedigaeth lle mae'n anodd iawn ar hyn o bryd, oherwydd diffyg asesiad cadarn o anghenion, i wasanaethau gynllunio i ddiwallu anghenion neu ddeall pa adnoddau y gallai fod eu hangen arnynt i wneud hynny. Yn ail, sicrhau bod profedigaeth yn nodwedd allweddol o'r holl bolisi perthnasol sydd i'w ystyried a'i ymgorffori yn strategaethau a pholisïau Llywodraeth Cymru, gan gynnwys lles ac iechyd meddwl oedolion a lles ac iechyd meddwl plant. Yn drydydd, ymgorffori cymorth profedigaeth mewn ysgolion. Ac yn bedwerydd, sicrhau bod darpariaeth gofal profedigaeth yn gynaliadwy lle ceir tystiolaeth o ddiffyg blaenoriaethu strategol a pholisi ar gyfer cymorth profedigaeth yn y lefelau isel iawn o gyllid statudol ar gyfer gofal i bobl mewn profedigaeth.
Cyfeiriodd Lynne Neagle at gyhoeddi 'Arolwg cwmpasu o wasanaethau profedigaeth yng Nghymru: Adroddiad Diwedd Astudiaeth' y mis diwethaf a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru. Nodai fod mwy o wasanaethau profedigaeth ar gael yn ne-ddwyrain Cymru, gyda'r nifer leiaf yng ngogledd a gorllewin Cymru. Roedd yn nodi hyn:
Disgrifiodd yr ymatebwyr nifer o fylchau a heriau yn y ddarpariaeth o wasanaeth profedigaeth... Ymddengys bod llawer yn ymwneud â diffyg fframwaith clir ar gyfer comisiynu a darparu gwasanaethau profedigaeth gan gynnwys diffyg blaenoriaeth i ofal profedigaeth mewn sefydliadau, diffyg mynediad at gyllid a mynediad cyfyngedig i hyfforddiant a chyfleusterau priodol.
Un ystyriaeth allweddol—