Part of the debate – Senedd Cymru am 4:19 pm ar 22 Ionawr 2020.
A gaf fi ddiolch i'r Cadeirydd am ei gyflwyniad a'i esboniad manwl o'r adroddiad? Nid yw'n gadael llawer i ni ei ddweud. A gaf fi hefyd ddiolch i'r tîm clercio a'r tystion a ddaeth gerbron y pwyllgor?
Ddirprwy Lywydd, yn y Siambr hon rydym yn trafod yn rheolaidd y ffordd y mae Cymru'n mynd i'r afael â darpariaeth iechyd meddwl. Yn wir, rydym newydd gael dadl a oedd yn tynnu llawer o sylw at iechyd meddwl a sut yr awn i'r afael â hynny ac atal hunanladdiad. Rydym yn aml yn myfyrio ar y gallu i ddarparu gofal mewn argyfwng a chynllunio gofal a thriniaeth, sydd weithiau'n gysylltiedig â gofal iechyd corfforol ac weithiau, yn ogystal, â gofal iechyd meddwl. Edrychwch yn ôl ar ddadleuon yr ychydig flynyddoedd diwethaf, ar adroddiadau'r pwyllgor iechyd a gofal cymdeithasol ac ar adroddiadau'r pwyllgor plant a phobl ifanc. Maent wedi cynhyrchu sawl adroddiad ar iechyd meddwl yn arbennig.
Nawr, rydym i gyd yn gwybod y ffigurau. Gwn ei fod yn cael ei ddyfynnu'n aml: bydd un o bob pedwar yn dioddef o broblemau iechyd meddwl. Ac mae'n rhwystredig iawn fod hyn yn dal i fodoli yn y gymdeithas. Mae stigma'n parhau ynglŷn ag iechyd meddwl, ac mae hynny, yn ddi-os, yn atal pobl rhag siarad a chael y cymorth sydd ei angen arnynt, ond rwy'n falch o weld bod camau'n cael eu cymryd i newid hynny ac rwy'n cefnogi'n fawr yr holl gamau sydd ar waith i wneud hynny.
Mae llawer o argymhellion yn yr adroddiad, ac rwy'n falch fod y mwyafrif wedi'u derbyn gan y Llywodraeth neu wedi'u derbyn mewn egwyddor. Fodd bynnag, mae gennyf bryderon ynghylch gwrthod argymhelliad 11. Cefais sylwadau gan nifer o sefydliadau yn fy rôl fel cadeirydd y grŵp trawsbleidiol ar iechyd meddwl ynglŷn â gofal mewn argyfwng a chynllunio gofal a thriniaeth, a pha mor gyflym y cyflawnwyd argymhellion a chamau gweithredu blaenorol o ganlyniad.
Nawr, rydym i gyd yn cydnabod bod y concordat gofal mewn argyfwng iechyd meddwl yn gytundeb uchelgeisiol rhwng Llywodraeth Cymru a phartneriaid i wella'r gofal a'r cymorth i bobl sy'n wynebu argyfwng iechyd meddwl neu sydd mewn perygl o wneud hynny. Mae'r concordat yn seiliedig ar y pedair egwyddor graidd a'r canlyniadau disgwyliedig canlynol: mynediad effeithiol at gymorth cyn cyrraedd pwynt argyfwng; mynediad brys at ofal mewn argyfwng; triniaeth a gofal o ansawdd mewn argyfwng; ac adferiad a chadw'n iach. Mae darparu gofal rhagorol mewn argyfwng yn galw am ffocws pendant ar y person sy'n dioddef yr argyfwng, gan eu cydnabod fel unigolion mewn angen ac ymateb mewn ffordd sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn. Mae'r concordat yn nodi'n glir fod cefnogi unigolion sy'n wynebu argyfwng yn gyfrifoldeb amlasiantaethol, sy'n galw am ddull gweithredu cydgysylltiedig, a rhaid inni beidio â cholli golwg ar y mater allweddol: anghenion y sawl sy'n dioddef argyfwng iechyd meddwl.
Clywodd y pwyllgor fod gostyngiad o 90 y cant wedi bod yn nifer yr unigolion mewn argyfwng iechyd meddwl a gafodd eu cadw mewn celloedd heddlu ers 2015, pan gyflwynwyd y concordat, felly mae'n gallu helpu. Er bod yr ymchwiliad hwn wedi edrych yn benodol ar ddefnyddio adran 136, gall argymhellion, os cânt eu rhoi ar waith yn effeithiol ac yn gyflym, gael effaith ehangach a chefnogi'r broses o sicrhau newid trawsnewidiol, sef uchelgais y concordat gofal mewn argyfwng. Mae Noddfa Gyda'r Hwyr yn Llanelli—y gyntaf o'i bath yng Nghymru—yn enghraifft o weithio mewn partneriaeth o dan y concordat gyda Heddlu Dyfed Powys, Cyngor Sir Caerfyrddin a Bwrdd Iechyd Hywel Dda, ar ôl comisiynu'r gwasanaeth i weithio gyda Mind a Hafal. Edrychaf ymlaen at weld myfyrio ar yr arferion da yn Llanelli yn digwydd ledled Cymru.
Hoffwn drafod argymhelliad 8 hefyd, sy'n seiliedig ar gynllunio gofal a thriniaeth. Mae cynllunio gofal a thriniaeth yn hollbwysig i bobl, boed eu bod yn dioddef o gyflwr iechyd corfforol neu gyflwr iechyd meddwl. Fodd bynnag, i'r rheini sy'n byw gyda salwch meddwl, gall methu darparu cynllun gofal a thriniaeth holistaidd fod yn hynod niweidiol, a gallwn weld nifer yn cael eu dal yn y drws troi o ddod allan, mynd yn ôl i mewn, dod allan, mynd yn ôl a chael eu cadw yn y ddalfa. Nid ydym wedi gweld digon o gynnydd o hyd o ran cynllunio gofal a thriniaeth. Mae cynlluniau gofal a thriniaeth effeithiol yn arf gwych i atal argyfyngau rhag digwydd, yn ogystal â sicrhau bod pobl, boed eu bod yn dioddef salwch meddwl eu hunain, neu eu gofalwyr a'u teuluoedd, yn gwybod sut i gael cymorth brys pan fydd arnynt ei angen. Fodd bynnag, dengys tystiolaeth sylweddol na chaiff cynlluniau gofal a thriniaeth, yn enwedig cynlluniau argyfwng, mo'u defnyddio'n effeithiol. Rydym yn methu yn y maes hwn, ac fel Llywodraeth Cymru mae'n bwysig inni sicrhau bod sylw'n cael ei roi i hyn fel mater o frys.
Nawr, codais hyn yn ystod cwestiynau busnes yn ôl ym mis Tachwedd, ac fe'i codaf yma eto: rhaid inni gael y cynlluniau gofal a thriniaeth yn iawn a rhaid inni sicrhau bod gan y bobl sy'n eu defnyddio ffydd yn eu cynlluniau gofal a thriniaeth ac nad ydynt yn teimlo mai geiriau'n unig ydynt nad ydynt yn cyflawni ar eu cyfer hwy. Ddirprwy Lywydd, rhaid i ofal iechyd meddwl, boed yn y gymuned neu yn nalfa'r heddlu, barhau i wella a rhaid inni wneud mwy.