7. Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon: Iechyd Meddwl yng nghyd-destun Plismona a dalfa'r Heddlu

– Senedd Cymru am 4:11 pm ar 22 Ionawr 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Ann Jones Ann Jones Labour 4:11, 22 Ionawr 2020

(Cyfieithwyd)

Eitem 7 ar yr agenda yw dadl ar adroddiad y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon, 'Iechyd Meddwl yng nghyd-destun Plismona a Dalfa'r Heddlu', a galwaf ar Gadeirydd y pwyllgor i gyflwyno'r cynnig, Dai Lloyd.

Cynnig NDM7233 Dai Lloyd

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon ar Iechyd meddwl yng nghyd-destun plismona a dalfa’r heddlu, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 30 Hydref 2019.

Cynigiwyd y cynnig.

Photo of David Lloyd David Lloyd Plaid Cymru 4:11, 22 Ionawr 2020

Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Mae'n bleser gen i agor y ddal yma y prynhawn yma ynghylch adroddiad y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon i iechyd meddwl yng nghyd-destun plismona a dalfa'r heddlu. 

Yn ystod dau ymchwiliad gan wahanol bwyllgorau yn y Cynulliad yma, mae Aelodau'r Cynulliad wedi clywed gan gynrychiolwyr yr heddlu bod mwy a mwy o adnoddau'r heddlu yn cael eu defnyddio i reoli argyfyngau iechyd meddwl. Cytunodd y pwyllgor, felly, i gynnal ymchwiliad byr gan ganolbwyntio ar weithio mewn partneriaeth rhwng yr heddlu, gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol ac eraill. Roeddem yn arbennig o awyddus i weld pa mor effeithiol y mae gwasanaethau'n gweithio gyda'i gilydd i atal pobl sydd efo problemau iechyd meddwl rhag cael eu cymryd i ddalfa'r heddlu, ac i roi sicrwydd i ni ein hunain bod pobl sy'n agored i niwed ac yn profi argyfwng iechyd meddwl yn cael y gofal a'r cymorth sydd eu hangen arnyn nhw.

Mae adrannau 135 a 136 o Ddeddf Iechyd Meddwl 1983 yn rhoi pwerau i swyddogion yr heddlu mewn perthynas ag unigolion sydd ag anhwylder meddwl, neu sy'n ymddangos fel pe baent ag anhwylder meddwl. Gwnaeth Deddf Plismona a Throsedd 2017 rai newidiadau sylweddol i adrannau 135 ac 136. Bwriad y rhain oedd gwella dulliau o ymateb i bobl mewn argyfyngau iechyd meddwl y mae angen cymorth ar frys arnyn nhw gyda'u hiechyd meddwl mewn achosion lle mai swyddogion yr heddlu ydy'r cyntaf i ymateb. 

Photo of David Lloyd David Lloyd Plaid Cymru 4:13, 22 Ionawr 2020

(Cyfieithwyd)

Yn flaenorol, roedd adran 136 yn gymwys i bobl mewn man cyhoeddus, roedd adran 135 yn ei gwneud yn ofynnol i heddwas gael warant gan ynad i fynd i fangre breifat i symud unigolyn i le diogel ar gyfer asesiad. Cyflwynodd Deddf 2017 newidiadau a oedd yn caniatáu i'r asesiad hwnnw ddigwydd yng nghartref unigolyn neu mewn mangre breifat o dan amgylchiadau penodol, ac mae'n dileu'r angen iddynt fod mewn man cyhoeddus.

Cyflwynodd y Ddeddf nifer o newidiadau eraill, gan gynnwys gwahardd defnyddio gorsafoedd heddlu fel man diogel i bobl o dan 18 oed. Yn achos oedolion, ni cheir defnyddio gorsafoedd heddlu fel man diogel heblaw mewn amgylchiadau eithriadol penodol. Nawr, rydym yn cydnabod bod yr heddlu'n aml yn ymateb i bobl â phroblemau iechyd meddwl, ond at ddibenion ein hymchwiliad rydym wedi canolbwyntio ar y defnydd o adran 136, oherwydd fel arfer defnyddir yr adran hon pan fydd pobl yn fwyaf agored i niwed.

Yn rhy aml, ac ers gormod o amser, mae pobl agored i niwed sy'n dioddef argyfyngau iechyd meddwl, ond nad ydynt wedi cyflawni unrhyw drosedd, wedi cael eu rhoi mewn cell heddlu am nad oes unman arall iddynt fynd. Felly rydym yn croesawu'r sicrwydd a gawsom gan uwch swyddogion yr heddlu, arolygwyr a swyddogion Llywodraeth Cymru nad yw dalfa'r heddlu'n cael ei ddefnyddio mwyach fel man diogel ar gyfer y rhai a gedwir o dan adran 136, ac eithrio mewn amgylchiadau eithriadol.

At hynny, cawsom ein calonogi wrth glywed na fu unrhyw achosion o ddefnyddio cell heddlu fel man diogel i berson o dan 18 oed yng Nghymru ers 2015. Roeddem hefyd yn falch o glywed bod arolygiadau o ddalfeydd yr heddlu yng Nghymru wedi canfod, lle caiff oedolion eu cadw yn nalfa'r heddlu mewn amgylchiadau eithriadol, fod y ddarpariaeth gofal iechyd meddwl yn dda at ei gilydd.

Er bod nifer y bobl mewn argyfwng iechyd meddwl a gedwir yn nalfa'r heddlu wedi gostwng, mae'n ymddangos bod nifer y rhai a gedwir o dan adran 136 yn cynyddu. Dangosodd data a gyhoeddwyd gan y Swyddfa Gartref fod 2,256 o bobl wedi'u cadw yng Nghymru o dan adran 136 yn 2018-19, o'i gymharu â 1,955 yn 2017-18. Mae'r heddlu hefyd yn adrodd am gynnydd yn y galw gan bobl mewn argyfyngau iechyd meddwl.

Rydym yn argymell bod Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda'r heddlu i gasglu tystiolaeth ynglŷn â pham y mae nifer y rhai a gaiff eu cadw o dan Ddeddf Iechyd Meddwl 1983 yn cynyddu, ac i ddarparu dadansoddiad o ddata cenedlaethol a lleol i esbonio'r amrywiadau rhanbarthol. Yn ei ymateb i'r argymhelliad hwn, mae'r Gweinidog yn pwysleisio bod casglu a dadansoddi tystiolaeth am nifer y rhai a gaiff eu cadw o dan Ddeddf Iechyd Meddwl 1983 a darparu dadansoddiad o ddata cenedlaethol a lleol i esbonio'r amrywiadau rhanbarthol yn gyfrifoldeb canolog i grŵp sicrwydd y concordat gofal mewn argyfwng iechyd meddwl.

Dywedwyd wrthym hefyd fod y ddarpariaeth o wasanaethau brysbennu iechyd meddwl yn amrywio ac nad yw'n cael ei hariannu'n gyson ledled Cymru. Gall gwasanaethau brysbennu chwarae rhan bwysig yn y gwaith o leihau nifer y bobl a gaiff eu cadw o dan adran 136 ac yng nghelloedd yr heddlu, a'r nifer sy'n mynd i'r ysbyty drwy'r adran achosion brys neu wasanaethau iechyd meddwl acíwt. I'r perwyl hwnnw, rydym wedi argymell bod Llywodraeth Cymru yn gweithio mewn partneriaeth â'r heddlu i adolygu'r dystiolaeth sy'n dod i'r amlwg ar effeithiolrwydd y gwahanol gynlluniau brysbennu yng Nghymru.

Roedd y dystiolaeth a gawsom am y cyswllt a gafodd pobl â'r heddlu pan fyddent yn dioddef argyfwng iechyd meddwl yn gadarnhaol iawn ar y cyfan. Dywedwyd wrthym fod unigolion a'u teuluoedd sydd wedi ffonio'r heddlu yn ystod argyfwng iechyd meddwl wedi bod yn ddiolchgar am y cymorth a gawsant. Mae hyn yn herio'r dybiaeth gyffredinol fod gan bobl sy'n dioddef argyfwng iechyd meddwl farn negyddol am gael eu cadw yn nalfa'r heddlu.  

Felly, rydym yn argymell y dylai Llywodraeth Cymru weithio gydag Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru i sicrhau bod yr adolygiad thematig o ofal argyfwng a gofal y tu allan i oriau yn cynnwys adolygiad o'r llwybr gofal ar gyfer pobl sy'n cael eu cadw o dan adran 136, i edrych ar ansawdd, diogelwch ac ymatebolrwydd y gofal a ddarperir i bobl a gedwir o dan adran 136.

Mae adran 136 hefyd yn caniatáu i berson gael ei gadw yn y ddalfa ar gyfer eu hasesu gan feddyg a gweithiwr proffesiynol iechyd meddwl cymeradwy er mwyn gallu gwneud trefniadau ar gyfer triniaeth neu ofal. Clywsom, fodd bynnag, fod y rhan fwyaf o bobl a gedwir o dan adran 136 yn cael eu rhyddhau yn dilyn asesiad heb driniaeth bellach. Mewn ffigurau a ddarparwyd gan Mind Cymru, ni chafodd 68 y cant o'r rhai a aseswyd yn 2016-17 eu derbyn i'r ysbyty am driniaeth. Mae hyn yn ddwy ran o dair o gyfanswm y nifer a gadwyd o dan adran 136 yn ystod y flwyddyn honno. Mae'n destun pryder fod y rhan fwyaf o bobl a gedwir o dan adran 136 yn cael eu rhyddhau yn dilyn asesiad am nad ydynt angen triniaeth frys yn yr ysbyty ar gyfer cleifion iechyd meddwl.  

Mae'r cod ymarfer i Ddeddf Iechyd Meddwl 1983 yn ei gwneud yn ofynnol bob amser i fynd â phobl sy'n cael eu cadw o dan y Ddeddf i'r ysbyty yn y modd mwyaf tebygol o warchod eu hurddas a'u preifatrwydd—hynny yw, nid mewn car heddlu. Fodd bynnag, roedd y dystiolaeth a glywsom yn awgrymu nad yw hyn yn digwydd. Yn wir, dywedodd grŵp partneriaeth Heddlu De Cymru wrthym fod mwyafrif helaeth y rhai a gedwir o dan adran 136 yn dal i gael eu cludo i fan diogel gan yr heddlu.

Clywsom hefyd fod y pwysau gweithredol ar y gwasanaeth ambiwlans a'r gwasanaethau iechyd meddwl yn golygu bod yr heddlu'n llenwi'r bwlch, a bod cerbydau'r heddlu'n cael eu defnyddio'n gyson i gludo pobl i sefydliadau iechyd meddwl.

Photo of David Lloyd David Lloyd Plaid Cymru 4:18, 22 Ionawr 2020

Cawsom wybod gan y Gweinidog fod cynlluniau peilot yn mynd rhagddynt yn ardaloedd bwrdd iechyd Aneurin Bevan a Hywel Dda i edrych ar gludiant heb fod mewn argyfwng. At hynny, gofynnodd i uned gomisiynu cydweithredol y gwasanaeth iechyd gynnal adolygiad o fynediad a chludiant brys o ran iechyd meddwl i edrych ar sut a ble y darperir mynediad.

Rydym felly'n argymell bod Llywodraeth Cymru, fel mater o frys, yn rhoi ei hadolygiad ynghylch cludiant ar waith. Dylai hefyd nodi sut y bydd yn sicrhau y bydd cludiant amgen i gleifion yn cael ei ddarparu ar gyfer unigolion sy'n wynebu argyfyngau iechyd meddwl, a thrwy hynny gyfyngu ar y defnydd o gerbydau'r heddlu wrth gludo unigolion sy'n cael eu cadw o dan y Ddeddf Iechyd Meddwl i'r ysbyty.

Er fy mod yn croesawu'r ffaith bod y Gweinidog yn derbyn yr argymhelliad hwn, mae'n siomedig, er gwaethaf galwadau'r pwyllgor am frys yn y maes hwn, na fydd canfyddiadau'r adolygiad mynediad a chludo brys ar iechyd meddwl ar gael tan fis Ebrill, ac y bydd camau pellach yn ddibynnol ar ystyriaeth y grŵp sicrwydd. 

I gloi, credaf ein bod ni i gyd yn gytûn ei bod yn annerbyniol cadw unigolion sydd efo salwch meddwl yn nalfa’r heddlu, ac y dylai'r arfer o gadw pobl o dan adran 136 o'r Ddeddf Iechyd Meddwl ond digwydd mewn amgylchiadau eithriadol. Rydym ni'n croesawu'r cynnydd sydd wedi'i wneud hyd yma, ond rydym o'r farn fel pwyllgor bod angen symud yn gyflymach erbyn hyn. Diolch yn fawr.

Photo of David Rees David Rees Labour 4:19, 22 Ionawr 2020

(Cyfieithwyd)

A gaf fi ddiolch i'r Cadeirydd am ei gyflwyniad a'i esboniad manwl o'r adroddiad? Nid yw'n gadael llawer i ni ei ddweud. A gaf fi hefyd ddiolch i'r tîm clercio a'r tystion a ddaeth gerbron y pwyllgor?  

Ddirprwy Lywydd, yn y Siambr hon rydym yn trafod yn rheolaidd y ffordd y mae Cymru'n mynd i'r afael â darpariaeth iechyd meddwl. Yn wir, rydym newydd gael dadl a oedd yn tynnu llawer o sylw at iechyd meddwl a sut yr awn i'r afael â hynny ac atal hunanladdiad. Rydym yn aml yn myfyrio ar y gallu i ddarparu gofal mewn argyfwng a chynllunio gofal a thriniaeth, sydd weithiau'n gysylltiedig â gofal iechyd corfforol ac weithiau, yn ogystal, â gofal iechyd meddwl. Edrychwch yn ôl ar ddadleuon yr ychydig flynyddoedd diwethaf, ar adroddiadau'r pwyllgor iechyd a gofal cymdeithasol ac ar adroddiadau'r pwyllgor plant a phobl ifanc. Maent wedi cynhyrchu sawl adroddiad ar iechyd meddwl yn arbennig.

Nawr, rydym i gyd yn gwybod y ffigurau. Gwn ei fod yn cael ei ddyfynnu'n aml: bydd un o bob pedwar yn dioddef o broblemau iechyd meddwl. Ac mae'n rhwystredig iawn fod hyn yn dal i fodoli yn y gymdeithas. Mae stigma'n parhau ynglŷn ag iechyd meddwl, ac mae hynny, yn ddi-os, yn atal pobl rhag siarad a chael y cymorth sydd ei angen arnynt, ond rwy'n falch o weld bod camau'n cael eu cymryd i newid hynny ac rwy'n cefnogi'n fawr yr holl gamau sydd ar waith i wneud hynny.  

Mae llawer o argymhellion yn yr adroddiad, ac rwy'n falch fod y mwyafrif wedi'u derbyn gan y Llywodraeth neu wedi'u derbyn mewn egwyddor. Fodd bynnag, mae gennyf bryderon ynghylch gwrthod argymhelliad 11. Cefais sylwadau gan nifer o sefydliadau yn fy rôl fel cadeirydd y grŵp trawsbleidiol ar iechyd meddwl ynglŷn â gofal mewn argyfwng a chynllunio gofal a thriniaeth, a pha mor gyflym y cyflawnwyd argymhellion a chamau gweithredu blaenorol o ganlyniad.  

Nawr, rydym i gyd yn cydnabod bod y concordat gofal mewn argyfwng iechyd meddwl yn gytundeb uchelgeisiol rhwng Llywodraeth Cymru a phartneriaid i wella'r gofal a'r cymorth i bobl sy'n wynebu argyfwng iechyd meddwl neu sydd mewn perygl o wneud hynny. Mae'r concordat yn seiliedig ar y pedair egwyddor graidd a'r canlyniadau disgwyliedig canlynol: mynediad effeithiol at gymorth cyn cyrraedd pwynt argyfwng; mynediad brys at ofal mewn argyfwng; triniaeth a gofal o ansawdd mewn argyfwng; ac adferiad a chadw'n iach. Mae darparu gofal rhagorol mewn argyfwng yn galw am ffocws pendant ar y person sy'n dioddef yr argyfwng, gan eu cydnabod fel unigolion mewn angen ac ymateb mewn ffordd sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn. Mae'r concordat yn nodi'n glir fod cefnogi unigolion sy'n wynebu argyfwng yn gyfrifoldeb amlasiantaethol, sy'n galw am ddull gweithredu cydgysylltiedig, a rhaid inni beidio â cholli golwg ar y mater allweddol: anghenion y sawl sy'n dioddef argyfwng iechyd meddwl.

Clywodd y pwyllgor fod gostyngiad o 90 y cant wedi bod yn nifer yr unigolion mewn argyfwng iechyd meddwl a gafodd eu cadw mewn celloedd heddlu ers 2015, pan gyflwynwyd y concordat, felly mae'n gallu helpu. Er bod yr ymchwiliad hwn wedi edrych yn benodol ar ddefnyddio adran 136, gall argymhellion, os cânt eu rhoi ar waith yn effeithiol ac yn gyflym, gael effaith ehangach a chefnogi'r broses o sicrhau newid trawsnewidiol, sef uchelgais y concordat gofal mewn argyfwng. Mae Noddfa Gyda'r Hwyr yn Llanelli—y gyntaf o'i bath yng Nghymru—yn enghraifft o weithio mewn partneriaeth o dan y concordat gyda Heddlu Dyfed Powys, Cyngor Sir Caerfyrddin a Bwrdd Iechyd Hywel Dda, ar ôl comisiynu'r gwasanaeth i weithio gyda Mind a Hafal. Edrychaf ymlaen at weld myfyrio ar yr arferion da yn Llanelli yn digwydd ledled Cymru.  

Hoffwn drafod argymhelliad 8 hefyd, sy'n seiliedig ar gynllunio gofal a thriniaeth. Mae cynllunio gofal a thriniaeth yn hollbwysig i bobl, boed eu bod yn dioddef o gyflwr iechyd corfforol neu gyflwr iechyd meddwl. Fodd bynnag, i'r rheini sy'n byw gyda salwch meddwl, gall methu darparu cynllun gofal a thriniaeth holistaidd fod yn hynod niweidiol, a gallwn weld nifer yn cael eu dal yn y drws troi o ddod allan, mynd yn ôl i mewn, dod allan, mynd yn ôl a chael eu cadw yn y ddalfa. Nid ydym wedi gweld digon o gynnydd o hyd o ran cynllunio gofal a thriniaeth. Mae cynlluniau gofal a thriniaeth effeithiol yn arf gwych i atal argyfyngau rhag digwydd, yn ogystal â sicrhau bod pobl, boed eu bod yn dioddef salwch meddwl eu hunain, neu eu gofalwyr a'u teuluoedd, yn gwybod sut i gael cymorth brys pan fydd arnynt ei angen. Fodd bynnag, dengys tystiolaeth sylweddol na chaiff cynlluniau gofal a thriniaeth, yn enwedig cynlluniau argyfwng, mo'u defnyddio'n effeithiol. Rydym yn methu yn y maes hwn, ac fel Llywodraeth Cymru mae'n bwysig inni sicrhau bod sylw'n cael ei roi i hyn fel mater o frys.  

Nawr, codais hyn yn ystod cwestiynau busnes yn ôl ym mis Tachwedd, ac fe'i codaf yma eto: rhaid inni gael y cynlluniau gofal a thriniaeth yn iawn a rhaid inni sicrhau bod gan y bobl sy'n eu defnyddio ffydd yn eu cynlluniau gofal a thriniaeth ac nad ydynt yn teimlo mai geiriau'n unig ydynt nad ydynt yn cyflawni ar eu cyfer hwy. Ddirprwy Lywydd, rhaid i ofal iechyd meddwl, boed yn y gymuned neu yn nalfa'r heddlu, barhau i wella a rhaid inni wneud mwy.

Photo of Mark Isherwood Mark Isherwood Conservative 4:24, 22 Ionawr 2020

(Cyfieithwyd)

Diolch i'r pwyllgor am gyflawni'r adroddiad hwn. Er bod Llywodraeth Cymru wedi derbyn saith o'i 11 o argymhellion, rwy'n annog y pwyllgor i fonitro'r camau gweithredu a argymhellir gan Lywodraeth Cymru lle mae ond wedi derbyn argymhellion mewn egwyddor.  

Mae adran 136 o'r Ddeddf iechyd meddwl wedi'i chynllunio i ganiatáu i swyddogion yr heddlu symud rhywun o fan cyhoeddus er eu diogelwch eu hunain neu ddiogelwch y cyhoedd os credant eu bod mewn argyfwng iechyd meddwl, a mynd â hwy i fan diogel. Fel y dywed yr adroddiad, mae'r defnydd o ddalfa'r heddlu fel mannau diogel wedi gostwng yn sylweddol dros y pedair blynedd diwethaf. Yn ogystal, dywedodd cadeirydd grŵp sicrwydd y concordat gofal mewn argyfwng iechyd meddwl fod gostyngiad o 90 y cant wedi bod yn nifer yr unigolion a gedwir yng nghelloedd yr heddlu sydd mewn argyfwng iechyd meddwl ers cyflwyno'r concordat gofal mewn argyfwng yn 2015. Fel y mae'r adroddiad yn ychwanegu, mae'r concordat, a thaith Deddf Plismona a Throsedd 2017 yn dilyn hynny, wedi arwain at leihad sylweddol yn y defnydd o orsafoedd heddlu fel mannau diogel, er gwaethaf y duedd gynyddol gyffredinol a welwyd yn y nifer a gadwyd o dan adran 136. Fodd bynnag, fel y clywsom, mae nifer y rhai a gadwyd mewn unedau eraill wedi codi rhwng 2017-18 a 2018-19. Felly, mae angen deall yn well pam y gwelodd rhai heddluoedd wahanol gyfraddau o gynnydd yn nifer y rhai a gadwyd yn y ddalfa ac i weld a ellir dysgu gwersi gan heddluoedd fel Gwent, lle disgynnodd y ffigurau mewn gwirionedd.

Roedd y ffigurau hefyd yn dangos gwahanol ddulliau o weithredu yn y modd y gweithredwyd cynlluniau brysbennu iechyd meddwl. Bwriad y cynlluniau hyn yw dod â'r heddlu ac ymarferwyr iechyd meddwl at ei gilydd i asesu digwyddiad iechyd meddwl ar y cyd er mwyn lleihau'r defnydd o adran 136. Er bod Heddlu Gogledd Cymru wedi gweld cynnydd o 70 y cant yn nifer y rhai a gadwyd o dan adran 136 rhwng 2014 a 2019 i 795, mae clinigwyr iechyd meddwl yn gweithio ochr yn ochr â Heddlu Gogledd Cymru i ddarparu gwasanaeth brysbennu newydd wedi'i leoli yng nghanolfan rheolaeth yr heddlu. Nod hyn yw helpu pobl y nodwyd eu bod mewn argyfwng iechyd meddwl a gwella'r llif gwybodaeth rhwng Heddlu Gogledd Cymru a Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.

Derbyniodd Llywodraeth Cymru argymhelliad 2, sy'n nodi bod angen gwell dealltwriaeth o ba fodel o gydweithio rhwng yr heddlu a staff iechyd sy'n helpu i roi'r cymorth a'r gefnogaeth gywir i bobl mewn argyfwng, ac a all gyfrannu at leihau'r defnydd o adran 136 yn gyffredinol. Roedd tystiolaeth Cyngor Cenedlaethol Prif Swyddogion yr Heddlu yn awgrymu yn yr adroddiad fod y ddarpariaeth o fannau diogel sy'n seiliedig ar iechyd yn dameidiog ledled Cymru, o safbwynt gwasgariad daearyddol ac amseroedd mynediad.

Nododd byrddau iechyd fod gan lawer gyfleusterau addas ond nad oeddent wedi'u staffio'n ddigonol neu y gallai eu defnydd achlysurol olygu nad oedd gan staff a ddefnyddid yn y cyfleusterau hyn sgiliau cywir i ymdrin ag achosion cymhleth yn ymwneud â chleifion mewn gwahanol fathau o drallod emosiynol. Roedd y dystiolaeth a gafodd y pwyllgor yn manylu ar amrywiaeth o fodelau arferion da, megis y cynllun ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan, a oedd wedi datblygu un pwynt cyswllt sy'n hygyrch 24 awr y dydd i unigolion, teulu neu weithwyr proffesiynol.

Derbyniodd Llywodraeth Cymru argymhelliad 5, sy'n amlinellu'r angen i ddatblygu mannau diogel ychwanegol yn seiliedig ar iechyd lle bo angen. Fodd bynnag, mae'n dibynnu ar y byrddau iechyd felly i roi sicrwydd fod eu capasiti presennol yn bodloni'r galw er mwyn eu helpu hwy a'u partneriaid i ddeall pa elfennau o'r llwybr argyfwng y mae angen eu hatgyfnerthu. Felly, mae angen sicrwydd arnom y bydd y costau cysylltiedig yn cael eu talu pe bai angen mannau diogel ychwanegol yn seiliedig ar iechyd.

Nid yw awtistiaeth yn gyflwr iechyd meddwl, ond mae llawer o bobl awtistig yn datblygu problemau iechyd meddwl ar wahân sy'n deillio o ddiffyg cymorth priodol ac yn golygu y gall pobl awtistig ddatblygu anghenion mwy arwyddocaol. Fodd bynnag, er y credir bod y gyfran o bobl awtistig yng ngharchardai'r DU yn fwy na dwbl yr hyn ydyw yn y boblogaeth gyffredinol, fod strategaeth Llywodraeth y DU ar awtistiaeth yn cynnwys carcharorion, a bod Carchar EM Parc wedi ennill achrediad awtistiaeth y Gymdeithas Awtistiaeth Genedlaethol, ni allaf ddod o hyd i unrhyw gyfeiriad at awtistiaeth yn yr adroddiad hwn. Mae'n destun pryder fod cynlluniau Ysbytai'r Brawdlys ar gyfer holi rhywun sydd ag anhwylder sbectrwm awtistiaeth, gan gynnwys canllawiau ar syndrom Asperger, sy'n gymwys ar gyfer tystion a diffynyddion, yn cael eu hanwybyddu'n rhy aml. Ond fel y mae'r rhain yn datgan—ac mae'n neges i bawb—rhaid rhoi ystyriaeth nid yn unig i'r mathau o gwestiynau a ofynnir ond hefyd i'r modd y gwneir hynny. Diolch.

Photo of Rhun ap Iorwerth Rhun ap Iorwerth Plaid Cymru 4:29, 22 Ionawr 2020

Diolch, Dirprwy Lywydd. Doeddwn i ddim yn aelod o'r pwyllgor yn ystod yr ymchwiliad yma, a dwi'n edrych ymlaen at ailymuno â'r pwyllgor wrth i fi ailafael yn fy rôl fel Gweinidog cysgodol dros iechyd. Ond, dwi yn ddiolchgar iawn i'r pwyllgor am gynhyrchu adroddiad sydd yn ddiddorol tu hwnt, a dwi'n meddwl sy'n dysgu llawer iawn inni. Mae'r mater penodol a'r hyn rydyn ni'n trio ei gyflawni fan hyn yn rhywbeth lle mae yna gonsensws eithaf clir wedi bod arno fo ers nifer o flynyddoedd. Ond mae'r dull gweithredu a'r camau gweithredu sydd angen eu cymryd er mwyn cyflawni'r nod yna yn rhai, o bosib, lle mae yna beth anghytuno.

Does yna neb wir yn credu ei bod hi'n addas i bobl fregus sydd yn profi argyfwng iechyd meddwl gael eu hanfon i orsaf heddlu, ond yn rhy aml yn y gorffennol, wrth gwrs, dyna sydd wedi bod yn digwydd, a hynny gan nad oedd yna unman i'r heddlu fynd â'r person neu'r bobl hynny. Mi oeddwn i'n falch iawn o ddarllen yn yr adroddiad yma nad oes yna unrhyw berson dan 18 oed sy'n profi argyfwng iechyd meddwl wedi cael eu hanfon i orsaf heddlu ers 2015 bellach ac mae niferoedd yr oedolion sydd yn diweddu mewn gorsaf heddlu yn lleihau.

Ond rydyn ni hefyd yn gweld yn yr adroddiad yma fod nifer y carchariadau yn adran 136 wedi cynyddu ar y cyfan, ac mi oedd yr heddlu hefyd wedi dweud wrth y pwyllgor eu bod nhw'n teimlo mai nhw'n dal sydd yn cael eu galw yn rhy aml at faterion sydd, mewn difrif, yn ymwneud ag iechyd a gofal neu ofal cymdeithasol. Beth sy'n cael ei amlygu mewn difrif ydy'r ffaith nad ydy'r math o wasanaethau iechyd meddwl 24 awr y dydd, saith diwrnod yr wythnos y byddem ni'n licio eu gweld yn bodoli, felly mae pobl yn cael eu gorfodi o hyd i ddefnyddio'r gwasanaethau sydd yno bob awr o'r dydd—yr heddlu, adran gwasanaethau brys ysbyty, ac ati.

Felly, rydyn ni'n dod yn ôl, onid ydym, at thema sydd wedi ymddangos droeon mewn nifer helaeth o ymholiadau ac ymgynghoriadau eraill—gallaf i ond cyfeirio nôl at y ddadl ddiwethaf a gawsom ni ynglŷn ag hunanladdiad, er enghraifft—y teimlad a'r dystiolaeth nad ydy ein gwasanaethau iechyd a gofal ni yn addas, yn sicr y tu allan i oriau, a bod hynny yn rhoi pwysau ar wasanaethau eraill sydd yn rhai 24 awr y dydd.

Thema gyffredinol arall rydw i'n meddwl sy'n cael ei hamlygu yn yr adroddiad ydy'r ffaith bod cyfathrebu yn annigonol rhwng gwasanaethau, yn enwedig gwasanaethau sydd yn ddatganoledig â gwasanaethau sydd ddim yn ddatganoledig. Mae'n rhaid mynd i'r afael â hynny.

Felly, themâu yn fanna sydd yn rhai cyfarwydd iawn inni mewn difrif, a themâu rydw i'n teimlo nad ydyn nhw wedi cael y sylw y maen nhw wedi ei haeddu a sydd ei angen arnyn nhw yn ymateb Llywodraeth Cymru i'r adroddiad yma. Felly, mi orffennaf i drwy ofyn i'r Gweinidog sut mae'r Llywodraeth yma yn bwriadu gwella'r ddarpariaeth o ofal argyfwng y tu allan i oriau yn arbennig, fel bod pobl sydd yn profi argyfwng neu'r rhai sydd yn gofalu amdanyn nhw yn gwybod pwy i ffonio, ac yn fwy na hynny, yn gwybod y bydd cefnogaeth yn cael ei darparu pan fyddan nhw'n gwneud yr alwad honno.

Photo of Ann Jones Ann Jones Labour 4:33, 22 Ionawr 2020

(Cyfieithwyd)

Diolch. A gaf fi alw yn awr ar y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Vaughan Gething?

Photo of Vaughan Gething Vaughan Gething Labour

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. Hoffwn ddiolch i aelodau'r pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon am eu gwaith yn cynhyrchu'r adroddiad 'Iechyd meddwl yng nghyd-destun plismona a dalfa'r heddlu'. Mae'n bwysig cydnabod rôl yr heddlu yn helpu pobl mewn argyfwng iechyd meddwl. Mewn llawer o achosion, yr heddlu yw'r pwynt cyswllt cyntaf ac mae'r cymorth a roddant i rai o'n pobl fwyaf agored i niwed yn dyngedfennol.

Mae'r argymhellion a wnaed gan y pwyllgor yn ceisio cryfhau ein dull o wella gofal mewn argyfwng, sef un o'r prif flaenoriaethau a gynhwyswyd yng nghynllun cyflawni 'Law yn Llaw at Iechyd Meddwl' Llywodraeth Cymru y disgwyliaf ei gyhoeddi ddiwedd yr wythnos hon. Mae'r argymhellion a wnaed yn adroddiad y pwyllgor yn cyd-fynd â'r dull a weithredwn gyda phartneriaid i gefnogi pobl sy'n wynebu argyfwng drwy'r concordat gofal mewn argyfwng iechyd meddwl, ac roeddwn yn falch fod llawer o bobl yn cydnabod y gwelliannau a wnaed o ran nifer y bobl sy'n cael eu cadw yn nalfa'r heddlu. Nid yw hynny wedi digwydd yn ddamweiniol; mae wedi digwydd drwy weithio mewn partneriaeth ar draws y maes iechyd, yr heddlu a sectorau eraill.

Ond rwy'n cydnabod y pryderon parhaus a godwyd gan yr heddlu o ran amser swyddogion a dreulir yn ymateb i faterion lle tybir bod iechyd meddwl yn ffactor. Bydd rhywfaint o'r galw hwn yn ddefnydd cwbl briodol o rôl ac amser yr heddlu o dan y ddeddfwriaeth iechyd meddwl bresennol. Ond bydd hefyd yn cynnwys gwneud yn siŵr fod pobl sy'n agored i niwed yn gallu cael y cymorth cywir, a'i fod yn cael ei ddarparu ar draws amrywiaeth o asiantaethau. O safbwynt y GIG, rwyf wedi gwneud gwella gofal mewn argyfwng yn flaenoriaeth, gyda chymorth arian ychwanegol. Fodd bynnag, rwy'n cydnabod mai un partner yn unig yn y llwybr argyfwng yw'r GIG. Rydym yn gweithio'n agos gydag amrywiaeth o bartneriaid, gan gynnwys yr heddlu, awdurdodau lleol a'r trydydd sector, i wella cymorth a chanlyniadau i bobl. Roeddwn yn falch o gytuno felly, neu gytuno mewn egwyddor, i dderbyn 10 o'r 11 argymhelliad yn adroddiad y pwyllgor.

Rwy'n cytuno â'r pwyllgor ynglŷn â phwysigrwydd data a thystiolaeth gadarn ar ganlyniadau. Mae grŵp sicrwydd gofal mewn argyfwng iechyd meddwl wedi datblygu set ddata ddiwygiedig ar gyfer y rhai a gedwir o dan adran 135 ac adran 136, set ddata a gyhoeddwyd am y tro cyntaf ar 5 Rhagfyr. Mae'r data'n darparu mwy o wybodaeth nag a gyhoeddwyd yn flaenorol, er enghraifft drwy gynnwys ethnigrwydd a math o gludiant, a chaiff ei gyhoeddi bob chwarter o hyn ymlaen. Rydym yn bwriadu parhau i weithio gyda phartneriaid i ddadansoddi'r data ymhellach er mwyn helpu i lywio ein dull gweithredu a'n harferion dros amser. Mae pob partner yn cytuno, er mwyn gwella'r llwybr gofal mewn argyfwng, fod arnom angen system sy'n gallu ymateb i'r amrywiaeth o ffyrdd y mae pobl yn wynebu argyfwng personol. Nid oes un ateb sy'n addas i bawb. I wneud hyn, mae angen inni ddeall yn well a bod â dealltwriaeth gyffredin o'r galw a ddisgrifir ar hyn o bryd fel galw iechyd meddwl yn ein system gyfan.

Mewn ymateb, rydym wedi comisiynu uned gomisiynu genedlaethol gydweithredol y GIG i gynnal adolygiad mynediad a chludo brys ar gyfer iechyd meddwl. Mae'r adolygiad hwnnw'n cael ei oruchwylio gan grŵp llywio amlasiantaethol ac mae'n dadansoddi data ar draws ystod o bartneriaid, gan gynnwys yr heddlu, awdurdodau lleol, 111, a theulu ehangach y GIG, gan gynnwys gwasanaeth ambiwlans Cymru. Bydd yr adolygiad, a fydd yn cyflwyno'i adroddiad ym mis Ebrill, fel y crybwyllwyd, yn ein helpu i ddeall y galw ar hyn o bryd, er enghraifft os yw'n salwch meddwl neu'n ofid oherwydd ffactorau cymdeithasol. Bydd hyn yn galluogi pob partner i ystyried ei rôl yn sicrhau bod anghenion yn cael eu diwallu wrth inni wella gofal mewn argyfwng a chanlyniadau i bobl.

Derbyniais argymhellion yn galw ar y Llywodraeth i weithio mewn partneriaeth â'r heddlu i adolygu'r dystiolaeth sy'n dod i'r amlwg ar effeithiolrwydd y gwahanol gynlluniau brysbennu ledled Cymru. Un o nodau allweddol grŵp sicrwydd y concordat yw cyd-ddealltwriaeth o ba ddulliau sy'n fwyaf effeithiol ar gyfer gwella canlyniadau i unigolion. Mae'n ofynnol i bartneriaid rhanbarthol roi gwybod am ddatblygiadau a mentrau lleol i grŵp sicrwydd y concordat er mwyn galluogi'r dysgu hwnnw ac i rannu gwelliannau. Rydym yn gweithio gyda chlinigwyr iechyd meddwl, byrddau iechyd lleol ac 111 i nodi cyfleoedd i ddatblygu llwybr argyfwng iechyd meddwl. Bydd hynny'n caniatáu inni nodi pa ddulliau y gellid eu huwchraddio wedyn ar lefel genedlaethol.

Yn unol ag argymhellion y pwyllgor, rydym wedi ymrwymo'n llawn i fuddsoddi mewn ymyrraeth gynnar ac atal er mwyn lleihau'r risg o argyfwng iechyd meddwl yn y lle cyntaf. Mae cynllun cyflawni 'Law yn Llaw at Iechyd Meddwl' a'r cynllun cyflawni ar gyfer argyfwng iechyd meddwl yn adlewyrchu'r ffocws hwnnw. Bydd gan yr holl bartneriaethau iechyd meddwl a chyfiawnder troseddol rhanbarthol gynlluniau lleol ar waith i sicrhau ymyrraeth gynnar ac atal.

Felly, mae gofal mewn argyfwng a gofal y tu allan i oriau yn parhau i fod yn flaenoriaeth, i'r GIG ac yn y cynllun cyflawni 'Law yn Llaw at Iechyd Meddwl' newydd ar gyfer y tair blynedd nesaf. Byddwn yn parhau i weithio ar y cyd â'n partneriaid i wella'r ymateb gyda phobl mewn argyfwng iechyd meddwl ac ar eu cyfer, ac wrth gwrs, byddaf yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau am y cynnydd a wnawn.

Photo of Ann Jones Ann Jones Labour 4:38, 22 Ionawr 2020

(Cyfieithwyd)

Diolch. A gaf fi alw yn awr ar Dai Lloyd i ymateb i'r ddadl?

Photo of David Lloyd David Lloyd Plaid Cymru

Diolch, Dirprwy Lywydd, a diolch am eich amynedd, a dweud y gwir, achos dwi'n sylweddoli bod llai na dim amser gyda fi i ymateb i'r ddadl yma. Ond, a allaf ddiolch, felly, yn yr amser prin sydd ar gael, i bawb am eu cyfraniadau? Hefyd, dwi'n credu ei bod hi'n berthnasol inni allu talu teyrnged am waith yr heddlu yn y cyd-destun anodd yma o fynd i'r afael efo argyfyngau iechyd meddwl mewn achosion brys fel hyn. Dros y blynyddoedd, dwi wedi bod yna efo nhw, yn aml yng nghanol y nos ac ati. Pan fydd yna bethau mawr yn digwydd yn hanes pobl, mae'r heddlu yno i'n helpu ni, fel meddygon, allan o dwll hefyd, yn ogystal â'r teuluoedd. Felly, dwi'n falch iawn o allu cael y cyfle yna i dalu teyrnged i'r heddlu am eu gwaith.

A allaf bellach gydnabod cyfraniadau pwysig gan David Rees, Mark Isherwood, Rhun ap Iorwerth a hefyd, wrth gwrs, y Gweinidog? A allaf hefyd ddiolch i'r holl dystion a wnaeth ddarparu tystiolaeth mor fendigedig inni yn ystod ein hymchwiliad fel pwyllgor? Wrth gwrs, gwnaf hefyd achub ar y cyfle i ddiolch am waith dygn a chaled y clercod a'r ymchwilwyr ar y pwyllgor iechyd, achos dwi ddim wastad, bob tro, yn cofio gwneud hynny. Felly, diolch yn fawr iddyn nhw.

I gloi, felly, mae yna gamau breision wedi'u cymryd yn y maes yma. Mae o'n parhau yn faes dyrys, anodd, achos fel rydym ni i gyd yn gwybod, dydy'r heddlu ddim wedi'u datganoli i'r fan hyn. Mae iechyd a iechyd meddwl wedi'u datganoli i'r fan hyn, ond mae profiad yn gynyddol yn dangos bod yna gydweithio bendigedig yn gallu digwydd. Wedi dweud hynna, erys nifer o heriau yn y maes. Diolch yn fawr.

Photo of Ann Jones Ann Jones Labour 4:40, 22 Ionawr 2020

(Cyfieithwyd)

Diolch. Y cynnig yw nodi adroddiad y pwyllgor. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Na. Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.