7. Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon: Iechyd Meddwl yng nghyd-destun Plismona a dalfa'r Heddlu

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:29 pm ar 22 Ionawr 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rhun ap Iorwerth Rhun ap Iorwerth Plaid Cymru 4:29, 22 Ionawr 2020

Diolch, Dirprwy Lywydd. Doeddwn i ddim yn aelod o'r pwyllgor yn ystod yr ymchwiliad yma, a dwi'n edrych ymlaen at ailymuno â'r pwyllgor wrth i fi ailafael yn fy rôl fel Gweinidog cysgodol dros iechyd. Ond, dwi yn ddiolchgar iawn i'r pwyllgor am gynhyrchu adroddiad sydd yn ddiddorol tu hwnt, a dwi'n meddwl sy'n dysgu llawer iawn inni. Mae'r mater penodol a'r hyn rydyn ni'n trio ei gyflawni fan hyn yn rhywbeth lle mae yna gonsensws eithaf clir wedi bod arno fo ers nifer o flynyddoedd. Ond mae'r dull gweithredu a'r camau gweithredu sydd angen eu cymryd er mwyn cyflawni'r nod yna yn rhai, o bosib, lle mae yna beth anghytuno.

Does yna neb wir yn credu ei bod hi'n addas i bobl fregus sydd yn profi argyfwng iechyd meddwl gael eu hanfon i orsaf heddlu, ond yn rhy aml yn y gorffennol, wrth gwrs, dyna sydd wedi bod yn digwydd, a hynny gan nad oedd yna unman i'r heddlu fynd â'r person neu'r bobl hynny. Mi oeddwn i'n falch iawn o ddarllen yn yr adroddiad yma nad oes yna unrhyw berson dan 18 oed sy'n profi argyfwng iechyd meddwl wedi cael eu hanfon i orsaf heddlu ers 2015 bellach ac mae niferoedd yr oedolion sydd yn diweddu mewn gorsaf heddlu yn lleihau.

Ond rydyn ni hefyd yn gweld yn yr adroddiad yma fod nifer y carchariadau yn adran 136 wedi cynyddu ar y cyfan, ac mi oedd yr heddlu hefyd wedi dweud wrth y pwyllgor eu bod nhw'n teimlo mai nhw'n dal sydd yn cael eu galw yn rhy aml at faterion sydd, mewn difrif, yn ymwneud ag iechyd a gofal neu ofal cymdeithasol. Beth sy'n cael ei amlygu mewn difrif ydy'r ffaith nad ydy'r math o wasanaethau iechyd meddwl 24 awr y dydd, saith diwrnod yr wythnos y byddem ni'n licio eu gweld yn bodoli, felly mae pobl yn cael eu gorfodi o hyd i ddefnyddio'r gwasanaethau sydd yno bob awr o'r dydd—yr heddlu, adran gwasanaethau brys ysbyty, ac ati.

Felly, rydyn ni'n dod yn ôl, onid ydym, at thema sydd wedi ymddangos droeon mewn nifer helaeth o ymholiadau ac ymgynghoriadau eraill—gallaf i ond cyfeirio nôl at y ddadl ddiwethaf a gawsom ni ynglŷn ag hunanladdiad, er enghraifft—y teimlad a'r dystiolaeth nad ydy ein gwasanaethau iechyd a gofal ni yn addas, yn sicr y tu allan i oriau, a bod hynny yn rhoi pwysau ar wasanaethau eraill sydd yn rhai 24 awr y dydd.

Thema gyffredinol arall rydw i'n meddwl sy'n cael ei hamlygu yn yr adroddiad ydy'r ffaith bod cyfathrebu yn annigonol rhwng gwasanaethau, yn enwedig gwasanaethau sydd yn ddatganoledig â gwasanaethau sydd ddim yn ddatganoledig. Mae'n rhaid mynd i'r afael â hynny.

Felly, themâu yn fanna sydd yn rhai cyfarwydd iawn inni mewn difrif, a themâu rydw i'n teimlo nad ydyn nhw wedi cael y sylw y maen nhw wedi ei haeddu a sydd ei angen arnyn nhw yn ymateb Llywodraeth Cymru i'r adroddiad yma. Felly, mi orffennaf i drwy ofyn i'r Gweinidog sut mae'r Llywodraeth yma yn bwriadu gwella'r ddarpariaeth o ofal argyfwng y tu allan i oriau yn arbennig, fel bod pobl sydd yn profi argyfwng neu'r rhai sydd yn gofalu amdanyn nhw yn gwybod pwy i ffonio, ac yn fwy na hynny, yn gwybod y bydd cefnogaeth yn cael ei darparu pan fyddan nhw'n gwneud yr alwad honno.