Part of the debate – Senedd Cymru am 4:33 pm ar 22 Ionawr 2020.
Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. Hoffwn ddiolch i aelodau'r pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon am eu gwaith yn cynhyrchu'r adroddiad 'Iechyd meddwl yng nghyd-destun plismona a dalfa'r heddlu'. Mae'n bwysig cydnabod rôl yr heddlu yn helpu pobl mewn argyfwng iechyd meddwl. Mewn llawer o achosion, yr heddlu yw'r pwynt cyswllt cyntaf ac mae'r cymorth a roddant i rai o'n pobl fwyaf agored i niwed yn dyngedfennol.
Mae'r argymhellion a wnaed gan y pwyllgor yn ceisio cryfhau ein dull o wella gofal mewn argyfwng, sef un o'r prif flaenoriaethau a gynhwyswyd yng nghynllun cyflawni 'Law yn Llaw at Iechyd Meddwl' Llywodraeth Cymru y disgwyliaf ei gyhoeddi ddiwedd yr wythnos hon. Mae'r argymhellion a wnaed yn adroddiad y pwyllgor yn cyd-fynd â'r dull a weithredwn gyda phartneriaid i gefnogi pobl sy'n wynebu argyfwng drwy'r concordat gofal mewn argyfwng iechyd meddwl, ac roeddwn yn falch fod llawer o bobl yn cydnabod y gwelliannau a wnaed o ran nifer y bobl sy'n cael eu cadw yn nalfa'r heddlu. Nid yw hynny wedi digwydd yn ddamweiniol; mae wedi digwydd drwy weithio mewn partneriaeth ar draws y maes iechyd, yr heddlu a sectorau eraill.
Ond rwy'n cydnabod y pryderon parhaus a godwyd gan yr heddlu o ran amser swyddogion a dreulir yn ymateb i faterion lle tybir bod iechyd meddwl yn ffactor. Bydd rhywfaint o'r galw hwn yn ddefnydd cwbl briodol o rôl ac amser yr heddlu o dan y ddeddfwriaeth iechyd meddwl bresennol. Ond bydd hefyd yn cynnwys gwneud yn siŵr fod pobl sy'n agored i niwed yn gallu cael y cymorth cywir, a'i fod yn cael ei ddarparu ar draws amrywiaeth o asiantaethau. O safbwynt y GIG, rwyf wedi gwneud gwella gofal mewn argyfwng yn flaenoriaeth, gyda chymorth arian ychwanegol. Fodd bynnag, rwy'n cydnabod mai un partner yn unig yn y llwybr argyfwng yw'r GIG. Rydym yn gweithio'n agos gydag amrywiaeth o bartneriaid, gan gynnwys yr heddlu, awdurdodau lleol a'r trydydd sector, i wella cymorth a chanlyniadau i bobl. Roeddwn yn falch o gytuno felly, neu gytuno mewn egwyddor, i dderbyn 10 o'r 11 argymhelliad yn adroddiad y pwyllgor.
Rwy'n cytuno â'r pwyllgor ynglŷn â phwysigrwydd data a thystiolaeth gadarn ar ganlyniadau. Mae grŵp sicrwydd gofal mewn argyfwng iechyd meddwl wedi datblygu set ddata ddiwygiedig ar gyfer y rhai a gedwir o dan adran 135 ac adran 136, set ddata a gyhoeddwyd am y tro cyntaf ar 5 Rhagfyr. Mae'r data'n darparu mwy o wybodaeth nag a gyhoeddwyd yn flaenorol, er enghraifft drwy gynnwys ethnigrwydd a math o gludiant, a chaiff ei gyhoeddi bob chwarter o hyn ymlaen. Rydym yn bwriadu parhau i weithio gyda phartneriaid i ddadansoddi'r data ymhellach er mwyn helpu i lywio ein dull gweithredu a'n harferion dros amser. Mae pob partner yn cytuno, er mwyn gwella'r llwybr gofal mewn argyfwng, fod arnom angen system sy'n gallu ymateb i'r amrywiaeth o ffyrdd y mae pobl yn wynebu argyfwng personol. Nid oes un ateb sy'n addas i bawb. I wneud hyn, mae angen inni ddeall yn well a bod â dealltwriaeth gyffredin o'r galw a ddisgrifir ar hyn o bryd fel galw iechyd meddwl yn ein system gyfan.
Mewn ymateb, rydym wedi comisiynu uned gomisiynu genedlaethol gydweithredol y GIG i gynnal adolygiad mynediad a chludo brys ar gyfer iechyd meddwl. Mae'r adolygiad hwnnw'n cael ei oruchwylio gan grŵp llywio amlasiantaethol ac mae'n dadansoddi data ar draws ystod o bartneriaid, gan gynnwys yr heddlu, awdurdodau lleol, 111, a theulu ehangach y GIG, gan gynnwys gwasanaeth ambiwlans Cymru. Bydd yr adolygiad, a fydd yn cyflwyno'i adroddiad ym mis Ebrill, fel y crybwyllwyd, yn ein helpu i ddeall y galw ar hyn o bryd, er enghraifft os yw'n salwch meddwl neu'n ofid oherwydd ffactorau cymdeithasol. Bydd hyn yn galluogi pob partner i ystyried ei rôl yn sicrhau bod anghenion yn cael eu diwallu wrth inni wella gofal mewn argyfwng a chanlyniadau i bobl.
Derbyniais argymhellion yn galw ar y Llywodraeth i weithio mewn partneriaeth â'r heddlu i adolygu'r dystiolaeth sy'n dod i'r amlwg ar effeithiolrwydd y gwahanol gynlluniau brysbennu ledled Cymru. Un o nodau allweddol grŵp sicrwydd y concordat yw cyd-ddealltwriaeth o ba ddulliau sy'n fwyaf effeithiol ar gyfer gwella canlyniadau i unigolion. Mae'n ofynnol i bartneriaid rhanbarthol roi gwybod am ddatblygiadau a mentrau lleol i grŵp sicrwydd y concordat er mwyn galluogi'r dysgu hwnnw ac i rannu gwelliannau. Rydym yn gweithio gyda chlinigwyr iechyd meddwl, byrddau iechyd lleol ac 111 i nodi cyfleoedd i ddatblygu llwybr argyfwng iechyd meddwl. Bydd hynny'n caniatáu inni nodi pa ddulliau y gellid eu huwchraddio wedyn ar lefel genedlaethol.
Yn unol ag argymhellion y pwyllgor, rydym wedi ymrwymo'n llawn i fuddsoddi mewn ymyrraeth gynnar ac atal er mwyn lleihau'r risg o argyfwng iechyd meddwl yn y lle cyntaf. Mae cynllun cyflawni 'Law yn Llaw at Iechyd Meddwl' a'r cynllun cyflawni ar gyfer argyfwng iechyd meddwl yn adlewyrchu'r ffocws hwnnw. Bydd gan yr holl bartneriaethau iechyd meddwl a chyfiawnder troseddol rhanbarthol gynlluniau lleol ar waith i sicrhau ymyrraeth gynnar ac atal.
Felly, mae gofal mewn argyfwng a gofal y tu allan i oriau yn parhau i fod yn flaenoriaeth, i'r GIG ac yn y cynllun cyflawni 'Law yn Llaw at Iechyd Meddwl' newydd ar gyfer y tair blynedd nesaf. Byddwn yn parhau i weithio ar y cyd â'n partneriaid i wella'r ymateb gyda phobl mewn argyfwng iechyd meddwl ac ar eu cyfer, ac wrth gwrs, byddaf yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau am y cynnydd a wnawn.