Part of the debate – Senedd Cymru am 4:38 pm ar 22 Ionawr 2020.
Diolch, Dirprwy Lywydd, a diolch am eich amynedd, a dweud y gwir, achos dwi'n sylweddoli bod llai na dim amser gyda fi i ymateb i'r ddadl yma. Ond, a allaf ddiolch, felly, yn yr amser prin sydd ar gael, i bawb am eu cyfraniadau? Hefyd, dwi'n credu ei bod hi'n berthnasol inni allu talu teyrnged am waith yr heddlu yn y cyd-destun anodd yma o fynd i'r afael efo argyfyngau iechyd meddwl mewn achosion brys fel hyn. Dros y blynyddoedd, dwi wedi bod yna efo nhw, yn aml yng nghanol y nos ac ati. Pan fydd yna bethau mawr yn digwydd yn hanes pobl, mae'r heddlu yno i'n helpu ni, fel meddygon, allan o dwll hefyd, yn ogystal â'r teuluoedd. Felly, dwi'n falch iawn o allu cael y cyfle yna i dalu teyrnged i'r heddlu am eu gwaith.
A allaf bellach gydnabod cyfraniadau pwysig gan David Rees, Mark Isherwood, Rhun ap Iorwerth a hefyd, wrth gwrs, y Gweinidog? A allaf hefyd ddiolch i'r holl dystion a wnaeth ddarparu tystiolaeth mor fendigedig inni yn ystod ein hymchwiliad fel pwyllgor? Wrth gwrs, gwnaf hefyd achub ar y cyfle i ddiolch am waith dygn a chaled y clercod a'r ymchwilwyr ar y pwyllgor iechyd, achos dwi ddim wastad, bob tro, yn cofio gwneud hynny. Felly, diolch yn fawr iddyn nhw.
I gloi, felly, mae yna gamau breision wedi'u cymryd yn y maes yma. Mae o'n parhau yn faes dyrys, anodd, achos fel rydym ni i gyd yn gwybod, dydy'r heddlu ddim wedi'u datganoli i'r fan hyn. Mae iechyd a iechyd meddwl wedi'u datganoli i'r fan hyn, ond mae profiad yn gynyddol yn dangos bod yna gydweithio bendigedig yn gallu digwydd. Wedi dweud hynna, erys nifer o heriau yn y maes. Diolch yn fawr.