Part of the debate – Senedd Cymru am 6:08 pm ar 22 Ionawr 2020.
Roeddwn eisiau gwybod, o'r £24 miliwn—. Gan fy mod yn cadeirio'r Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu; fe ofynasom i'r Gweinidog a ddaeth yno faint o'r arian hwnnw a fyddai'n mynd tuag at brentisiaethau drwy gyfrwng y Gymraeg. Oherwydd ni chawsom wybodaeth lawn ynglŷn â faint fyddai hynny, ac os gallech egluro, byddai hynny'n ddefnyddiol iawn.