Part of the debate – Senedd Cymru am 6:09 pm ar 22 Ionawr 2020.
Wel, bydd yn rhaid i fy nghyd-Weinidog, Gweinidog yr economi, egluro hynny, oherwydd mewn gwirionedd mae prentisiaethau'n dod o dan ei adran ef, nid o fewn yr adran addysg. Ond byddaf yn sicrhau bod y wybodaeth honno ar gael i chi.
Mae'r cynnig yn trafod—[Torri ar draws.] Mae'r cynnig yn trafod prentisiaethau gradd, sydd unwaith eto i'w gweld eisoes yn y gyllideb ddrafft. Mae Gweinidog yr economi a minnau'n parhau'n ymrwymedig i ehangu prentisiaethau gradd lle maent yn gweithio er budd cyflogwyr a dysgwyr. Nawr, roedd fel pe bai wedi'i fethu gan rai o'r siaradwyr, ond mae gennym gynllun peilot sy'n gweithredu eisoes ar gyfer creu rhaglen integredig sy'n meddu ar hygrededd a bri gradd academaidd a'r sgiliau diwydiant cymhwysol y byddech yn disgwyl eu cael mewn prentisiaeth. Mae'r cynlluniau peilot hynny eisoes ar waith, gyda myfyrwyr yn cael eu recriwtio ac ar hyn o bryd yn astudio ar gyfer prentisiaethau gradd mewn technoleg ddigidol, peirianneg a gweithgynhyrchu uwch. Nawr, mae hyn yn rhywbeth rwy'n siŵr y gallwn i gyd gytuno sy'n rhaid inni ei gael yn iawn, a gadewch inni beidio ag anghofio, y mis hwn, honnodd melin drafod a weithredir gan gyn-ymgynghorydd i Lywodraeth San Steffan y gellid ystyried hanner y cyrsiau prentisiaeth yn Lloegr yn rhai ffug, a chanfu enghreifftiau lle roedd rhaglenni israddedig presennol, i bob pwrpas, yn cael eu hail-labelu fel prentisiaeth, yn hytrach na'r dull rydym yn ei weithredu yma yng Nghymru. Felly, gadewch i mi fod yn glir y bydd datblygiad y rhaglen prentisiaethau gradd yng Nghymru yn y dyfodol yn dibynnu ar ganlyniad gwerthusiad annibynnol ac ystyriaethau gwerth am arian, a chredaf fod hynny'n gwrthgyferbynnu'n llwyr â'r hyn a welwn yn digwydd dros y ffin.
Mae'r cynnig hefyd yn galw am greu lwfans dysgu oedolion, ac yn amlwg mae rhai o'r siaradwyr Ceidwadol wedi methu'r ffaith ein bod yn arwain y ffordd yn y maes hwn yng Nghymru gyda sefydlu cyfrifon dysgu personol. Nawr, mae'r fenter hon, sy'n cael ei threialu ar hyn o bryd gan Goleg Gwent a Llandrillo Menai, ar gael i bobl sydd mewn gwaith ar hyn o bryd ond sy'n ennill llai na £26,000 y flwyddyn. Mae'n sicrhau bod pobl yn cael cyfle i gael y sgiliau, y wybodaeth a'r cymwysterau sydd eu hangen arnynt naill ai i newid gyrfa i swydd sy'n talu'n well neu i allu dod o hyd i gyfleoedd yn eu gwaith presennol ar gyfer camu ymlaen. Rwy'n chwilio am gyfle cynnar i ehangu'r cynllun peilot hwnnw i leoliad arall yng Nghymru.
Treuliodd Mohammad Asghar lawer o amser yn dyfynnu'r Brifysgol Agored a'r angen i gefnogi addysg ran-amser. Mae'r wlad hon yn unigryw yn yr ystyr nad ydym yn gwahaniaethu rhwng cymorth sydd ar gael naill ai i israddedigion neu raddedigion, yn rhan amser neu'n amser llawn, ac rwy'n falch iawn, ers cyflwyno ein pecyn diwygio cyllid myfyrwyr, fod y Brifysgol Agored yma yng Nghymru yn nodi cynnydd o 46 y cant yn nifer y bobl sy'n dechrau astudio am radd gyda hwy—cynnydd o 46 y cant—a dim ond yn ail flwyddyn academaidd y diwygiadau hynny rydym ni.
A gaf fi ddweud hefyd—a gaf fi ddweud hefyd—fod angen inni edrych ar sgiliau ar lefel ehangach? Er bod angen i ni sicrhau ein bod yn mynd i'r afael â sgiliau ar lefel is, rydym hefyd am weld mwy o bobl yn astudio ar lefel uwch, gan gynnwys graddau Meistr, ac rwyf wedi gosod targedau ymestynnol iawn i mi fy hun ar gyfer y nifer o fyfyrwyr o Gymru rwyf am eu gweld yn astudio am radd Meistr. Ond ers dechrau'r sesiwn hon o Gynulliad Cenedlaethol Cymru, rhaid i mi ddweud ein bod wedi gweld cynnydd o 33 y cant yn nifer y rhai sy'n dechrau rhaglenni gradd Meistr—cynnydd o 33 y cant.
Mae gennym gynllun arloesol hefyd i gefnogi rhaglenni graddau Meistr ar gyfer rhai dros 60 oed. Oherwydd rheolau'r Trysorlys yn Llundain, ni allwn ganiatáu i bobl dros 60 oed gael mynediad at y llyfr benthyciadau i fyfyrwyr, ond llwyddasom i oresgyn hynny, ac felly, os ydych dros 60 oed yng Nghymru a'ch bod am astudio ar gyfer gradd Meistr, fe gewch gymorth gan Lywodraeth Cymru trwy ein prifysgolion yng Nghymru.
Yn gwbl briodol, holodd Bethan am yr hyn a wnawn i ddenu mwy o bobl i ddychwelyd i Gymru. Nawr, mae gennym gymorth cyffredinol i fyfyrwyr graddau Meistr ni waeth pa ran o'r DU y maent yn astudio ynddi, ond os dychwelwch i Gymru neu ddod i Gymru i astudio ar gyfer gradd Meistr mewn rhai meysydd allweddol fe gewch chi fwrsariaeth ar ben yr hyn y gallwch ei hawlio a'r hyn y gallwch wneud cais amdano gan y system gymorth arferol i fyfyrwyr.
Crybwyllodd Paul Davies y ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg. Rwyf wedi ymrwymo i ehangu'r ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg yn y sector addysg bellach. Dyna pam, ers inni ddod i rym, ein bod wedi cynyddu rôl y coleg cenedlaethol, nid yn unig mewn addysg uwch, ond i gynnwys addysg bellach hefyd. Rwyf wrth fy modd gyda'r gwaith y maent wedi'i wneud, ochr yn ochr â ColegauCymru, ar sefydlu cynllun clir iawn ar gyfer sut y gallwn gynyddu'r ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg yn y sector addysg bellach.
Andrew R.T. Davies, rydych yn llygad eich lle—mae angen dadeni mewn hyfforddiant amaethyddol ar gyfer ein pobl ifanc os ydym am gael sector amaethyddol bywiog yn y dyfodol, a chefais nifer o sgyrsiau eisoes gyda'r darparwyr sydd gennym yn barod ar lefel addysg bellach ynglŷn â sut y gall cwricwlwm diwygiedig edrych, gan wneud yn siŵr fod plant sy'n dod o'r—'plant', maent oll yn blant i mi; pobl ifanc, mae'n ddrwg gennyf—pobl ifanc sy'n dod o'r colegau hynny yn meddu ar y cymwysterau, y sgiliau a'r cymwyseddau parod ar gyfer gwaith ac i fod yn wirioneddol lwyddiannus yn y diwydiant hwnnw. [Torri ar draws.] Wrth gwrs.