Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:30 pm ar 28 Ionawr 2020.
Diolchaf i Angela Burns am y cwestiwn yna, Llywydd.
Rydym ni'n dal i fod wedi ymrwymo i ostwng y ganran o boblogaeth Cymru sy'n smygu i 16 y cant erbyn diwedd y flwyddyn galendr hon. Mae cynllun rheoli tybaco ar ôl 2020 yn cael ei baratoi, gan ddefnyddio'r holl dechnegau seiliedig ar dystiolaeth i helpu i sicrhau Cymru ddi-dybaco.