Mawrth, 28 Ionawr 2020
Cyfarfu’r Cynulliad am 13:30 gyda’r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair.
Cwestiynau i'r Prif Weinidog yw'r eitem gyntaf, felly, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Angela Burns.
1. A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu cynlluniau Llywodraeth Cymru i leihau nifer y bobl sy'n smygu yng Nghymru? OAQ55018
2. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ddatganoli trethi ymhellach, yn unol ag argymhelliad Comisiwn Silk? OAQ54983
Cwestiynau nawr gan arweinwyr y pleidiau. Arweinydd Plaid Cymru, Adam Price.
3. A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu cynlluniau Llywodraeth Cymru i gefnogi pobl ag awtistiaeth yng Ngorllewin De Cymru? OAQ55009
4. A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu cynlluniau Llywodraeth Cymru ar gyfer tyfu'r economi ymwelwyr yn Islwyn? OAQ55020
5. A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gamau gweithredu Llywodraeth Cymru i hyrwyddo cynhwysiant ariannol yng Nghymru? OAQ55014
6. A wnaiff y Prif Weinidog roi diweddariad am gyfarfod diweddaraf Tasglu Ford Pen-y-bont ar Ogwr? OAQ54985
Yr eitem nesaf, felly, yw'r cwestiynau i'r Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Mohammad Asghar.
1. A wnaiff y Dirprwy Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am fesurau i fynd i'r afael â throseddau casineb yng Nghymru? OAQ54993
2. Pa strategaethau sydd gan Lywodraeth Cymru i wneud y mwyaf o fanteision byrddau gwasanaethau cyhoeddus fel y'u sefydlwyd gan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015? OAQ55016
3. Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i fynd i'r afael â gwrth-semitiaeth? OAQ55000
4. Sut mae Llywodraeth Cymru am sicrhau fod hawliau dynol cyfredol yn cael eu gwarchod pan fydd y DU yn gadael yr Undeb Ewropeaidd? OAQ55008
Eitem 2 ar yr agenda yw'r datganiad a chyhoeddiad busnes. A galwaf ar y Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd, Rebecca Evans.
Yr eitem nesaf ar yr agenda yw cynigion i ethol Aelodau i'r pwyllgorau, ac yn unol â Rheolau Sefydlog 12.24 a 12.40, rwy'n cynnig bod y cynigion i ethol Aelodau i bwyllgorau yn cael eu...
Eitem 3 ar yr agenda yw datganiad gan y Gweinidog Addysg ar fframwaith cwricwlwm Cymru. Rwy'n galw ar y Gweinidog Addysg, Kirsty Williams.
Eitem 4 ar yr agenda y prynhawn yma yw datganiad gan Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol: Adroddiad Blynyddol 2018-19 ar Cymraeg 2050. Galwaf ar Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau...
Felly, rŷn ni'n cyrraedd yr eitem nesaf, sef y datganiad gan y Dirprwy Weinidog ar Ddiwrnod Cofio'r Holocost. Rwy'n galw ar y Dirprwy Weinidog i wneud ei datganiad—Jane Hutt.
Yr eitem nesaf, felly, yw'r datganiad gan y Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol ar gefnogi canol ein trefi. Galwaf ar y Dirprwy Weinidog i wneud ei datganiad—Hannah Blythyn.
Eitem 7 ar yr agenda y prynhawn yma yw Rheoliadau Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cyfraddau Treth) (Cymru) (Diwygio) 2020. Galwaf ar y Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd i gynnig y cynnig. Rebecca Evans.
Symudwn ni nawr at eitem 8 ar yr agenda y prynhawn yma, sef dadl ar Gyfnod 4 Bil Plant (Diddymu Amddiffyniad Cosb Resymol) (Cymru). Galwaf ar y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol...
Felly, symudwn at y bleidlais ar Gyfnod 4 o Fil Plant (Diddymu Amddiffyniad Cosb Resymol) (Cymru) a galwaf am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Julie Morgan. Agorwch y bleidlais. Caewch y...
Pa amodau mae Llywodraeth Cymru yn eu gosod ar gyllid sy’n cael ei ddarparu ganddi ar gyfer busnesau er mwyn gwarchod hawliau gweithwyr?
Senedd Cymru (Saesneg: Welsh Parliament) neu'r Senedd yw'r corff datganoledig sy'n cael ei ethol yn ddemocrataidd i drafod polisïau ac sy'n cymeradwyo deddfwriaeth sy'n ymwneud â Chymru. Rhan o'i waith yw dwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif. Rhwng mis Mai 1999 a mis Mai 2020, enw'r sefydliad oedd Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Saesneg: National Assembly for Wales). – Wicipedia