Part of the debate – Senedd Cymru am 6:46 pm ar 28 Ionawr 2020.
Gwnaf. Yn y pen draw, eich etholwyr chi, ein teuluoedd ni a'r pleidleiswyr fydd yn barnu hynny.
Rhoddaf addewid i gyhoedd Cymru heddiw: Byddaf i a fy nghyd-Aelodau yn monitro'r sefyllfa hon yn fanwl yn ystod y blynyddoedd i ddod, ac os na fydd y Bil hwn yn gweithio, os bydd hyn yn rhoi rhieni sy'n parchu'r gyfraith o dan anfantais, os bydd hyn yn rhoi pwysau di-ben-draw ar wasanaethau cymdeithasol, ac os yw hyn yn golygu y bydd mwy o blant mewn gofal, byddwn ni'n gwrando ar bobl Cymru, a byddaf i'n bersonol—