8. Dadl: Cyfnod 4 y Bil Plant (Diddymu Amddiffyniad Cosb Resymol) (Cymru)

Part of the debate – Senedd Cymru am 6:47 pm ar 28 Ionawr 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Helen Mary Jones Helen Mary Jones Plaid Cymru 6:47, 28 Ionawr 2020

(Cyfieithwyd)

Codaf i i gefnogi'r ddeddfwriaeth hon heddiw gyda chalon hapus, ac rwy'n credu bod gwaith yr ymgyrchwyr, y mae rhai ohonyn nhw, fel y dywedodd y Dirprwy Weinidog, yma, wedi talu ar ei ganfed o'r diwedd. Rwy'n credu i'r rhai ohonon ni sydd wedi bod yn brwydro'r frwydr hon am amser hir iawn, bydd hwn yn ddiwrnod hapus i ni, yn ddiwrnod hapus i deuluoedd Cymru, ac yn bwysicach fyth yn ddiwrnod hapus i blant Cymru.

Nid wyf i'n dymuno cadw'r Siambr hon am gyfnod hir, Dirprwy Lywydd, ond rwy'n teimlo bod angen i mi ymateb i rai o'r pwyntiau y mae Janet Finch-Saunders wedi eu gwneud. Yn fy marn i, mae'r Dirprwy Weinidog a Llywodraeth Cymru wedi bod yn hyblyg iawn er mwyn ateb pryderon pobl. Mae rhai ohonom ni yma—[Torri ar draws.] Rwy'n ddigon bodlon derbyn ymyriad gan Janet Finch-Saunders, ond rwyf yn ei chael hi'n anodd iawn ymdrin â sylwadau sydd wedi'u gwneud oddi ar eich eistedd. Os ydych chi'n dymuno ymyrryd—