Part of the debate – Senedd Cymru am 2:56 pm ar 28 Ionawr 2020.
Byddwn i'n fwy na pharod i fynd ar drywydd eich cais gyda'r Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol. Ar drywydd arall, mae gennym ddiweddariad ar y grŵp rhyng-weinidogol ar dalu am ofal cymdeithasol ar yr agenda ar gyfer yr wythnos nesaf, sydd, rwy'n gwybod, yn rhan o'r broblem ehangach yr ydym yn ei hwynebu o ran sicrhau bod gennym wasanaeth cartrefi gofal cynaliadwy yma yng Nghymru ar gyfer y dyfodol. Ond o ran y mater penodol hwnnw yn yr adroddiad, ceisiaf fynd ar drywydd hynny gyda'r Dirprwy Weinidog ar eich rhan.FootnoteLink