Part of the debate – Senedd Cymru am 3:07 pm ar 28 Ionawr 2020.
O ran mater ehangach cynllunio'r gweithlu, unwaith eto byddaf i'n siarad â'm cydweithiwr, y Gweinidog iechyd, i'w wneud yn ymwybodol o'ch cais ar gyfer y datganiad. Ond, o ran eich pryder penodol ynghylch y feddygfa meddyg teulu sy'n gwasanaethu Parc Lansbury a'r cyffiniau, os gallech chi, unwaith eto, roi hynny mewn llythyr at y Gweinidog iechyd, gwn i y bydd yn gallu codi hynny'n uniongyrchol â'r Bwrdd iechyd ar eich rhan.