Part of the debate – Senedd Cymru am 6:21 pm ar 28 Ionawr 2020.
Diolch, Dirprwy Lywydd.
Gweinidog, un agwedd ar ganol ein trefi y credaf fod llawer o bobl yn ei gweld yn ddeniadol iawn yw'r cynnig unigryw hwnnw nad yw'n ddyblygiad o'r hyn a welwch chi mewn cynifer o ganol trefi eraill ledled y DU. Felly, yn hytrach na'r cwmnïau mawr, mae'r siopau a'r storfeydd a welwch chi ym mhobman a'r busnesau lleol unigryw, rwy'n credu, yn gaffaeliad mawr. Rwy'n gwybod, mewn llawer o ardaloedd, bod cyfoeth, mewn gwirionedd, o bobl leol, unigolion a busnesau bach, sy'n ymwneud â chelf a chrefft, cerddoriaeth a darparu cynnyrch bwyd lleol. Rwy'n credu mai'r hyn a fyddai'n wirioneddol werthfawr fyddai cael ymarferion mapio lle mae'r unigolion a'r busnesau bach hynny yn cael eu nodi, eu dwyn ynghyd, ac weithiau, lle caiff safleoedd eu nodi, oherwydd, er yn unigol, efallai na fyddant yn gallu fforddio rhenti a safle, os dônt at ei gilydd fel cydweithfa, neu fel grŵp, yna daw hynny yn ddichonadwy ac yn bosibl.
Ond mae'n golygu bod yn rhaid i rywun, Gweinidog, gymryd y cam cyntaf i wneud hynny, ac efallai y bydd yn digwydd mewn rhai rhannau o Gymru ond nid mewn rhannau eraill. Felly, o ran bod Llywodraeth Cymru yn dangos arweiniad ac yn mynd ati mewn modd strategol, tybed a oes unrhyw beth yn benodol y gallai Llywodraeth Cymru ei ystyried i sicrhau bod y math hwnnw o weithgarwch wedi'i strwythuro a'i ddatblygu ledled Cymru.
Ac, un peth arall, Gweinidog: rwy'n gwybod, yng Nghil-y-coed, er enghraifft, yn fy ardal i yn Nwyrain Casnewydd, mai un o'r anawsterau wrth fwrw ymlaen â pholisi yng nghanol y dref yw canfod pwy yw perchenogion preifat y siopau, ac yna gweithio gyda'r perchnogion. Yn aml iawn, ceir llawer o anhawster wrth ymwneud â hynny, a tybed unwaith eto, a oes unrhyw beth y gallai Llywodraeth Cymru ei wneud i ddarparu'r gefnogaeth angenrheidiol a helpu i ymdrin â'r materion hynny.