Part of the debate – Senedd Cymru am 5:54 pm ar 28 Ionawr 2020.
Os cymeraf y cwestiwn am y pecyn arian £90 miliwn ac amserlenni hwn yn gyntaf, wel, mae'n rhaid ei ddadelfennu, gan fod y £90 miliwn yn cwmpasu sawl elfen wahanol, a'r rhan fwyaf ohonynt yw'r gronfa buddsoddi adfywio wedi'i thargedu, estyniad tan 2022 o £57.6 miliwn, a fydd ar gael i awdurdodau lleol ganfod prosiectau mewn trefi blaenoriaeth. Mae hefyd yn cynnwys y gronfa seilwaith gwyrdd £5 miliwn, a £10 miliwn ychwanegol ar gyfer y benthyciadau ar gyfer canol trefi. Ond efallai y byddai'n well i mi ddarparu'r dadansoddiad hwnnw i Aelodau yn ysgrifenedig, er mwyn iddynt allu dadansoddi hynny ymhellach ac esbonio'r amserlenni ar gyfer hynny er mwyn i chi eu lledaenu yn eich etholaethau a'ch cymunedau hefyd.FootnoteLink
Byddai'r Aelod yn disgwyl imi ddweud hyn, ac mae'n gas gennyf eich siomi, ond fe wnaethoch chi ddweud mai dynwared yw'r math mwyaf diffuant o edmygedd. Gallaf eich sicrhau ei bod hi'n debygol bod y cyhoeddiad hwn gennym eisoes ar y gweill pan gawsom y ddadl honno ychydig wythnosau'n ôl. Ond rwy'n falch iawn pryd gallwch ddod o hyd i feysydd lle ceir consensws, oherwydd ein bod ni i gyd yn cytuno bod ein trefi mor bwysig i ni, ac mae'n bwysig eu cefnogi nhw hefyd. Nid wyf yn anghytuno mewn unrhyw ffordd—ac fe ddywedais yn fy natganiad—ei bod hi'n eithriadol o bwysig, wrth inni fwrw iddi gyda'r gwaith adfywio hwn, ac yn enwedig y pwyslais ar ganol trefi, fod cymunedau'n ymwneud â hynny. Oherwydd gallwch fuddsoddi arian mewn tref, ond er mwyn sicrhau ei bod yn gweithio yn y tymor hir, rhaid i hynny gael cefnogaeth rhanddeiliaid, pa un a ydynt yn fusnesau, pa un a ydynt yn aelodau o grwpiau cymunedol. Felly, rwy'n awyddus i edrych ar ffyrdd eraill y gallwn ni eu defnyddio i hwyluso hynny, yn y dyfodol, ac os oes gan unrhyw Aelodau yn y Siambr hon unrhyw awgrymiadau, byddwn yn fwy na pharod i wrando arnynt.
Un o'r pethau yr ydym yn ei wneud yn rhan o'r pecyn hwn yw ystyried sut y gallwn ni gyfathrebu mwy gyda chymunedau, i weithio gyda nhw, i siarad mewn gwirionedd am y gefnogaeth yr ydym yn sôn amdani a chael eu barn, a sefydlu trefn i bobl allu tynnu sylw at broblemau a chyflwyno awgrymiadau. Ac rwy'n awyddus i edrych ar sut y gallwn ni gynnwys cynghorau tref a chymuned yn fwy o lawer yn hynny hefyd, oherwydd, o'm profiad i, nhw yn aml yw'r bobl sydd ar flaen y gad yn y gymuned, yn gweld beth yw'r heriau ac yn chwilio am yr atebion hynny.
O ran cyhoeddiad Llywodraeth y DU ynghylch y £3.6 biliwn, nid oes dim o'r arian ychwanegol yr wyf wedi'i gyhoeddi'r wythnos hon yn deillio o symiau canlyniadol Fformiwla Barnett o gronfa trefi Llywodraeth y DU. Nid ydym ni wedi cael gwybod am unrhyw gyllid canlyniadol yn sgil hynny, ac efallai y gallwn annog yr Aelod efallai i holi ei gyd-Aelodau yn San Steffan ac efallai lobïo ar ran Cymru i sicrhau, os bydd unrhyw swm canlyniadol, yna y dylem ei gael.