7. Rheoliadau Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cyfraddau Treth) (Cymru) (Diwygio) 2020

Part of the debate – Senedd Cymru am 6:32 pm ar 28 Ionawr 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of David Lloyd David Lloyd Plaid Cymru 6:32, 28 Ionawr 2020

Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Ie, Rheoliadau Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cyfraddau Treth) (Cymru) (Diwygio) 2020. Gwnaethom ni osod ein hadroddiad mewn perthynas efo'r rheoliadau yma gerbron y Senedd ar 21 Ionawr. Cododd ein hadroddiad un pwynt o ragoriaeth bach, ond pwysig, o dan Reol Sefydlog 21.3(i).

Bydd y rheoliadau yn diwygio'r gyfradd safonol, y gyfradd is a’r gyfradd gwarediadau anawdurdodedig ar gyfer treth gwarediadau tirlenwi a fydd yn berthnasol i warediadau trethadwy a wneir ar 1 Ebrill 2020 neu wedi hynny yng Nghymru. Gobeithio eich bod chi i gyd yn dilyn. [Chwerthin.]

Yn unol ag adran 25 o Ddeddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 2016, rhaid i Awdurdod Cyllid Cymru dalu'r trethi a gesglir i gronfa gyfunol Cymru. Fel offeryn cadarnhaol dros dro, neu offeryn cadarnhaol a wnaed, rhoddwyd y rheoliadau ar waith yn gyfreithiol ar 6 Ionawr 2020, ond rhaid i'r Cynulliad eu cymeradwyo er mwyn i'r rheoliadau barhau i gael effaith. Diolch yn fawr.