Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:40 pm ar 29 Ionawr 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Andrew RT Davies Andrew RT Davies Conservative 1:40, 29 Ionawr 2020

(Cyfieithwyd)

Diolch, Lywydd. Weinidog, rydych chi a minnau wedi cael llawer o drafodaethau yn y Siambr hon ynglŷn â pharthau perygl nitradau, ac yn amlwg, y rheoliadau amgylcheddol rydych yn awyddus i'w cyflwyno i reoli llygredd amaethyddol, fel rydych chi'n ei weld. A allwch roi'r wybodaeth ddiweddaraf i ni am yr hyn a ddywedoch chi wrthym ym mis Rhagfyr, pan gawsoch saib yn y broses ac fe fuoch yn ailfeddwl ac yn ail-ymgysylltu â'r sector i weld sut olwg fyddai ar y rheoliadau yn y pen draw?