Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:45 pm ar 29 Ionawr 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Llyr Gruffydd Llyr Gruffydd Plaid Cymru 1:45, 29 Ionawr 2020

(Cyfieithwyd)

Rydych newydd ddweud wrthym y bu 157 o achosion yn 2019. Ydy, mae 157 achos o lygredd yn 157 achos yn ormod. Wrth gwrs, nid oes unrhyw sôn am y 30,000 achos o lygredd carthion yn 2018. Felly, credaf fod angen ychydig o bersbectif arnom wrth drafod y materion hyn.

Nawr, dywedasoch eich bod yn awyddus i weithio ar y cyd. Buaswn yn cymeradwyo hynny. Efallai yr hoffech weithio gyda Cyfoeth Naturiol Cymru, a ddywedodd wrthym nad yw 92 y cant o dir amaethyddol Cymru mewn perygl o achosi llygredd nitradau, a'u cyngor yw ein bod yn cynyddu'r 2.3 y cant o Gymru sy'n barthau perygl nitradau dynodedig ar hyn o bryd i 8 y cant.

Nawr, dau opsiwn yn unig a ystyriwyd yn eich asesiad effaith rheoleiddiol, neu'r asesiad effaith rheoleiddiol drafft: un oedd yr opsiwn 'gwneud dim byd', nad oes unrhyw un, hyd yn oed undebau'r ffermwyr, o'i blaid; a'r llall oedd defnyddio mesurau i fynd i'r afael â llygredd amaethyddol ledled Cymru gyfan. Felly, pam fod eich asesiad effaith rheoleiddiol wedi canolbwyntio ar y ddau eithaf yn unig, yn enwedig gan nad oedd un ohonynt erioed yn opsiwn realistig yn y lle cyntaf?