Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:33 pm ar 29 Ionawr 2020.
Rwy'n siŵr, Weinidog, y byddech yn cytuno â mi mai un elfen allweddol o drechu tlodi tanwydd yw sicrhau bod pobl yn gallu cael y cyngor cywir i newid defnyddwyr, o bosibl—rhywbeth y mae pobl hŷn, yn enwedig, yn ei chael hi'n anodd ei wneud—a hefyd i weld pa gynlluniau grant, pa gymorth a allai fod ar gael. Fe fyddwch yn ymwybodol y bydd Llywodraeth Cymru, yn y flwyddyn ariannol newydd, yn gwneud newidiadau eithaf sylweddol i'r gwasanaethau cynghori, strwythurau'r gwasanaethau cynghori y maent yn eu hariannu, a tybed a fyddech cystal â siarad â’r Gweinidogion perthnasol ynglŷn â’r newidiadau arfaethedig hynny er mwyn sicrhau bod pobl, yn enwedig y rheini yn ein cymunedau tlotaf, ac yn enwedig dinasyddion oedrannus, yn gallu cael mynediad at gyngor amserol, a chyngor yn eu cymunedau eu hunain, ac wrth gwrs, lle bo hynny'n briodol, drwy gyfrwng y Gymraeg.