Rheoli Adnoddau Naturiol mewn Trefi a Dinasoedd

Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:38 pm ar 29 Ionawr 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of David Melding David Melding Conservative 1:38, 29 Ionawr 2020

(Cyfieithwyd)

Weinidog, yn ein strategaeth adnewyddu trefol, 'Dinasoedd Byw', gwnaeth y Ceidwadwyr Cymreig addewid i sicrhau bod o leiaf 20 y cant o frigdwf trefol yng Nghymru erbyn 2030. Fe welwch fod y mudiad trefi a dinasoedd gwyrdd bellach yn mynd o nerth i nerth ledled y byd, a gallem fod yn rhan o hynny hefyd mewn gwirionedd, ac yn ei arwain. Rwyf am weld y dydd pan fydd rhai o'r priffyrdd mwyaf drwy ein dinasoedd ar hyn o bryd yn cael eu gwyrddu ar gyfer beicwyr a cherddwyr. Ac ar hyn o bryd, mae taer angen inni ddechrau meddwl mewn ffordd wahanol.