Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:39 pm ar 29 Ionawr 2020.
Rwyf wedi bod yn cael trafodaethau gyda Hannah Blythyn a Ken Skates ynghylch y mater hwn. Credaf eich bod yn llygad eich lle; gallwn arwain yn hyn o beth. Rwyf ar fin lansio—ym mis Ebrill mae'n debyg—y cynllun twf amgylcheddol, a oedd yn un o ymrwymiadau maniffesto'r Prif Weinidog. Ac yn sicr, byddwn yn nodi cyllid ar gyfer yr union fathau hynny o bolisïau, lle gall pobl gymryd rhan wrth edrych arno o garreg eu drws. Felly yn sicr, credaf y bydd hyn yn ein helpu i symud i'r cyfeiriad cywir.