Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 2:01 pm ar 29 Ionawr 2020.
Yn sicr mae hwnnw'n rhywbeth y mae'n rhaid inni edrych arno oherwydd mae'n amlwg iawn, ar ôl yr un cyfarfod hwnnw a gafodd y prif swyddog milfeddygol gydag awdurdodau lleol—. Roeddwn yn falch iawn fod 21 o'r 22 awdurdod lleol wedi anfon cynrychiolydd i'r cyfarfod hwnnw. Felly, rwy'n credu ei fod yn dangos bod consensws ar draws pob lefel o Lywodraeth yn y maes hwn. Yn amlwg, a chyfeiriais at hyn yn fy ateb i Janet Finch-Saunders, bydd cyllid yn destun pryder i lawer ohonynt. Nid oes gennyf bot diderfyn o arian, ond yn dibynnu ar yr hyn a wnawn wrth edrych ar y rheoliadau a'r rhwystrau, a ph’un a ydym yn ailagor y rheoliadau a'r ddeddfwriaeth y bydd yn rhaid i ni ei chyflwyno, rwy'n derbyn y bydd angen cyllid pellach yn ddi-os. Felly, ni allaf roi ymrwymiad i chi y byddaf yn ei roi na faint y byddaf yn ei roi ond yn sicr, rwy'n cydnabod ei fod yn fater sy'n codi.