Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 2:21 pm ar 29 Ionawr 2020.
Rwy'n cydnabod y gwasanaethau gwerthfawr y mae swyddfeydd post lleol yn eu darparu i'r cymunedau y maent yn eu gwasanaethu ledled Cymru. Mae Llywodraeth Cymru yn cysylltu'n rheolaidd â Swyddfa'r Post Cyf er mwyn sicrhau ein bod yn ymwybodol o unrhyw faterion sy'n effeithio ar gymunedau yng Nghymru a'n bod yn gallu dwyn unrhyw broblemau i'w sylw.