Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 2:40 pm ar 29 Ionawr 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Delyth Jewell Delyth Jewell Plaid Cymru 2:40, 29 Ionawr 2020

(Cyfieithwyd)

Diolch i chi am hynny, Weinidog. Mae'n ymddangos i mi mai craidd y broblem gyda'r term 'fforddiadwy' yw bod ei ddiffiniad mor gymharol. Felly, gwerthwyd 78 y cant, sy'n syfrdanol, o gartrefi, sef 5,564 a werthwyd drwy Cymorth i Brynu, am bris o dros £150,000. Cafodd dros 1,000 o gartrefi rydych yn eu cyfrif yn yr ystadegau fel rhai fforddiadwy eu gwerthu am dros £250,000. Nid wyf yn gallu gweld sut y gall unrhyw berson rhesymol gyfrif y cartrefi hyn fel rhai fforddiadwy. Onid yw hynny'n ystumio ystadegau ar raddfa enfawr?