Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 2:42 pm ar 29 Ionawr 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Delyth Jewell Delyth Jewell Plaid Cymru 2:42, 29 Ionawr 2020

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr, Weinidog. Rwy'n croesawu'r cywair a ddefnyddiwch wrth siarad â ni. Rwy'n falch eich bod yn cytuno â byrdwn cyffredinol yr hyn rydym yn ei ddweud yma. Felly, er mwyn ei gofnodi felly, pe baem yn bwrw golwg fwy rhesymol ar gyflawniad y Llywodraeth yn darparu tai fforddiadwy yn ôl y diffiniad yn yr ystyr ehangach o'r hyn y dylai ei olygu, a chredaf eich bod yn cytuno â ni ar hynny, byddai angen inni gael gwared ar y cartrefi a oedd y tu hwnt i gyrraedd cynifer o bobl, a thynnu'r 5,500 o gartrefi anfforddiadwy allan, a byddai hynny, mewn gwirionedd, yn golygu bod y Llywodraeth wedi darparu 7,579 ac felly rydych ar y trywydd cywir i fethu cyrraedd y targed hwnnw. Felly, buaswn yn croesawu eich—