Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 2:51 pm ar 29 Ionawr 2020.
Rwy'n cydnabod y pryderon y tu ôl i'r cwestiwn hwn, ond mae'r ffiniau rhwng prif gartref, ail gartrefi, tai amlfeddiannaeth ac unrhyw endid busnes wedi bod yn niwlog ers dyfodiad Airbnb a chwmnïau llety cyfradd ddyddiol tebyg. Os ydych yn cefnogi egwyddor o atal yr hyn y mae Plaid Cymru yn ei ystyried yn ail gartref—nad yw ond wedi'i feddiannu o bryd i'w gilydd gan ymwelwyr nad ydynt yn byw yno yn barhaol—rhag cael ei gofrestru fel busnes, sut y gallech ddisgwyl casglu unrhyw dreth dwristiaeth ganddynt? Rwy'n credu bod hwnnw'n rheswm gwirioneddol dda dros beidio â hyd yn oed ystyried y dreth honno ymhellach.