Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 2:44 pm ar 29 Ionawr 2020.
Na, diolch i chi am gytuno â mi ar hynny. Arhosaf i glywed eich ateb yn llawnach. Ond fel roeddech yn sôn am dai cymdeithasol, rwyf innau hefyd yn credu mai dyna lle mae gwir angen inni ganolbwyntio ar gyflawni. Unwaith eto, rwy'n croesawu'r hyn rydych wedi bod yn ei ddweud am hynny. Mae'r ffigurau'n dangos, ers 2016, mai dim ond 4,397 o gartrefi sydd wedi'u cwblhau ar gyfer y sector tai cymdeithasol, ac mae hynny tua hanner y gyfradd rydym ei hangen i gyrraedd y targed yn ôl y rhan fwyaf o amcangyfrifon. Felly, o ystyried hyn, a'r canfyddiadau nad yw tua hanner y cartrefi fforddiadwy a addawyd drwy rwymedigaethau cynllunio dros y degawd diwethaf wedi'u darparu, oherwydd bod datblygwyr yn manteisio ar ein system gynllunio ddiffygiol, pa bryd y credwch y gwelwn y newidiadau radical a grybwyllwyd gennych i'r dref gynllunio?