Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 3:06 pm ar 29 Ionawr 2020.
Ddirprwy Weinidog, yn gynharach yr wythnos hon, cyfarfûm â disgyblion o Ysgol yr Eglwys yng Nghymru Aeddan Sant yng Nghas-wis ger Hwlffordd yn fy etholaeth, sydd wedi cychwyn deiseb i wahardd poteli llaeth plastig untro mewn ysgolion ledled Cymru. Rwy'n siŵr y byddwch yn cytuno â mi ei bod yn wych gweld plant a phobl ifanc yn ymgysylltu â'n proses ddeisebau ac yn cymryd camau ar rai o'n problemau mwyaf. O dan yr amgylchiadau, pa gefnogaeth y gall Llywodraeth Cymru ei chynnig i ddisgyblion Ysgol yr Eglwys yng Nghymru Aeddan Sant, a pha drafodaethau penodol a gawsoch gydag awdurdodau lleol ynghylch gwahardd poteli llaeth plastig untro mewn ysgolion ledled Cymru?