Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 2:54 pm ar 29 Ionawr 2020.
Mae hwnnw'n ddadansoddiad rhesymol. Ein dadansoddiad ni o'r holl waith rydym wedi'i wneud ar hyn yw bod hyd y cyfnod gosod ar y lefel gywir, oherwydd mae economïau twristiaeth yn bwysig iawn ledled Cymru mewn lleoedd bach iawn. Felly, mater o sicrhau cydbwysedd yw hyn rhwng caniatáu i eiddo gael ei ddefnyddio yn ein diwydiant twristiaeth hollbwysig, a sicrhau nad yw pobl yn manteisio ar ryw fwlch yn y gyfraith. Ond nid yw'n fwlch os oes rhaid i chi ddangos tystiolaeth ohono yn y ffordd iawn. Felly, os oes gennych dystiolaeth nad yw pobl yn gosod eu llety yn y ffordd gywir, gadewch inni ei gweld. Rwyf wedi dweud dro ar ôl tro yn y Siambr, ac rwyf am ei ddweud unwaith eto: rwy'n fwy na pharod i edrych ar unrhyw dystiolaeth o gwbl fod hynny'n digwydd, ond ar hyn o bryd nid oes gennyf dystiolaeth.