4. Datganiadau 90 Eiliad

– Senedd Cymru am 3:46 pm ar 29 Ionawr 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 3:46, 29 Ionawr 2020

Yr eitem nesaf, felly, yw'r datganiadau 90 eiliad, ac mae'r datganiad cyntaf heddiw gan Lynne Neagle. 

Photo of Lynne Neagle Lynne Neagle Labour

(Cyfieithwyd)

Diolch, Lywydd. Trefnir y gwobrau Ysbrydoli! tiwtoriaid gan Dysgu a Gwaith Cymru ac maent yn dathlu gwaith tiwtoriaid a mentoriaid ymroddedig sydd wedi annog pobl o bob cefndir ac oedran i gyflawni eu potensial. Y tu ôl i bob oedolyn sy'n ddysgwr llwyddiannus, ceir tiwtor neu fentor sy'n ysbrydoli.

Mae Daniel Dyboski-Bryant o Grŵp Llandrillo Menai wedi bod yn addysgu ffoaduriaid ac ymfudwyr, gan arloesi gyda'r defnydd o rith-wirionedd. Mae Mary Murray wedi bod ar genhadaeth i ysbrydoli oedolion yn Nhorfaen i ddysgu mathemateg, mae ei dosbarthiadau bob amser yn llawn ac mae nifer ohonynt wedi pasio TGAU. Mae Laura Wheeler yng Nghaerdydd yn darparu addysg a chefnogaeth i bobl ifanc yn rhaglen Dysgu i Fyw Llamau, ac mae wedi creu gofod lle maent yn teimlo'n ddiogel ac yn gallu mynd i'r afael â'r materion sy'n effeithio ar eu bywydau. Dysgodd Philippa Gibson Gymraeg fel oedolyn, ac mae wedi datblygu ei sgiliau i fod yn diwtor Cymraeg talentog yn Aberteifi a de Ceredigion. Disgrifiwyd Rameh O'Sullivan o Brifysgol Metropolitan Caerdydd fel rhywun aruthrol gyda llawer o'i myfyrwyr yn ffoaduriaid a cheiswyr lloches sy'n dioddef trawma, ac mae Rameh yn rhoi gobaith iddynt symud ymlaen. Ac mae Suzanne McCabe yn darparu hyfforddiant a chymorth i oedolion ag awtistiaeth yn ne Cymru, ac i fusnesau i gefnogi gweithwyr a chwsmeriaid sydd ag awtistiaeth.

Dyma ein cyfle i longyfarch pob un o'r rhai a enillodd wobrau a thiwtoriaid ledled Cymru sy'n parhau i newid bywydau. Diolch.

Photo of Leanne Wood Leanne Wood Plaid Cymru 3:48, 29 Ionawr 2020

(Cyfieithwyd)

Llongyfarchiadau mawr i Dreorci ar ennill teitl y stryd fawr orau yn y DU. Mae'n wych fod y gwaith caled yn y dref hon yn y Rhondda wedi cael ei gydnabod, ac rwy'n falch o allu ei gydnabod yma yn y Senedd hefyd.

Daeth masnachwyr lleol at ei gilydd gyda chynghorwyr lleol a ffigurau cymunedol eraill i wneud i bethau ddigwydd drostynt eu hunain. Mae'r siambr fasnach leol yn ffynnu mewn tref lle mae 80 y cant o'r busnesau yn annibynnol. Mae pobl Treorci wedi rhoi eu ffydd yn yr hen ddihareb Gymraeg, Mewn undod mae nerth, mae canol y dref yn cael cefnogaeth dda iawn. Mae pobl o bob cwr o'r Rhondda a'r tu hwnt yn defnyddio canol y dref ar gyfer siopa a hamdden, gan alluogi Treorci i ddod yn ganolfan fasnach ffyniannus.

Mae absenoldeb tra-arglwyddiaeth y cadwyni mawr wedi cyfrannu'n fawr at lwyddiant y dref. Mae'n anodd gwadu'r effaith andwyol y gall siopau cadwyn mawr ei chael ar fusnesau bach a chanol trefi. Mae Treorci wedi dangos beth sy'n bosibl i ganol trefi sy'n wynebu anawsterau ledled Cymru. Rwy'n mawr obeithio y gall trefi eraill yn y Rhondda a thu hwnt ddysgu'r gwersi hynny a ffynnu yn union fel y mae Treorci yn ei wneud. Diolch yn fawr.

Photo of Siân Gwenllian Siân Gwenllian Plaid Cymru 3:49, 29 Ionawr 2020

Roedd fy hen daid i yn chwarelwr yn y Cilgwyn yn Nyffryn Nantlle. Felly, dwi'n falch iawn o gefnogi'r cais i sicrhau statws safle treftadaeth y byd UNESCO ar gyfer ardaloedd llechi gogledd-orllewin Cymru. Wrth dyfu i fyny yn y Felinheli yn y 1960au, mi o'n i'n ymwybodol iawn o ddirywiad diwydiant oedd, ar un adeg, yn anfon llechi i bob rhan o'r byd. Roedd yr hen gei yn y pentref yn flêr iawn, ac erbyn hyn dim ond yr hen simdde sydd ar ôl yng nghanol stad o dai.

Ond mae hi yn wahanol iawn yn y dyffrynnoedd llechi yn Arfon, ychydig filltiroedd yn unig i mewn i'r tir o'r Fenai. Yma, mae un o dirluniau ôl-ddiwydiannol mwyaf dramatig y byd, a'r wythnos diwethaf fe gyflwynwyd yr enwebiad terfynol i UNESCO. Y nod ydy cydnabod tirlun chwareli gogledd-orllewin Cymru fel safle treftadaeth y byd. A petai'n cael ei dderbyn, byddai tirlun nodedig Llanberis, Bethesda, Dyffryn Nantlle a Blaenau Ffestiniog yn rhannu'r un dynodiad â'r Taj Mahal a phyramidiau'r Aifft.

Mae llawer iawn o waith wedi cael ei wneud eisoes gan y partneriaid. Yn ogystal â chydnabod ein diwylliant, treftadaeth ac iaith unigryw, byddai cael y statws yn agor y drws ar gyfer twristiaeth cynaliadwy a chyfleon gwaith o ansawdd uchel ar draws Gwynedd, gan ddod â miliynau o bunnoedd i'r economi leol. Pob lwc wrth i bawb symud i'r cam nesaf o'r prosiect.