3. Cwestiynau Amserol – Senedd Cymru ar 29 Ionawr 2020.
2. Sut y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu ateb y galw am wasanaethau damweiniau ac achosion brys yn y Rhondda a thu hwnt os caiff gwasanaethau 24 awr yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg eu gostwng? 386
Diolch am eich cwestiwn. Fel y gwyddoch, mae'r bwrdd iechyd yn gyfrifol am ddarparu gofal iechyd diogel a chynaliadwy ar gyfer ei boblogaeth leol, gan gynnwys mynediad amserol at wasanaethau gofal brys i'r rhai sydd eu hangen.
Yr wythnos diwethaf, cawsom y newyddion fod y rhaglen de Cymru ofnadwy yn cael ei hatgyfodi ar ôl chwe blynedd, o ran cyfluniad adrannau damweiniau ac achosion brys. Golyga hyn yr argymhellir cael gwared ar wasanaethau dan arweiniad meddygon ymgynghorol o Ysbyty Brenhinol Morgannwg yn Llantrisant. Yn ystod yr un sesiwn friffio, dywedwyd wrthym mai Ysbyty Brenhinol Morgannwg sydd â'r adran damweiniau ac achosion brys brysuraf o'r tri ysbyty cyffredinol dosbarth ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg.
Bydd yr adran damweiniau ac achosion brys yn colli ei meddyg ymgynghorol olaf ddiwedd mis Mawrth; ar ôl hynny, bydd yn gwbl ddibynnol ar feddygon ymgynghorol locwm. Mewn cyferbyniad, mae gan Ysbyty Tywysoges Cymru ym Mhen-y-bont ar Ogwr wyth meddyg ymgynghorol yn yr adran damweiniau ac achosion brys, ac mae gan Ysbyty'r Tywysog Siarl ym Merthyr Tudful yr hyn sy'n gyfwerth â phedwar meddyg ymgynghorol a hanner yn yr adran damweiniau ac achosion brys. Mae llawer o bobl yn cwestiynu sut a pham y caniatawyd i'r gwahaniaeth hwn ddatblygu. Mae pobl hefyd yn cwestiynu a fyddant yn gallu cyrraedd ysbyty mewn pryd mewn argyfwng. Rwyf wedi clywed gan bobl yr wythnos hon sy'n dweud y byddent wedi marw, neu'n waeth byth—y byddai eu plentyn wedi marw—pe baent wedi cael eu gorfodi i deithio ymhellach nag Ysbyty Brenhinol Morgannwg.
Canfu arolwg ychydig flynyddoedd yn ôl mai llai na hanner y bobl a holwyd yng Nghymru a oedd yn gwybod bod iechyd yn faes sydd wedi'i ddatganoli. Felly, nid oes llawer o bobl yn gwybod mai Llafur sy'n gyfrifol am y GIG yng Nghymru, ac wedi bod yn gyfrifol amdano ers dechrau datganoli ym 1999. Gan fod gennych gyfrifoldeb am iechyd yng Nghymru, a'ch bod yn aelod o'r blaid wleidyddol sydd wedi bod yn gyfrifol am iechyd yng Nghymru ers degawdau, beth allwch chi ei ddweud wrth y bobl yn y Rhondda sy'n credu y bydd y penderfyniad hwn yn costio mewn bywydau? A wnewch chi ysgwyddo'r cyfrifoldeb amdano, a sut rydych yn cyfiawnhau gwneud i bobl deithio ymhellach mewn sefyllfa lle mae bywyd yn y fantol?
Wel, credaf ei bod yn bwysig nodi mai diogelwch y gwasanaeth yw'r flaenoriaeth gyntaf i'r bobl sy'n gweithio yn y gwasanaeth, yn ei weithredu a'i ddarparu ac yn gyfrifol amdano—o fi i'r prif weithredwr, i'r cyfarwyddwr meddygol, i'r staff rheng flaen. Ac mae’r papur y bydd y bwrdd yn ei ystyried yfory, yn enw’r cyfarwyddwr meddygol, yn nodi’r risgiau sy’n bodoli, ac mai’r risg, mewn gwirionedd, yw bod llawer mwy o risg o ran diogelwch ac ansawdd y gwasanaeth wrth barhau i geisio cynnal gwasanaeth heb unrhyw feddygon ymgynghorol parhaol ar waith.
Ac o ran nifer y meddygon ymgynghorol a ble maent wedi'u lleoli ar hyn o bryd—mae pobl yn gwneud dewisiadau ynglŷn â ble maent yn gweithio, ac ni allwn orfodi pobl i symud o un adran i'r llall. Nid oes a wnelo hyn â'r bwrdd iechyd yn gwrthod ceisio recriwtio i Ysbyty Brenhinol Morgannwg. Nid oes a wnelo hyn â bod digon o feddygon yn barod i weithio. Mewn gwirionedd, mae'r her yn ymwneud â nifer y staff sydd gennym, a gall meddygon ymgynghorol adrannau achosion brys symud i swyddi mewn gwahanol rannau o Gymru a thu hwnt, ac fel y gwelsom mewn rhannau eraill o'r DU, mae pobl yn gwneud y dewisiadau gweithredol hynny. Yr her yw: a ydym yn barod i gynnal ein gwasanaeth iechyd ar y sail mai diogelwch ac ansawdd yw'r prif ystyriaethau, neu a ydym yn gosod premiwm gwahanol ar leoliad gwasanaethau?
Ac o ran yr enghreifftiau a roesoch lle byddai pobl yn dweud y gallent golli eu bywydau—dyna'r math o iaith y mae pobl yn ei defnyddio pan fydd pobl yn pryderu, ac mae hynny'n gwbl ddealladwy, ond ni chredaf fod hynny o reidrwydd yn arwain at ddadl resymegol, oherwydd pe bai rhywun mewn perygl gwirioneddol o golli eu bywyd, dylent fod o dan amodau golau glas i fynd i'r man mwyaf priodol ar gyfer eu gofal, ni waeth pa mor agos neu bell yw hynny, boed hynny mewn hofrennydd neu ar y ffordd.
Ein her yw sut i gael patrwm rheolaidd o wasanaethau sy'n gynaliadwy, yn wirioneddol ddiogel ac a fydd yn para i'r dyfodol ac yn recriwtio staff i mewn iddo. Ac yn y pedwar opsiwn a gyhoeddwyd yn adroddiad y cyfarwyddwr meddygol gweithredol, nodir dau opsiwn y dywed y cyfarwyddwr meddygol nad ydynt yn ymarferol nac yn gynaliadwy. Mae'n nodi'r heriau a oedd yn bodoli pan gytunwyd ar raglen de Cymru—[Anghlywadwy.]—wedi gwaethygu, ac mae'n nodi dau opsiwn y maent yn argymell bod y bwrdd yn eu hystyried er mwyn ymgysylltu'n briodol â'r cyhoedd a rhanddeiliaid ehangach, gan gynnwys cynrychiolwyr etholedig. Dyna rwy'n ei ddisgwyl gan y bwrdd iechyd: eu bod o ddifrif ynglŷn â'u cyfrifoldebau, yn wynebu'r heriau sy'n cael effaith wirioneddol ar ddiogelwch cleifion heb eu hosgoi, yn ymgysylltu'n briodol â'r cyhoedd a rhanddeiliaid ehangach ynghylch beth y mae pob un o'r pethau hynny yn ei olygu, a beth y byddwch yn ei gael mewn gwirionedd o ran ble mae gwasanaethau wedi'u lleoli, a'r ansawdd y byddai pob un ohonom yn ei ddisgwyl i ni ein hunain a'n teuluoedd.
Rwy'n sylweddoli bod heriau ar draws y bwrdd iechyd ond o ran staffio yn arbennig. Ond yr hyn sy'n wirioneddol bwysig yma, yn amlwg, yw bod y penderfyniadau sydd wedi'u gwneud ar ddarpariaeth damweiniau ac achosion brys yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg yn seiliedig ar raglen de Cymru. Lleolir Ysbyty Brenhinol Morgannwg mewn ardal â dwysedd poblogaeth uchel, gyda phoblogaeth sy'n tyfu a galw cynyddol. Nawr, rwy'n cymryd mai'r bwrdd iechyd sydd â'r swyddogaeth o ddydd i ddydd o weithredu gwasanaethau iechyd yn ei ardal, ond yn amlwg, chi fel Gweinidog a'ch swyddogion ym Mharc Cathays sy'n gosod strategaeth a chyfeiriad y gwasanaeth iechyd yma yng Nghymru. Yn seiliedig ar raglen de Cymru, ni fyddai unrhyw feddyg ymgynghorol wedi mynd i Ysbyty Brenhinol Morgannwg ar y sail fod y gwasanaeth yn mynd i gael ei israddio.
Weinidog, a gaf fi ofyn i chi ymyrryd yn bersonol fel y Gweinidog sy'n gyfrifol am gyfeiriad strategol y gwasanaeth iechyd yma yng Nghymru, a mynnu bod y bwrdd iechyd yn ailwerthuso eu hargymhellion ac yn cadw darpariaeth damweiniau ac achosion brys 24 awr yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg, oherwydd mae pob dangosydd yn dynodi bod honno'n ardal lle ceir galw cynyddol am y gwasanaeth hwnnw, a byddai dileu gwasanaeth o'r fath yn drychinebus i'r ardal y mae'n ei gwasanaethu? Gallwch wneud hynny, Weinidog. Os dewiswch beidio, rwy'n parchu hynny, ond byddwch yn troi eich cefn ar y cymunedau sy'n byw yn yr ardal honno ac yn dibynnu ar Ysbyty Brenhinol Morgannwg. Ac mae'n bryd bellach i'r bwrdd iechyd yn yr ardal honno ailwerthuso'r opsiynau sydd ar gael iddo, ac yn arbennig y penderfyniadau a wnaeth ynghylch rhaglen de Cymru, y buaswn yn awgrymu eu bod wedi dyddio erbyn heddiw, gan iddynt gael eu gwneud chwe blynedd yn ôl.
Wel, diolch am y cwestiynau, ond y gwir yw, os ydych chi wedi darllen drwy'r papur gan y cyfarwyddwr meddygol gweithredol am yr heriau y maent yn eu hwynebu, mae'n nodi, os rhywbeth, fod y rhesymau a'r sail resymegol wrth wraidd y rhaglen wedi tyfu yn eu nifer yn hytrach na lleihau. Ac nid wyf yn derbyn bod pob dangosydd yn awgrymu y bydd newid ôl-troed gwasanaethau yn yr ysbyty hwn yn cael y canlyniadau enbyd a nodwyd gennych—ddim o bell ffordd. Mae'r cyfarwyddwr meddygol gweithredol yn nodi'r angen a'r sail resymegol ar gyfer mynd i'r afael â'r mater.
Nawr, nid ydym yn sôn am eich barn chi na fy marn i fel gwleidydd. Rydym yn sôn am y cyfarwyddwr meddygol gweithredol sydd â chyfrifoldeb uniongyrchol ar lawr gwlad, a'r gallu iddo ef a'r tîm cyfan o fewn y bwrdd iechyd hwnnw i wneud y peth iawn ac i wneud dewisiadau yn seiliedig ar y gwasanaeth cywir, ac i ddarparu'r ansawdd cywir a'r diogelwch ar gyfer y gwasanaeth hwnnw. Ac rwy'n credu ei bod hi'n gwbl anghywir i wleidyddion yma, yn fy sedd i neu unrhyw sedd arall geisio mynnu bod y bwrdd iechyd yn parhau i weithredu gwasanaeth, lle maent yn glir iawn y bydd diogelwch y gwasanaeth hwnnw'n cael ei beryglu os nad ydynt yn gwneud newidiadau.
Weinidog, yn ystod rhaglen de Cymru, bûm yn ymgyrchu gydag Aelodau Cynulliad eraill ac Aelodau Seneddol i gadw gwasanaeth damweiniau ac achosion brys yn llwyddiannus yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg. Felly, chwe blynedd yn ddiweddarach, rwyf unwaith eto'n rhannu'r pryder cyffredinol ynghylch yr argymhellion newydd hyn i ystyried nifer o opsiynau, gan gynnwys y posibilrwydd o israddio neu gael gwared ar wasanaethau damweiniau ac achosion brys.
Nawr, gallai fod yn angenrheidiol ac yn briodol i wneud addasiadau tymor byr i'r ddarpariaeth o wasanaethau iechyd er mwyn cadw cleifion yn ddiogel wrth gwrs, ond yn yr achos hwn, credaf ei bod yn hanfodol i Ysbyty Brenhinol Morgannwg barhau i gynnig gwasanaeth damweiniau ac achosion brys cadarn ymhell i'r dyfodol. Nawr, er ei bod yn bwysig nodi bod yr adolygiad hwn yn cael ei hyrwyddo gan glinigwyr, ac nad yw'n ymwneud ag arian, mae chwe blynedd bellach ers rhaglen de Cymru, sef y man cychwyn ar gyfer adolygiad y bwrdd iechyd, ac mae llawer wedi newid ers hynny. Erbyn hyn ceir nifer gymhleth o ffactorau, ac mae angen eu deall yn llawn, gan gynnwys yr her o recriwtio meddygon ymgynghorol, y galw cynyddol ar wasanaethau golau glas a'r cynnydd sylweddol yn y galw am wasanaethau damweiniau ac achosion brys, a'r cynnydd enfawr yn nifer y tai a'r twf yn y boblogaeth yn yr ardal gyfagos.
Felly, rwy'n mynd i ofyn eto i'r Gweinidog ymyrryd ar frys yn y mater hwn i ymrwymo i gefnogi adolygiad llawn o raglen de Cymru cyn ystyried unrhyw newidiadau i'r ddarpariaeth damweiniau ac achosion brys.
Rwy'n cydnabod y pwynt y mae Aelodau ar draws y pleidiau'n ei wneud, ac rwy'n ailadrodd mai'r her yma yw deall sut y mae gennym wasanaeth gwirioneddol ddiogel sydd ar gael i etholwyr ledled y wlad, a beth y mae hynny'n ei olygu o ran naill ai ceisio newid model gwasanaeth, lle mae pobl yn dweud yn rheolaidd eu bod yn pryderu am ddiogelwch newid y model hwnnw, ond i'r un graddau, yr her o geisio cynnal model gwasanaeth os na allwch ei staffio a'i weithredu'n ddiogel. Ac yn y newidiadau ers hynny, mae adroddiad y cyfarwyddwr meddygol gweithredol y bydd y bwrdd yn ei ystyried yfory yn nodi ystod o'r ffactorau y cyfeirioch chi atynt ynghylch y cyd-destun cyfnewidiol y darparwyd gofal iechyd o'i fewn, ynghylch y newidiadau yn y ffordd y mae'r bwrdd iechyd wedi darparu rhai gwasanaethau, ac yn y pedwar opsiwn a nodir yn y papur hwnnw i'r bwrdd eu hystyried.
Nawr, unwaith eto, nid fy lle i fel gwleidydd yn y sefyllfa hon yw ceisio newid y dystiolaeth weithredol a'r ddealltwriaeth o'r hyn sy'n digwydd, a rhaid iddo fod yn ymgysylltiad priodol â'r cyhoedd yn ehangach a rhanddeiliaid, gan gynnwys chi a chynrychiolwyr etholedig eraill, am y gwahanol ffactorau y byddwch am weld y bwrdd iechyd yn rhoi sylw iddynt. Mae hynny'n cynnwys y gallu i recriwtio a chadw staff yn unrhyw rai o'r modelau arfaethedig, gan gynnwys y gallu i geisio cadw hynny yn y model presennol—mae'r bwrdd iechyd eu hunain yn dweud nad ydynt yn meddwl y gallant wneud hynny—beth y mae hynny'n ei olygu i bobl, sut y mae pobl yn cael gofal, a pha ofal a fydd ar waith ac yn dal i fod ar gael ar safle Ysbyty Brenhinol Morgannwg. Mae'r rhain i gyd yn faterion rwy'n disgwyl i'r bwrdd iechyd eu nodi yn ei ymgynghoriad, a nodi'n eglur sut y mae'n bwriadu gwneud y dewisiadau hynny pan fydd yn rhaid iddo ddychwelyd, o gofio y bydd y meddyg ymgynghorol parhaol olaf yn gadael ei swydd ddiwedd mis Mawrth. Mae brys gwirioneddol i hyn, ac nid yw'n rhywbeth y gellid neu y dylid ei ohirio; rwy'n disgwyl i'r bwrdd iechyd wneud ei waith yn iawn, gyda'r cyhoedd a'i staff, a darparu ateb ar gyfer y dyfodol.
Weinidog, mae hwn yn fater sy'n peri pryder mawr i fy etholwyr. Mae'r rhai sy'n byw yng Nghilfynydd, Glyn-coch ac Ynys-y-bŵl yn dibynnu'n uniongyrchol ar y cyfleusterau damweiniau ac achosion brys yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg, tra bod gweddill fy etholwyr, sy'n dibynnu ar ddarpariaeth damweiniau ac achosion brys Ysbyty'r Tywysog Siarl, yn poeni'n briodol am y pwysau ychwanegol a allai fod ar gyfleusterau yno pe bai’r adran damweiniau ac achosion brys yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg yn cael ei chau neu ei hisraddio. Mewn cyfarfod o Aelodau'r Cynulliad, ASau ac arweinwyr cynghorau ddydd Gwener diwethaf, siaradodd y bwrdd iechyd yn onest iawn am y problemau y maent yn eu hwynebu gyda chynaliadwyedd gwasanaethau yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg, gyda'r adran damweiniau ac achosion brys yno’n cael ei chynnal, fel y dywedoch chi, gan un meddyg ymgynghorol parhaol a thri locwm, a bod un meddyg ymgynghorol bellach yn mynd i fod yn ymddeol yn gynt, gan adael y gwasanaeth mewn cyflwr a allai fod yn anghynaladwy.
Cawsom ein sicrhau gan y bwrdd iechyd iddynt fod yn rhan o broses recriwtio agored a pharhaus ers sawl blwyddyn, ond eu bod, er hynny, wedi methu recriwtio meddyg ymgynghorol arall. Pa gymorth y gallech chi fel Gweinidog iechyd ei roi i Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg i helpu i gryfhau eu hymgyrch recriwtio ac annog meddygon ymgynghorol i ymgymryd â'r swyddi gwag hyn yn yr ysbyty? Pa adnoddau y gellid eu darparu i Ysbyty'r Tywysog Siarl ym Merthyr, ac Ysbyty Tywysoges Cymru ym Mhen-y-bont ar Ogwr, i helpu i sicrhau bod eu hadrannau damweiniau ac achosion brys yn gallu ateb y galw ychwanegol a fyddai arnynt pe bai’r adran damweiniau ac achosion brys yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg yn cael ei chau neu ei hisraddio?
Ac yn olaf, rydym i gyd yn gwybod y gallai rhai pobl sy'n cyrraedd adrannau damweiniau ac achosion brys gael eu trin yn well mewn uned fân anafiadau, a all wneud cymaint mwy na thrin mân anafiadau—megis trin esgyrn sydd wedi torri, er enghraifft. Ond mae cau unedau mân anafiadau, neu leihau oriau fel y gwelsom yn digwydd yn rhai ohonynt, fel Ysbyty Cwm Cynon yn fy etholaeth i, yn gadael cleifion heb fawr o ddewis ond mynd i'r adran damweiniau ac achosion brys. Felly fel rhan o'r cynigion hyn ar gyfer Ysbyty Brenhinol Morgannwg, Weinidog, a wnewch chi ymrwymo i weithio gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg, i archwilio'r posibilrwydd o gryfhau unedau mân anafiadau mewn ysbytai cymunedol fel Ysbyty Cwm Cynon ac Ysbyty Cwm Rhondda, a thrwy hynny ddod â gwasanaethau iechyd yn agosach at y bobl a lleddfu pwysau ar adrannau damweiniau ac achosion brys?
Diolch am y cwestiynau hynny. Rwy'n credu bod her ynghlwm wrth y model gwasanaeth y mae'r bwrdd iechyd yn ei argymell ac y byddant yn mynd ati i’w ystyried gyda rhanddeiliaid. Oherwydd mae un o'r opsiynau posibl y maent yn ei nodi yn ymwneud â llai o wasanaeth gan feddygon ymgynghorol, ond cael darpariaeth mân anafiadau yn lle hynny. Ac mae’n her sy'n ymwneud â sicrhau bod y cyhoedd yn deall yr ystod o wasanaethau mân anafiadau sydd ar gael—yn fy ymweliad diweddar ag Ysbyty Castell-nedd Port Talbot gyda David Rees, gwelais wasanaeth rhagorol dan arweiniad nyrs, dan arweiniad nyrs ymgynghorol, ac ystod eang o weithgaredd y byddech, heb fod yn hir iawn yn ôl, wedi disgwyl iddo gael ei ddarparu mewn uned achosion brys dan arweiniad meddyg.
Felly mae yna her yn codi mewn perthynas â dealltwriaeth y cyhoedd, ond yn yr un modd ynglŷn â sut y mae'r gwasanaeth iechyd yn helpu pobl i gyrraedd y lle iawn. Ac os ydych chi yng nghefn ambiwlans, nid oes angen i chi boeni i ble rydych chi'n cael eich cludo am mai gwaith y gwasanaeth yw mynd â chi i'r lle iawn i gael y gofal sydd ei angen arnoch. Ac mae'n ymwneud wedyn â sut rydym yn helpu'r cyhoedd i wneud eu dewisiadau eu hunain, os ydynt yn mynd i gyrraedd safle ysbyty eu hunain. Ond yr ysgogiad ar gyfer hyn yw'r newid yn y staff, a beth y mae hynny'n ei olygu i'r gwasanaeth. Ac rwy'n dychwelyd eto—ym mhapur y cyfarwyddwr meddygol, mae'n tynnu sylw at y ffaith ei bod yn fwyfwy anghynaladwy, ac na ellir cynnal gwasanaethau diogel y tu hwnt i'r tymor byr uniongyrchol heb risgiau annerbyniol i ddiogelwch cleifion. Ac nid wyf yn credu y gall unrhyw wleidydd, mewn unrhyw blaid—yn y Llywodraeth neu'r tu allan iddi—anwybyddu'r rhybudd uniongyrchol a roddir gan y cyfarwyddwr meddygol sydd â goruchwyliaeth dros y ddarpariaeth feddygol trwy'r bwrdd iechyd. Felly, yr her yw sut y maent yn ystyried y pwyntiau a wnewch yn awr am y gwahanol gwestiynau, am y gwasanaethau a ddarperir, ble y'u darperir a sut y'u darperir, ac os bydd newid ar safle Ysbyty Brenhinol Morgannwg, beth y mae hynny'n ei olygu nid yn unig i'r ddau ysbyty yn yr un bwrdd iechyd ym Mhen-y-bont ar Ogwr a Merthyr, ond hefyd yr hyn y mae'n ei olygu o bosibl yn y llif i lawr i Gaerdydd hefyd.
Felly, mae yna her sy'n un resymol nad yw'n ymwneud â'r bwrdd iechyd yn unig, ac rwy'n disgwyl iddynt ei hegluro'n agored ac yn dryloyw. Ac rwy'n credu y bydd yr ymgysylltiad â staff, yn ogystal â'r cyhoedd, yn bwysig iawn o fewn hynny, oherwydd bydd gan staff safbwyntiau clir iawn am ddiogelwch a chynaliadwyedd eu gwasanaeth, ac mae hynny'n aml yn ddefnyddiol wrth ddylanwadu ar y ffordd y dylai, ac na ddylai newid i'r gwasanaeth ddigwydd. Nid yw'n ymwneud ag arian, nid yw'n ymwneud ag ewyllys gwleidyddol i gynnal y gwasanaethau presennol—mae'n ymwneud mewn gwirionedd â beth yw'r gwasanaeth cywir i'w ddarparu a sut rydych chi'n darparu'r math o ofal rwyf fi ei eisiau ar gyfer fy nheulu ac y mae pob un ohonom ei eisiau ar gyfer ein teuluoedd a'n hetholwyr.
Yn olaf, Huw Irranca-Davies.
Diolch, Lywydd. Mae Ysbyty Brenhinol Morgannwg yn gwasanaethu fy etholwyr o ardaloedd Llanharan a Gilfach Goch ac Evanstown, er bod Ysbyty Tywysoges Cymru ym Mhen-y-bont ar Ogwr, sydd hefyd o fewn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg bellach, yn hanfodol bwysig i'r rheini ac i etholwyr eraill. Felly, er na all yr un ohonom, fel Aelodau cyfrifol o’r Senedd, anwybyddu goblygiadau ymddeoliad yr unig feddyg ymgynghorol parhaol yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg sydd ar fin digwydd yn gynharach na'r disgwyl, a'r ddibyniaeth yn sgil hynny ar feddygon locwm, mae gan fy etholwyr gwestiynau sy'n haeddu atebion gonest.
Sut y cyraeddasom sefyllfa lle nad oes ond un meddyg ymgynghorol parhaol yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg? A pham nad yw'r bwrdd iechyd wedi gallu recriwtio meddygon ymgynghorol ychwanegol dros gyfnod hir? Nid yw hyn yn gwbl annisgwyl. Mae'r goblygiadau i Ysbyty Brenhinol Morgannwg yn sylweddol ac yn uniongyrchol, gan ei bod yn ymddangos bod gweithredu adran damweiniau ac achosion brys sy'n gweithredu'n llawn gyda'r radd a'r dyfnder priodol o arbenigedd ar ddarpariaeth locwm yn unig yn anghynaliadwy. Mae meddygon locwm yn rhan hanfodol o adrannau damweiniau ac achosion brys, ond mae dyfnder ac ehangder yr arbenigedd sydd ei angen mewn adrannau damweiniau ac achosion brys modern yn galw am nifer o feddygon ymgynghorol arbenigol amser llawn. Felly, a gaf fi ofyn ar ran fy etholwyr, a wnaed ymdrechion i ddod o hyd i feddygon ymgynghorol damweiniau ac achosion brys ychwanegol ar draws ardal y bwrdd iechyd ehangach, neu hyd yn oed mewn byrddau iechyd cyfagos i gynnal y gwasanaeth yno dros dro, tra bod ymdrechion pellach i recriwtio yn parhau?
Ac wrth gwrs, yn llechu yn y cefndir mae'r rhaglen de Cymru wreiddiol ar gyfer damweiniau ac achosion brys, rhaglen a gynlluniwyd rai blynyddoedd yn ôl bellach, ac na fu erioed yn weithredol. Felly, a gaf fi ofyn a yw hyn, trwy ddamwain neu gynllun, yn ymgais i roi rhaglen de Cymru ar waith yn hwyr yn y dydd, ac os felly, a yw'r cynigion yn y cynllun hwnnw'n gyfredol ar gyfer ystyried y pwysau cyfredol yn y system a phwysau yn y dyfodol, gan gynnwys datblygu miloedd—miloedd—o gartrefi newydd yn nwyrain fy etholaeth, yn ogystal â miloedd yn rhagor yn ardal Pontypridd, i'r gorllewin o Gaerdydd? A yw'r rhaglen honno'n rhan o hyn mewn unrhyw ffordd? Ac os felly, onid yw'n wir na fydd rhai o'r cyfrifiadau hynny’n gyfredol bellach? Ac ar y sail honno, pa asesiad a wneir o effaith y cynigion newydd nid yn unig ar Ysbyty Brenhinol Morgannwg, ond ar Ysbyty Tywysoges Cymru ym Mhen-y-bont ar Ogwr ac Ysbyty Tywysog Siarl ym Merthyr Tudful, sydd â'u hadrannau damweiniau ac achosion brys eu hunain, sydd o dan bwysau enfawr ar hyn o bryd wrth gwrs?
Ac yn olaf, Weinidog, a allwch chi annog y bwrdd iechyd i barhau â'u hymgysylltiad—ymgysylltiad gonest, didwyll ac agored—â'r cyhoedd, nid yn unig ag arweinwyr etholedig, i fynd trwy hyn? Efallai eu bod bellach mewn sefyllfa annymunol, ond yr unig ffordd trwy hyn yw bod yn onest ac yn agored ac ymgysylltu'n barhaus ag etholwyr, sydd ag ofnau go iawn ynglŷn â’r hyn a allai ddod.
Rwy'n sicr yn cydnabod y pwynt olaf a wnaethoch. Mae yna bobl sy'n wirioneddol ofnus ynghylch newid arfaethedig o'r math hwn, ac mae'n bwysig fod y bwrdd iechyd yn gwbl agored a gonest ynglŷn â'r hyn y maent yn ei argymell a pham, a bod y bobl sy'n ymwneud â darparu'r gwasanaeth yn rhan weithredol o’r sgwrs honno gyda'i gilydd, gydag arweinwyr a rheolwyr eu bwrdd iechyd, a'r cyhoedd hefyd.
Ac rwy'n credu ein bod yn dychwelyd at bwyntiau a nodwyd yn y papur, ac unwaith eto, mae'r cyfarwyddwr meddygol, nad oedd o gwmpas adeg rhaglen de Cymru ond sydd wedi edrych yn ei bapur ar yr hyn a ddywedai rhaglen de Cymru, yn nodi bod y sefyllfa a ddisgrifiwyd gan raglen de Cymru wedi dod yn un fwy argyfyngus erbyn hyn ag ystyried yr heriau o ran y pwysau ar y gwasanaeth. Ond hefyd yn y papur hwnnw, mae’n rhoi sylw i’r ffaith bod datblygiad preswyl eisoes wedi digwydd ac yn digwydd yn awr—felly, mewn perthynas â’r boblogaeth a natur y ddemograffeg.
A phe bai ymgais wedi bod i fynd i'r afael â'r mater hwn yn rhagweithiol yn gynharach a gwneud newidiadau, rwy'n credu ei bod hi'n deg dweud y byddai pryderon real iawn wedi bodoli bob amser ynghyd â’r rhai y clywn amdanynt heddiw. Ac eto, rwy'n credu ei bod hi'n debygol, pe bai'r mater hwn wedi'i ddeall yn gynt yn hytrach nag yn hwyrach, byddem mewn sefyllfa wahanol. Oherwydd rhan o'r her o gael staff yn dod i mewn i wasanaeth yw'r pwynt o gael model mwy hirdymor y mae pobl yn cytuno ag ef, yn barod i ymrwymo iddo, ac am weld eu gyrfaoedd yn rhan ohono.
Ond o ran cynnal y model, mae'r bwrdd iechyd, nid yn unig o fewn ei staff presennol—rwy'n deall ei fod eisoes yn siarad â phartneriaid am gynnal gwasanaeth tra'u bod yn dod at fodel gweithredu newydd. Ond nid wyf yn meddwl ei bod hi'n synhwyrol ceisio dwyn perswâd ar feddygon ymgynghorol sydd ar hyn o bryd yn gweithio ym Merthyr Tudful ac Ysbyty Tywysoges Cymru ym Mhen-y-bont ar Ogwr, i gynnal darpariaeth meddyg ymgynghorol ar y model presennol yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg.
Ac os edrychwch ar batrymau recriwtio ac ymddygiad meddygon ymgynghorol ac i ble mae meddygon ymgynghorol wedi mynd, rwy'n credu mai dyna'n union y math o her a fyddai, pe bai'n cael ei chyflwyno neu ei gwneud yn ofynnol, yn arwain at wneud i'r bobl hynny chwilio am waith yn rhywle arall. Gall meddygon ymgynghorol adrannau achosion brys gael gwaith yn unrhyw ran o'r wlad fwy neu lai. Maent yn griw o bobl y mae galw mawr amdanynt.
Mae'n ymwneud â diogelu'r grŵp sydd gennym ar hyn o bryd, gwneud yn siŵr eu bod yn aros yn ein system, a chael model gofal a fydd yn gweithio i'r boblogaeth leol ac a fydd yn gweithio i'r gwasanaeth iechyd mewn ffordd barhaus. Ac i wneud hynny, i ddod yn ôl at eich pwynt olaf, rhaid i'r bwrdd iechyd fod yn agored ac yn dryloyw ynghylch yr hyn y maent yn ei wneud a pham, a sut y maent yn ystyried y negeseuon a gânt gan aelodau o'r cyhoedd, cynrychiolwyr etholiadol a'u staff eu hunain, gan gynnwys mynd i'r afael â'r pryderon gwirioneddol sydd gan aelodau'r cyhoedd.
Diolch i'r Gweinidog.