Part of the debate – Senedd Cymru am 4:00 pm ar 29 Ionawr 2020.
Darren, Pontypridd yw un o'r trefi sy’n adfywio fwyaf yn ne Cymru gyfan yn ôl pob tebyg. Arian Ewropeaidd a alluogodd bedestreiddio; arian Ewropeaidd a'i gwnaeth yn bosibl i'r lido ddigwydd; arian Ewropeaidd sy'n eu galluogi i adfywio hen ganolfan siopa Taf. A ydych yn dweud mai gwastraff arian yw hynny? A wnewch chi ddweud hynny wrth yr holl bobl sy'n cael y swyddi a ddaw i mewn i ardal Pontypridd erbyn hyn?