Part of the debate – Senedd Cymru am 4:46 pm ar 29 Ionawr 2020.
Ddirprwy Lywydd, rwyf wrth fy modd o weld bod ymdeimlad iach o eironi yn fyw ac yn iach ar feinciau'r Ceidwadwyr. Wythnos ar ôl wythnos, fis ar ôl mis, wrth i mi a fy nghyd-Aelodau yma ar feinciau'r Llywodraeth gyflwyno datganiadau ar Brexit neu ddadleuon ar Brexit, mae Darren Millar wedi dweud y drefn wrthyf ar draws y Siambr, gan ddweud, 'Beth sy'n newydd? Beth sy'n newydd?' Ac eto, heddiw, rwy'n edrych ar y papur trefn ac rwy'n gweld cynnig yn enw'r un Darren Millar ar bwnc Brexit. Ac rwy'n siŵr y bydd digon o Aelodau yn y Siambr yn gwrando gyda pharch ar ei araith, ac yn dweud, 'Beth sy'n newydd?'
Ond heddiw—gobeithio y gwnaiff yr Aelodau faddau i mi—rwyf am edrych ymlaen nid yn ôl. Nid ydym am ailchwarae dadleuon y tair blynedd diwethaf. Felly, fel canllaw i'n hymagwedd yn y dyfodol at y negodiadau gyda'r Undeb Ewropeaidd, rydym newydd gyhoeddi dogfen sy'n nodi ein dull o weithredu. Yn y ddogfen honno, rydym yn gwbl glir ein bod yn derbyn, o gofio mai Llywodraeth y DU sydd â'r prif gyfrifoldeb dros gysylltiadau rhyngwladol, fod gan y Prif Weinidog fandad o'r etholiad i ddilyn y llwybr yr oedd yn ei argymell. Felly, rydym yn gadael yr Undeb Ewropeaidd yr wythnos hon ac yn anelu at berthynas economaidd sy'n seiliedig ar gytundeb masnach rydd.
Rydym ni, fel Llywodraeth, yn derbyn nad yw ein gweledigaeth o fodel tebyg i'r un Norwy a mwy, a welai'r DU yn cymryd rhan yn y farchnad sengl a'r undeb tollau, yn gynaliadwy mwyach. Felly, ni fyddwch yn ein clywed yn dadlau o blaid y cynnig hwnnw yn y dyfodol, ond parhawn i ddadlau ar sail y dystiolaeth ac er budd y dyfodol mwyaf llewyrchus i Gymru ar ôl Brexit, dros roi'r flaenoriaeth uchaf i berthynas economaidd gyda'r UE, ac i'r berthynas fod yn seiliedig ar leihau'r rhwystrau nad ydynt yn rhai tariff yn ogystal â dileu tariffau a chwotâu. Ac oni bai bod negodiadau'n profi fel arall, mae'n debygol y bydd angen i reoleiddio gyd-fynd yn agos â'r Undeb Ewropeaidd, o leiaf o ran nwyddau a bwydydd-amaeth.
Y mater arall y bydd angen rhoi sylw iddo yn awr yw dyfodol confensiwn Sewel. Roedd y ffaith bod y Senedd wedi gwrthod y cynnig cydsyniad deddfwriaethol yn arwyddocaol iawn, ac roedd penderfyniad Senedd y DU yr un mor arwyddocaol wrth fwrw ymlaen â'r Bil cytundeb ymadael heb ei ddiwygio, er bod Senedd yr Alban a Chynulliad Gogledd Iwerddon hefyd wedi pleidleisio yn yr un modd. Felly, ble mae hynny'n gadael confensiwn Sewel?
Creadigaeth datganoli yw Sewel; ymgais i gysoni damcaniaeth ynghylch sofraniaeth seneddol ddilyffethair â chydnabyddiaeth o gyfreithlondeb democrataidd y deddfwrfeydd datganoledig. Mae'r math hwn o dŷ hanner ffordd cyfansoddiadol yn gynnyrch cyfansoddiad anysgrifenedig a thensiwn gwleidyddol nad yw wedi'i ddatrys, lle mae pragmatiaeth yn bwrw egwyddor i'r cysgod mewn perthynas â materion cyfansoddiadol.
Rydym am weld diffiniad llawer cliriach a thynnach o Sewel. Ond heb ailwampio ein trefniadau cyfansoddiadol yn drylwyr, mae'n rhaid inni gydnabod y posibilrwydd y gallai Senedd y DU weithredu'n ymwybodol mewn ffordd sy'n herio ewyllys y deddfwrfeydd datganoledig. Hyd nes y daw diwygio o'r fath, ni ddylid defnyddio'r pŵer hwnnw ac eithrio pan fetho popeth arall. Felly, er ein bod yn gresynu na wnaeth Llywodraeth y DU fwy i ateb ein pryderon dilys ynghylch effaith bosibl y Bil ar gymhwysedd y Senedd hon, croesawn ei chydnabyddiaeth fod bwrw ymlaen heb gydsyniad yn yr achos hwn yn gwbl eithriadol, a byddwn yn eu dwyn i gyfrif am hynny ac yn gweithio gyda hwy, gobeithio, i geisio cryfhau Sewel er mwyn gwneud yn siŵr mai'r tro hwn yw'r tro olaf.